Gosod polyn gyda 3 antenna i gyfanswm uchder o 20m, gosod un lloeren cyfathrebu ynghyd a gosod 3 cabinet offer, 1 cabinet yn cynnwys mesurydd gyda ffens 2m uchder yn amgylchynnu
AELOD LLOEL: Cynghorydd Annwen Daniels
Cofnod:
Gosod polyn gyda 3
antenna i gyfanswm uchder o
20m, gosod un lloeren cyfathrebu ynghyd a gosod 3 cabinet offer, 1 cabinet yn
cynnwys mesurydd gyda ffens 2m uchder
yn amgylchynu
Tynnwyd sylw at y
sylwadau ychwanegol a dderbyniwyd
a)
Ymhelaethodd y Swyddog Rheolaeth Datblygu ar gefndir y
cais a thynnwyd sylw bod bwriad lliwio’r mast yn lliw olewydden mwll yn hytrach
na brown olewydden fel y nodwyd yn
yr adroddiad - roedd bwriad lliwio’r
cabinet yn wyrdd.
Nodwyd bod y safle
wedi ei leoli ar gyrion pentref Tanygrisiau, oddi mewn i safle oedd yn cael ei
ddefnyddio ar gyfer parcio/ biniau ail-gychu. Derbyniwyd nifer o ymatebion gan
y cyhoedd ar faterion oedd yn ymwneud ac effaith pelydrau, agosatrwydd at dai
a’r Ysgol Gynradd, nad oedd angen y datblygiad
a’r effaith weledol y byddai yn cael ar yr ardal.
Amlygwyd mai'r
prif ystyriaethau cynllunio oedd yr effaith weledol a’r effaith ar iechyd.
Eglurwyd, gyda’r math yma o ddatblygiad, y byddai’r strwythur arfaethedig yn
rhannol weladwy o fannau cyhoeddus oherwydd yr angen iddo fod mewn lleoliad
weddol agored er mwyn sicrhau y byddai’n gweithio i’w gapasiti
llawn. Er hynny, roedd gan yr Awdurdod Cynllunio Lleol bryder ynghylch ag
effaith weledol y datblygiad, yn enwedig o gyfeiriad Tanygrisiau; ond o
ystyried nad oedd Parc Cenedlaethol Eryri yn gwrthwynebu’r bwriad, ac o
ystyried cynnwys yr Asesiad Effaith Weledol ar y Dirwedd, ni ystyriwyd fod yr
effaith yn sylweddol yn yr achos yma. Nodwyd bod gorffeniad y mast yn
dderbyniol oherwydd natur y tir sydd yn gefndir i’r datblygiad, ac ystyriwyd y
byddai yn ymdoddi yn well gyda’r gorffeniad hwn.
Cyflwynwyd dogfen
fel rhan o’r cais, oedd yn cadarnhau fod y datblygiad wedi ei ardystio i
gydymffurfio a chanllawiau ICNIRP, sef y canllawiau safonol ar gyfer asesu
effaith ar iechyd. Er cydnabuwyd pryderon a godwyd o fewn y cyfnod ymgynghori
ni ystyriwyd fod y bwriad yn groes i’r polisïau cenedlaethol na’r Cynllun
Unedol ac nad oedd angen rhagor o wybodaeth i asesu effaith posib y
datblygiad.
Wedi ystyried yr
holl faterion cynllunio perthnasol gan gynnwys polisïau a chanllawiau lleol a
chenedlaethol, ystyriwyd bod y bwriad yn dderbyniol ac yn bodloni gofynion y
polisïau perthnasol.
b)
Cefnogwyd y cais gan yr aelod lleol (nad oedd yn aelod
o’r Pwyllgor hwn)
c)
Yn manteisio
ar yr hawl
i siarad nododd yr ymgeisydd y prif bwyntiau canlynol:-
·
Bod gwasanaeth 3G a 4G yn wael iawn yn yr ardal yma
·
Nad oedd trigolion a busnesau yn cael signal tu mewn i’w
tai / busnes
·
Bod llawer erbyn hyn yn dibynnu ar eu ffonau symudol am
fynediad i’r fewnrwyd
·
Ni fuasai yn effeithiol petai yn cael ei osod yn is na’r
coed
·
Nad oedd unrhyw dystiolaeth argyhoeddedig bod effaith pelydrau ar iechyd
·
Bod galw ac angen
am y datblygiad
Cynigiwyd ac eiliwyd i ganiatáu’r cais
ch) Yn ystod y drafodaeth
ddilynol nodwyd y prif sylwadau canlynol gan aelodau:
·
Bod y datblygiad yn welliant sylweddol
·
Bod y datblygiad yn gwella cyfleusterau yn yr ardal
·
Gyda nifer yn cerdded / mynydda yn yr ardal, byddai'r
datblygiad yn hwyluso gwaith y Timau Achub
a’r Gwasanaethau Brys
·
Bod angen sicrhau nad oedd y safle ailgylchu yn cael ei
golli
PENDERFYNWYD
caniatáu’r cais.
1. Amser
2.
Cydymffurfio gyda’r cynlluniau
3. Tynnu’r mast a’r offer cysylltiol ac adfer y tir os
yw’r defnydd yn dod i ben.
4. Amod lliw'r mast a’r
antena/lloeren
5. Amod lliw'r cabinet a’r ffens
6. Cytuno cynllun tirlunio a gwaredu
rhododendron
Dogfennau ategol: