Aelod Cabinet: Cynghorydd Dafydd Meurig
Ystyried adroddiad yr Aelod
Cabinet
Cofnod:
a)
Cyflwynwyd adroddiad gan yr Aelod Cabinet yn
diweddaru’r Pwyllgor ar yr hyn oedd wedi ei weithredu ers i’r Aelod Cabinet
gyflwyno adroddiad ym Medi, 2017 yn gofyn i’r Pwyllgor gefnogi'r bwriad o
adolygu a pharatoi Cynllun Gwella Hawliau Tramwy i Wynedd. Amlygwyd bod
Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi canllawiau i Awdurdodau Lleol yn egluro’r drefn
a’r camau sydd yn gosod arweiniad ynglŷn â gofynion statudol ac atodol.
Tynnwyd sylw at yr
holiadur drafft oedd wedi ei atodi yn yr adroddiad. Pwrpas yr holiadur, oedd
wedi ei lunio gyda chefnogaeth y Tîm Cyfathrebu ac Ymgysylltu,
oedd casglu barn y
cyhoedd a charfanau penodol, am Hawliau Tramwy. Pwysleisiwyd hefyd y byddai’r Cynllun
yn cael ei baratoi ar y cyd gydag Awdurdod Y Parc cenedlaethol (Eryri) ac fe
amlygwyd yr egwyddorion cydweithio oedd wedi eu llunio. Gyda 3500km o rwydwaith
angen ei asesu cydnabuwyd bod y dasg yn un anodd ac felly yn ddibynnol ar
gefnogaeth eraill.
b)
Mewn ymateb i’r holiadur, awgrymwyd yr angen i
gynnwys blwch ‘plant’ yng nghwestiwn C5 ‘Pa rai o’r canlynol fyddech yn mynd
efo chi?’
c)
Yn ystod y drafodaeth
nodwyd y sylwadau canlynol:
·
Bod
diffyg arwyddion ar lwybrau
·
Rhaid bod yn ymwybodol o broblemau sydd yn codi
gyda thir feddianwyr. Awgrymwyd bod angen pwerau i sicrhau nad yw un person yn
cael effaith
·
Bod
angen sicrhau bod yr ANHE ac Uned Cefn Gwlad yn cyfrannu at y Cynllun
·
Bod mwy o fuddsoddiad mewn llwybrau mynyddig ac
arfordirol
·
Rhaid ystyried mabwysiadu polisi i warchod y tir
rhwng llwybrau arfordirol a’r môr a sicrhau bod pobl a thirfeddianwyr yn deall
eu sefyllfa
·
Diffyg
adnoddau yn sicr o godi pryderon cynnal a chadw llwybrau
·
Grantiau yn allweddol i’r gwaith cynnal a
chadw
·
Awgrym i gydlynu gwirfoddolwyr a ‘r
gwasanaethau ieuenctid - rhaid magu parch yn y gymuned at asedau lleol
·
Awgrym i hybu’r ap pathwatch ymysg staff -
effeithiol i rannu gwybodaeth
Mewn ymateb i’r
sylw ynglŷn â grantiau derbyniwyd bod grantiau gwahanol ar gyfer cynnal
gwelliannau, ond yr amserlen ariannol yn mynd i orfodi rhaglen o
flaenoriaethau. Amlygwyd bod categorïau 1 - 5 wedi eu llunio i reoli'r adnoddau
ac awgrymwyd bod angen adolygu’r categorïau hyn. Amlygwyd hefyd bod bwriad gan
Lywodraeth Cymru i adolygu deddfwriaeth hawliau tramwy ac felly bydd
ymgynghoriad gyda chynigion ymarferol yn debygol o gael ei gyflwyno yn y
misoedd nesaf.
PENDERFYNWYD:
a)
Rhoddwyd cefnogaeth i’r Adran barhau gyda’r meysydd
gwaith sydd i’w gweithredu dros y 6 mis nesaf, sef
·
Parhau i gasglu gwybodaeth am gyflwr y rhwydwaith a
chychwyn y gwaith o ddadansoddi’r
wybodaeth.
·
Cydweithio gyda APCE i adnabod anghenion adnoddau.
·
Cydweithio gyda’r Uned Cyfathrebu / Ymgysylltu i
adnabod y dulliau gorau o ymgysylltu i gyrraedd y gynulleidfa ehangaf phosib.
Cwblhau’r holiadur a chynnal ymgynghoriad
cyhoeddus yn ystod Mai a Mehefin.
·
Parhau i werthuso'r CGHT blaenorol.
·
Edrych sut mae’r CGHT yn gorgyffwrdd a deddfwriaeth, cynlluniau a
pholisïau eraill.
·
Tuag at ddiwedd y cyfnod (oddeutu mis Medi) dechrau
ar y dasg o gyrraedd casgliadau yn
seiliedig ar y wybodaeth fydd i law a llunio cyfeiriad ar gyfer y CGHT newydd.
b)
Dylid ceisio mwy o adnoddau ar gael ond o fewn
cyfyngiadau, croesawu syniadau creadigol / defnydd i dechnoleg
c)
Bod angen ystyried cynyddu pwerau Cyngor Gwynedd
ch) Gwneud cais i’r Aelod Cabinet gyflwyno
adroddiad cynnydd mewn oddeutu 6 mis.
Dogfennau ategol: