Cyflwyno
adroddiad y Swyddog Morwrol a Pharciau Gwledig.
Cofnod:
Tywysodd y
Swyddog Morwrol a Pharciau Gwledig yr aelodau drwy’r adroddiad, gan dynnu sylw
at y prif bwyntiau canlynol:
·
Gofynnir i aelodau dynnu sylw’r Gwasanaeth i
faterion yng nghyswllt y Côd Diogelwch Morwrol.
·
Roedd y Gwasanaeth yn
disgwyl derbyn adolygiad o’r côd gan arbenigwr allanol Asiantaeth Gwylwyr y
Glannau ym mis Ionawr. Yn anffodus, oherwydd diffyg capasiti nid oedd yr
archwiliad wedi ei gynnal ac roedd y Gwasanaeth yn disgwyl i ail drefnu’r
adolygiad. Rhagwelwyd y cynhelir yr adolygiad ym mis Medi 2017.
·
Yn dilyn sylw a wnaed yn y cyfarfod blaenorol
roedd golau’r Bwi Tramwyo wedi ei newid fel bod y golau i’w weld ymhellach o’r
môr. Cyfeiriwyd at gryfder golau diogelwch cwmni Blue Water Marine, nododd
Cynrychiolydd Cymdeithas Masnachwyr Morwrol y byddai’n codi’r mater efo’r
cwmni.
·
Bod y Gwasanaeth, ar y
cyd gyda Sefydliad y Bad Achub, wedi cychwyn ar waith cynnal adolygiad o
arwyddion diogelwch ardal yr Harbwr a thraethau Pwllheli. Fe fyddai’r
Gwasanaeth yn ymateb i ganlyniad yr archwiliad a gobeithir y byddai unrhyw
arwydd newydd yn cyfrannu at ddiogelwch ar y rhan yma o arfordir Gwynedd.
·
Manylwyd ar sefyllfa gyllidebol bresennol yr
Harbwr a’r Hafan gan nodi fod y Gwasanaeth yn ffyddiog y byddai’r gyllideb yn
unol â’r targed heblaw am ddiffyg yn incwm yr Hafan.
·
Yr
ail-edrychir ar sut cyflwynir gwybodaeth gyllidebol i’r Pwyllgor Ymgynghorol.
·
Bod y Cyngor wedi cefnogi cais y Gwasanaeth
i unioni trefn codi ffi yn yr Hafan. O’r 1af o Ebrill ymlaen fe
fyddai’r drefn codi ffi am angorfa pontŵn yn dychwelyd at drefniant
Uchafswm Hyd Cwch (LOA) yn Hafan Pwllheli. Rhagwelwyd y byddai hyn yn lleihau
cost angorfa flynyddol i 95% o’r cwsmeriaid oedd ar drefniant codi ffi
‘banding’ a gobeithir byddai hyn yn denu cwsmeriaid newydd i’r Hafan dros y
tair blynedd nesaf.
·
Bod rhaid i’r Cyngor ychwanegu ffi am bob angorfa ym mhob Harbwr o dan reolaeth y Cyngor yn 2017.
Eglurwyd bod y ffi wedi ei ychwanegu gan Ystad y Goron a fyddai’n hawlio £25.00
am bob angorfa yn yr Harbwr Allanol. Nodwyd bod gofyn ar y Cyngor, fel yr
Awdurdod Harbwr, i godi a chasglu’r ffi ar ran Ystad y Goron. Ychwanegwyd bod y ffi ychwanegol hefyd yn daladwy am
angorfeydd ymwelwyr ac fe fydd gofyniad i’r taliad hwn
gael ei ariannu drwy gyllideb yr Harbwr.
Rhoddwyd
diweddariad ar y gwaith a fwriedir ei gwblhau yn unol â’r Strategaeth Carthu,
nodwyd y cynhelir archwiliad o’r sianel yn ystod y llanw isel mwyaf ffafriol
nesaf gan gynnal arolwg hydrograffeg er mwyn adnabod os byddai angen comisiynu
gwaith ‘bed levelling’ yn y sianel. Nodwyd y gwneir gwaith
carthu ceg yr harbwr yn ystod mis Ebrill cyn gwneud gwaith ‘bed levelling’ cyn
y Sulgwyn os oes angen. Nododd y Swyddog Morwrol a Pharciau Gwledig y
byddai’n anfon copi o’r Strategaeth Garthu i’r aelodau nad
oedd wedi derbyn copi.
Mewn ymateb i gwestiwn gan aelod o ran
cynyddu maint y forddwyd, nododd y Swyddog Morwrol a Pharciau Gwledig y
bwriedir dychwelyd y forddwyd i’w ffurf flaenorol. Nodwyd y
byddai costau sylweddol ynghlwm â chynyddu maint y forddwyd oherwydd y
trwyddedau a fyddai’n rhaid eu derbyn o dan reoliadau cynefinoedd i weithredu.
Nododd aelod ei rwystredigaeth o ran
cyflymdra gweithredu ar y Strategaeth Carthu a oedd yn
holl bwysig o ran sicrhau llwyddiant i’r dyfodol. Mewn ymateb, nododd Uwch
Reolwr Economi a Chymuned ei fod yn derbyn y sylw o ran cymryd amser i
weithredu ond bod y baich carthu yn ddwys a heb ddatrysiad syml. Cadarnhaodd bod y Strategaeth Carthu wedi ei adnabod fel
blaenoriaeth i’r Adran Economi a Chymuned ar gyfer y flwyddyn ariannol 2017-18.
Nododd Cynrychiolydd Cymdeithas Cychod
Harbwr Pwllheli bod y gymdeithas wedi cynnal arolwg barn o’u haelodau, mater a amlygwyd gan yr aelodau oedd eu dyhead am fwy o
gyfleusterau megis bwytai a thafarndai yn agosach i’r Hafan gan eu bod yn
teimlo ei fod yn rhy bell i fynd i’r dref. Ychwanegodd bod carthu yn holl
bwysig ond bod angen ystyried materion eraill gan na
fyddai ar ben ei hun yn denu pawb yn ôl.
Cyfeiriodd y Swyddog Morwrol a Pharciau
Gwledig at Ardal 5 o’r Harbwr Allanol, nodwyd yr unionwyd ardal 5 a 6 ac fe
fuddsoddwyd mewn un rhes o angorfeydd ynghyd â 3 angorfa stanc a fyddai ar gael
am yr un ffi. Eglurwyd y byddai Rheolwr Harbwr Pwllheli yn
ystyried y ceisiadau a dderbynnir.
Mewn ymateb i sylw
gan Gynrychiolydd Cymdeithas Perchnogion Cychod Pwllheli a’r Cylch, nododd y
Swyddog Morwrol a Pharciau Gwledig bod y 3 stanc cyntaf wedi eu neilltuo i bobl
leol. Nodwyd y byddai hawl gan y Cyngor i angora cychod
ochr yn ochr ar y tri stanc cyntaf er mwyn cynyddu capasiti lleol.
Adroddwyd na fyddai
adnewyddiad i gwsmeriaid os oedd eu cyfrif mewn dyled. Mewn ymateb i sylw gan
Gynrychiolydd Cymdeithas Perchnogion Cychod Pwllheli a’r Cylch, nodwyd nid oedd
hyn wedi ei gyfeirio at unigolion penodol, roedd yn gyffredinol i holl
gwsmeriaid gyda chyfrifoldeb gan y Cyngor i warchod arian
a oedd yn ddyledus i dreth dalwyr.
Nododd
Cynrychiolydd Clwb Hwylio Pwllheli a Phlas Heli bod y trefniant gyda’r Cyngor o
ran cychod o Ardal 5 yn angori ym Mhlas Heli dal yn agored i gwsmeriaid.
Mewn ymateb i sylwadau yng nghyswllt hybu
unigolion i gymryd angorfa ym Mhlas Heli ar draul yr Hafan, nododd y Swyddog
Morwrol a Pharciau Gwledig bod y Cyngor yn cyd-weithio efo Plas Heli i geisio
hwyluso mynediad pobl leol gan fod ffi'r Hafan yn uwch oherwydd y cyfleusterau
ychwanegol a oedd ar gael.
Nododd Cynrychiolydd Clwb Hwylio Pwllheli a
Phlas Heli bod Plas Heli wedi ei ariannu gan arian grant Ewrop ac mai un o’r
amcanion pan sefydlwyd Plas Heli oedd darparu angorfeydd am bris is na’r
farchnad i bobl leol.
Awgrymodd
Cynrychiolydd Cymdeithas Perchnogion Cychod Pwllheli a’r Cylch y dylid ystyried
gostwng ffioedd yr Hafan er mwyn ceisio llenwi’r llefydd gwag. Mewn ymateb, nododd y Swyddog Morwrol a Pharciau Gwledig y byddai’r
Gwasanaeth yn ystyried y mater.
Nodwyd bod y
Gwasanaeth yn parhau i ystyried opsiynau ac yn adolygu trefn goruchwyliaeth
diogelwch nos yr Hafan. Nododd cynrychiolydd Cymdeithas Cychod Hafan Pwllheli bod
aelodau’r gymdeithas yn bendant y dylai goruchwyliaeth diogelwch yr Hafan
barhau i fod yn 24/7.
Nodwyd yr angen i
ddefnyddio cyfran o’r gwarged a wneir yn flynyddol yn yr Hafan tuag at gynnal a
chadw.
Cynigiwyd a eiliwyd
i ofyn i’r Aelod Cabinet - Economi ail-fuddsoddi 50% o warged blynyddol yr
Hafan er mwyn sicrhau bod adnoddau gan swyddogion i gynnal a chadw,
gweithredu’r Strategaeth Garthu a gwella’r adnoddau er denu mwy o gwsmeriaid.
PENDERFYNWYD
gofyn i’r Aelod Cabinet - Economi ail-fuddsoddi 50% o warged blynyddol yr Hafan
er mwyn sicrhau bod adnoddau gan swyddogion i gynnal a chadw, gweithredu’r
Strategaeth Garthu a gwella’r adnoddau er denu mwy o gwsmeriaid.
Nododd Cynrychiolydd Cymdeithas Masnachwyr
Morwrol yr angen i farchnata bod yr Hafan yn dychwelyd i drefniant codi ffi
Uchafswm Hyd Cwch (LOA) er mwyn denu cwsmeriaid. Mewn ymateb, nododd yr Uwch
Reolwr Economi a Chymuned y gobeithir y byddai dychwelyd i’r trefniant LOA yn
denu cwsmeriaid. Ychwanegodd bod Cymdeithas Perchnogion Cychod Pwllheli a’r
Cylch wedi bod yn allweddol o ran yr awgrym i ddychwelyd i’r trefniant.
Mewn ymateb i bryder Cynrychiolydd
Cymdeithas Masnachwyr Morwrol y byddai ffi ychwanegol Ystad y Goron yn cynyddu,
nododd y Swyddog Morwrol a Pharciau Gwledig ei fod yn gobeithio y byddai’n aros
yn statig am y pum mlynedd nesaf.
Cyfeiriodd Cynrychiolydd Cymdeithas
Perchnogion Cychod Pwllheli a’r Cylch at rwystredigaeth unigolyn nad oedd yn
gallu derbyn enw a chyfeiriad perchennog cwch gan y Cyngor yng nghyswllt hawlio
yswiriant a holodd am drefniadau yswiriant y Cyngor efo perchnogion. Mewn
ymateb, nododd y Swyddog Morwrol a Pharciau Gwledig nad
oedd y Cyngor yn cael rhyddhau enw a chyfeiriad unigolyn i unigolion eraill o
dan Ddeddf Diogelu Data 1998. Eglurodd bod y Cyngor yn y gorffennol wedi gofyn
i unigolion am gopi o’u hyswiriant, ond erbyn hyn gofynnir i berchnogion
gwblhau datganiad cyfreithiol yn nodi’r swm yr yswiriwyd y cwch, yn unol ag arweiniad cyfreithiol a dderbyniwyd. Nododd mai yswirwyr
y perchnogion a fyddai’n cysylltu efo'i gilydd os cyfyd sefyllfa o ran hawlio.
Tynnwyd sylw bod
niferoedd cychod ymwelwyr i’r Hafan yn y flwyddyn bresennol wedi cynyddu. Nododd
Cynrychiolydd Clwb Hwylio Pwllheli a Phlas Heli y byddai’n ddiddorol gweld ystadegau
o ran ymwelwyr yn yr harbyrau eraill er mwyn adnabod tueddiadau. Awgrymodd
Cynrychiolydd Cymdeithas Masnachwyr Morwrol y dylid ystyried gostwng y ffi o
ran cychod ymwelwyr er mwyn ceisio annog unigolion i ddod i Bwllheli, fe allent o ganlyniad gymryd angorfa yn y flwyddyn ganlynol.
Nododd Cynrychiolydd Cymdeithas Cychod Harbwr Pwllheli bod rhai harbyrau yn
gofyn am gyfeiriad e-bost unigolion ar gyfer marchnata gyda system draws wladol
yn bodoli o ran symud o le i le.
PENDERFYNWYD nodi a derbyn yr adroddiad.
Dogfennau ategol: