Aelod Cabinet: Cynghorydd Dafydd Meurig
Ystyried Adroddiad
Ymchwiliad Craffu Cynllunio
Cofnod:
a) Cyflwynwyd
adroddiad yr ymchwiliad craffu trefniadau cynllunio i’r Aelod Cabinet.
Atgoffwyd pawb beth oedd cefndir y briff a rhoddwyd crynodeb o’r gwaith a wnaed
gan y Cynghorydd Eric M Jones, Cadeirydd yr ymchwiliad.
b) Ategodd yr Aelod
Cabinet ei ddiolch i’r aelodau am y gwaith da a wnaed o fewn cyfnod byr.
Trafodwyd yr argymhellion fesul un ac fe nodwyd y sylwadau canlynol gan yr
Aelod Cabinet:
·
Croesawyd yr awgrym am yr angen i aelodau ynghyd ag
aelodau cynghorau cymuned dderbyn hyfforddiant i godi ymwybyddiaeth a
dealltwriaeth o gynnwys y Cynllun Datblygu Lleol (wedi iddo ei gymeradwyo)
·
Y byddai adolygiad Ffordd Gwynedd o’r gwasanaeth yn
cael ei weithredu pan fydd yr amserlen yn caniatáu
·
Derbyn yr angen i gynnwys / tynnu sylw penodol i
faterion economaidd o fewn adroddiadau Pwyllgor Cynllunio
c) Yn
ystod y drafodaeth ddilynol, nodwyd y sylwadau canlynol:
·
Awgrym y dylid ystyried cyfarch amserlen, rhannu
ymarfer da a sylwadau cynllunio addas fel rhan o hyfforddiant cynghorau cymuned
·
Awgrym y dylid cynnwys sylwadau calonogol ynghyd a
niferoedd cwynion
·
Croesawu'r argymhelliad i gydweithio a hwyluso
trafodaethau gydag uned gwaith rheolaeth adeiladu’r Cyngor
PENDERFYNWYD, derbyn yr adroddiad, a gwblhwyd mewn amser cymharol fyr,
cymeradwyo’r argymhellion a cheisio adroddiad yn ôl gan yr Aelod Cabinet mewn
tua 6 mis o’r hyn sydd wedi ei gyflawni yn dilyn yr argymhellion
Dogfennau ategol: