Agenda item

Cais diwygiedig i godi adeilad newydd er mwyn darparu 48 uned byw ar gyfer myfyrwyr

 

AELOD LLEOL:        Cynghorydd John Wynn Jones

 

Dolen i'r dogfennau cefndir perthnasol

Cofnod:

         Cais diwygiedig i godi adeilad newydd er mwyn darparu 48 uned byw ar gyfer myfyrwyr

 

         Tynnwyd sylw at y sylwadau ychwanegol a dderbyniwyd

        

(a)      Ymhelaethodd y Rheolwr Cynllunio ar gefndir y cais, gan nodi mai cais llawn ydoedd i godi adeilad newydd er mwyn darparu 48 uned byw gyda 57 lle gwely ar gyfer myfyrwyr. Byddai’r unedau yn darparu 45 o unedau stiwdio hunan cynhaliol a 3 uned byw clwstwr gyda 4 ystafell wely'r un a chegin lolfa i rannu.

 

Golygai'r bwriad godi adeilad tri llawr gyferbyn tai 1-10 Ffordd Euston sy’n camu i lawr gyda llethr Ffordd Euston i ran pedwar llawr gyferbyn talcennau tai Ffordd Denman yn agos i ganol Dinas Bangor a thu mewn i’r ffin ddatblygu. Roedd adeilad Clwb y Rheilffordd a oedd ar y safle eisoes wedi ei ddymchwel ac wedi ei glirio drwy ganiatâd blaenorol (trwy apêl) er mwyn codi  adeilad 3 llawr i greu cyfanswm o 27 fflatiau gyda 39 lle gwely ar gyfer myfyrwyr. Yn dilyn hynny rhoddwyd caniatâd i ddiwygio’r caniatâd hwnnw trwy ddiwygio gosodiad mewnol yr adeilad i ddarparu 29 uned gyda 47 lle gwely; y bwriad dan sylw am 48 uned (57 lle gwely), felly cynnydd o 10 lle gwely. O ganlyniad, roedd angen pwyso a mesur yr ystyriaethau materol wrth benderfynu os oedd egwyddor y datblygiad arfaethedig yn parhau yn dderbyniol.

 

Yng nghyd-destun mwynderau cyffredinol a phreswyl nodwyd bod dyluniad a maint yr adeilad wedi newid ers y caniatâdau blaenorol. Eglurwyd y byddai’r adeilad yn parhau i gamu i lawr Ffordd Euston yn unol â’r caniatâd presennol;  bod uchder y grib yn is na’r tai sydd wedi eu lleoli gyferbyn (rhifau 1-10 Ffordd Euston) ac yn cydweddu a’r tai union cyfochrog (11 a 12 Ffordd Euston). Byddai’r dyluniad a’r deunyddiau yn cydweddu gyda dyluniad traddodiadol tai'r ardal. Byddai yn ymddangos fel datblygiad preswyl teras/fflatiau o safbwynt ei faint, ffurf a dyluniad.

 

Gyda chynnydd o 10 lle gwely ychwanegol ni ystyriwyd y byddai hyn yn achosi niwed sylweddol i fwynderau preswylwyr cyfagos o ran sŵn neu aflonyddwch. Derbyniwyd cynllun rheoli myfyrwyr fel rhan o’r cais er mwyn dangos rheolaeth o’r myfyrwyr ac i sicrhau na fyddai’r  datblygiad yn cael effaith niweidiol o’r ardal o’i gwmpas. Ystyriwyd y byddai  yn rhesymol  gosod amod i sicrhau fod yr adeilad yn cael ei rholi yn unol â’r manylion a gyflwynwyd.

 

Er y cydnabuwyd  pryder gan wrthwynebwyr, ni ystyriwyd bod y cynllun yn gyfystyr a gor-ddatblygiad o’r safle. Ystyriwyd bod y bwriad yn dderbyniol ac yn cydymffurfio gyda gofynion polisïau a chanllawiau lleol a chenedlaethol. 

 

(b)     Gwnaed y prif bwyntiau canlynol gan yr aelod lleol (nad oedd yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn):-

·         Bod y bwriad yn or-ddatblygiad. Y datblygwr eisoes wedi cael caniatâd am 47 a bod hyn yn ddigonol

·         Nid yw’r safle yn hwylus i fyfyrwyr Coleg Menai ac nid yw ar lwybr bysus lleol

·         Ei fod yn awgrymu bod y datblygwr yn gosod mannau parcio i gynorthwyo gyda’r sefyllfa yn y gymuned

·         Angen ystyried os yw’r ddadl bod hosteli myfyrwyr yn rhyddhau tai i deuluoedd yn y ddinas. Awgrym i asesu faint o dai amlfeddiannaeth sydd yn mynd nôl i ddefnydd

·         Ei fod yn gwrthwynebu y cais

 

c)        Cynigwyd ac eiliwyd i wrthod y cais, yn groes i’r argymhelliad ar sail gor-ddatblygiad

 

ch)    Yn ystod y drafodaeth ddilynol nodwyd y prif sylwadau canlynol gan aelodau:

·           Bod angen ystyried sylwadau'r Aelod Lleol

·           Cytuno bod angen gwneud gwaith o asesu sefyllfa tai amlfeddiannaeth

·           Derbyn yr awgrym am gael mannau parcio ychwanegol -

·           Bod y bwriad yn or-ddatblygiad ac o ganlyniad bydd cynnydd mewn sŵn, gwastraff ac effaith ar gyfleusterau a mwynderau trigolion lleol

·           Pryd fydd yn dderbyniol dweud digon yw digon ar ddatblygiadau hosteli myfyrwyr

·           Effaith gronnol yn achosi pryder

·           Bod addasu cynlluniau am y trydydd tro yn rhwystredigaeth

 

·           Nid yw 10 lle gwely ychwanegol yn newid mawr i’r hyn sydd yn barod

·           Bod y galw am letyau myfyrwyr yn cynyddu

 

PENDERFYNWYD gwrthod y cais ar sail gor-ddatblygiad ac effaith ar fwynderau preswyl trigolion yr ardal

 

 

 

Dogfennau ategol: