I ystyried cais gan Mr A
(copi arwahan i aelodau’r Is Bwyllgor yn unig)
Cofnod:
Cyflwynodd y Rheolwr Trwyddedu adroddiad
ysgrifenedig ar gais a dderbyniwyd gan Mr
A am drwydded gyrru cerbyd hacni/hurio preifat o’r newydd. Gofynnwyd i’r
Is-bwyllgor ystyried y cais yn unol â’r cofnod DBS, ac yn unol â’r canllawiau
ar droseddau a chollfarnau perthnasol.
Gwahoddwyd yr ymgeisydd i ymhelaethu ar y
cais. Rhoddwyd gwybodaeth am gefndir y troseddau ac amlygodd mai
camddealltwriaeth oedd y prif reswm dros ei gamgymeriad. Nododd y byddai cyngor
a gwybodaeth briodol a chywir ar ddechrau ei yrfa fel gyrrwr tacsi wedi bod yn
fanteisiol. Cadarnhaodd bod ganddo drwydded yrru gyfredol ar gyfer hurio
preifat a cherbyd hacni yn Arfon.
Ymneilltuodd yr ymgeisydd o’r ystafell tra bu i aelodau’r Is-bwyllgor drafod y cais.
PENDERFYNWYD
bod yr ymgeisydd yn berson addas
a phriodol ar gyfer trwydded gyrrwr cerbyd hacni/hurio preifat a
chaniatawyd cais Mr A am drwydded hacni/hurio preifat.
Wrth wneud eu penderfyniad, roedd yr Is-bwyllgor wedi
ystyried y canlynol:
• gofynion ‘Polisi Trwyddedu
ar gyfer Hurio Preifat a Cherbydau Hacni
Cyngor Gwynedd’
• ffurflen gais yr ymgeisydd
• adroddiad yr Adran
Drwyddedu ynghyd a’r datganiad DBS oedd yn datgelu collfarnau
Rhoddwyd ystyriaeth benodol i’r materion canlynol.
Yn dilyn datganiad ar y ffurflen gais am drosedd gyrru dros y terfyn amser
statudol ( 3 pwynt cosb yn Awst 2015), amlygwyd, yn unol â chymal 13.1 o Bolisi’r Cyngor bod mân
drosedd gyrru yn golygu trosedd rhwng 1 a 3 phwynt cosb. Amlygywd bod cymal 13.2 yn nodi na fyddai un
gollfarn am fân drosedd gyrru yn arwain at wrthod cais ac felly nid oedd yr
Is-bwyllgor yn ystyried bod y fân drosedd yma yn sail i wrthod y cais.
Yn dilyn dyfarniad gan Llys Ynadon Môn (Tachwedd 2016) ar gyhuddiad o
weithredu’n groes i reol 9 o’r Ddeddf Diogelu Defnyddwyr rhag Masnachu Annheg
2008 ynghyd â chollfarn o gymell llogiad heb drwydded cerbyd oedd yn groes i
Adran 45 Deddf Cymalau Heddlu Tref 1847,
cadarnhaodd yr ymgeisydd bod y ddau achos wedi codi o ddigwyddiad ym
Mhorthaethwy (Mawrth 2016) lle cafodd ei ddal gan Cyngor Môn mewn ymarferiad
prawf brynu.
Amlygwyd yn unol â chymal 17.0 o Bolisi Cyngor Gwynedd y byddai’n
annhebygol rhoi trwydded i ymgeisydd a
chanddo gollfarn yn gysylltiedig â thorri deddf neu is ddeddf onid oes cyfnod o
leiaf 12 mis wedi myned heibio ers yr
achos mwyaf diweddar o hynny. Er mai ond 4 mis oedd wedi mynd heibio ers
dyddiad y gwaharddiad, gwrthod y cais fyddai’r cam cyntaf, ond gyda hawl gan yr
is bwyllgor i wyro oddi ar y canllaw o fewn amgylchiadau eithriadol.
Gyda’r ymgeisydd wedi cadarnhau mai trwydded Hurio Preifat a Cherbydau
Hacni un flwyddyn ar gyfer Arfon yn unig oedd ganddo (rhwng 28.8.15 a
27.8.16), nid oedd hyn yn caniatáu iddo
weithredu ym Môn. Amlygodd yr ymgeisydd mai camddealltwriaeth oedd hyn ar ei
ran a phleidiodd yn euog i’r drosedd.
Ystyrioedd yr Is Bwyllgor nad oedd unrhyw dystiolaeth na phryderon
ynglŷn ag ymddygiad yr ymgeisydd fel gyrrwr yn Arfon yn ystod cyfnod y
drwydded.
O dan yr amgylchiadau, roedd yr Is-bwyllgor yn fodlon bod y rhesymau uchod
yn cyfiawnhau gwyro oddi wrth gymal 17.0, ac felly yn derbyn bod yr ymgeisydd
yn berson addas a phriodol i dderbyn trwydded gyda Chyngor Gwynedd.
Adroddodd y Cyfreithiwr y byddai’r penderfyniad yn cael ei gadarnhau yn
ffurfiol drwy lythyr i’r ymgeisydd ac y
byddai’r Uned Trwyddedu yn cadarnhau trefniant y drwydded.