Agenda item

Dyluniad diwygiedig i estyniad a ganiatawyd gan ganiatad rhif C14/0215/39/LL

 

AELOD LLEOL:        Cynghorydd  R.H. Wyn Williams

 

Dolen i'r dogfennau cefndir perthnasol

 

 

 

Cofnod:

Dyluniad diwygiedig i estyniad a ganiatawyd gan ganiatâd rhif C14/0215/39/LL

 

(a)      Ymhelaethodd y Rheolwr Cynllunio ar gefndir y cais, gan nodi yng nghyfarfod o’r Pwyllgor Cynllunio dyddiedig 07 Tachwedd 2016 penderfynwyd gohirio ystyried y cais er mwyn datrys anghysondebau rhwng y cynlluniau a gyflwynwyd ar gyfer adeilad oedd yn cael ei adeiladu ar y safle.

 

Yn dilyn derbyn cwyn ynglŷn â’r datblygiad yn mynegi bod uchder yr estyniad ochr yn uwch na’r cynllun a ganiatawyd, bu i Swyddog Gorfodaeth ymweld â’r safle a thrafod y mater gyda’r ymgeisydd a derbyniwyd cais rhannol ôl weithredol (cynllun diwygiedig 13 Chwefror 2017)  Eglurwyd bod y cais yn rhannol ôl weithredol er mwyn cadw addasiadau oedd heb gydymffurfio gyda chaniatâd cynllunio a roddwyd o dan gyfeirnod C14/0215/39/LL

 

Nodwyd bod caniatâd cynllunio gweithredol yn bodoli ar y safle yn ystyriaeth cynllunio o bwys wrth ystyried y cais presennol. Amlygwyd bod y Cyngor eisoes wedi caniatáu  datblygiad cyffelyb ar y safle ac ni ystyriwyd bod y gwahaniaeth i’r dyluniad yn ddigon i gyfiawnhau gwrthod y cais. Nid oedd y bwriad yn amharu yn sylweddol ar fwynderau gweledol yr ardal na thrigolion cyfagos Roedd  yn cydymffurfio â’r cyfan o’r polisïau a nodiwyd yn yr adroddiad.

 

(b)       Yn manteisio ar yr hawl i siarad nododd gwrthwynebydd y prif bwyntiau canlynol:-

·         Ei fod yn gwrthwynebu ar sail lleihad mwynderau

·         Bod y datblygiad yn un cyfyng iawn

·         Bod y cynlluniau diwygiedig yn gamarweiniol o ran effaith

·         Wal o fewn y cynlluniau diwygiedig yn uwch na’r wal wreiddiol fydd yn dyblu o ran maint ac yn creu effaith sylweddol / gormesol ar fwynderau trigolion cyfagos

·         Bydd lleihad sylweddol mewn goleuni a gwres naturiol i dai cyfagos

·         Bod yr effaith weledol yn aruthrol ac yn andwyol

 

(c)       Yn manteisio ar yr hawl i siarad nododd yr ymgeisydd y prif bwyntiau canlynol:-

·      Ei fod yn hapus gyda chynnwys yr adroddiad ac yn derbyn yr amodau

·      Y byddai'r adeilad yn edrych yn dderbyniol unwaith y bydd wedi ei gwblhau

·      Ei fod yn edrych ymlaen at setlo i lawr yn Abersoch gyda theulu cyfagos

·      Sicrhaodd na fyddai’r newidiadau i’r cynlluniau yn amharu dim ar gymdogion

·      Ni fydd gor-edrychiad gan nad oes ffenest i’r dwyrain

·      Bod cais wedi ei wneud am falconi gan fod yr ardd yn fechan

·      Bod yr ystafell haul wedi ei symud tua throedfedd oherwydd yn rhy agos i’r terfyn gan nad oedd modd cerdded at gefn y tŷ

·      Ei fod yn diolch i’r swyddogion am eu harweiniad

 

(ch)   Gwnaed y prif bwyntiau canlynol gan yr aelod lleol oedd yn gefnogol i’r cais (nad oedd yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn):-

·      Bod egwyddor y cais yn dderbyniol

·      Ei fod yn croesawu ystyriaeth i’r Ddeddf Llesiant

·      Bod y Swyddog ANHE yn gefnogol i’r cais

·      Bod y Pwyllgor eisoes wedi caniatáu cynlluniau blaenorol

·      Bod y wal yn rhan o’r cynlluniau gwreiddiol

·      Ei fod yn derbyn yr adroddiad

 

(d)      Cynigwyd ac eiliwyd i ganiatáu’r cais.

 

(dd)   Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn â maint a graddfa'r wal, nododd y Rheolwr Cynllunio bod y swyddogion wedi trafod y cynlluniau mewn manylder a bod y sefyllfa yn debyg iawn i’r hyn sydd wedi ei ganiatáu yn flaenorol.

 

(e)      Yn ystod y drafodaeth ddilynol nodwyd y prif sylw canlynol gan aelodau:

·      Man newidiadau yn unig sydd i’r cais

 

          PENDERFYNWYD caniatáu’r cais

 

1.         Unol â’r cynlluniau

2.         Llechi i gydweddu

3.         Gorffeniad i’w gytuno

4.         Rhaid cytuno ar fanylion y 'louvres' ar ddrychiad dwyreiniol yr eiddo yn ysgrifenedig gyda'r Awdurdod Cynllunio Lleol o fewn mis o ddyddiad y caniatâd hwn a’i gadw felly o hynny ymlaen

5.         Ni chaniateir unrhyw agoriadau ffenestri na drysau ychwanegol newydd, ac eithrio'r rhai sydd wedi eu dangos ar gynllun diwygiedig.

6.         Rhaid gwydro'r ffenestr baddon a lefel llawr cyntaf  ar ddrychiad gorllewinol gyda gwydr afloyw cyn meddiannu'r estyniad a’i chadw felly o hynny ymlaen

7.         Cyfyngu  uchder y wal ar hyd terfyn dwyreiniol y safle i 1.7 medr mewn uchder.

 

 

Dogfennau ategol: