Agenda item

Newid defnydd presennol (dosbarth defnydd C3) yn lety gwely a brecwast / gwesty (dosbarth defnydd C1). 

 

AELODAU LLEOL:               Y Cynghorwyr June E. Marshall a Mair Rowlands

 

Dolen i’r dogfennau cefndir perthnasol

Cofnod:

Newid defnydd tŷ presennol (dosbarth defnydd C3) yn llety gwely a brecwast/gwesty (dosbarth defnydd C1).

 

(a)     Ymhelaethodd y Swyddog Rheolaeth Datblygu ar gefndir y cais, gan nodi bod polisi D14 o’r CDUG yn cymeradwyo cynigion i addasu adeiladau presennol yn llety gwyliau gwasanaethol o safon uchel ar yr amod, yn achos datblygiad o fewn ffin ddatblygu, bod y datblygiad yn addas o ystyried y safle, y lleoliad a'r anheddiad dan sylw.

 

         Nodwyd bod y safle o fewn ffin ddatblygu dinas Bangor ac, er bod Rhodfa Menai yn anheddol yn bennaf, saif y safle gerllaw safle'r Ffriddoedd, gyda llawer o gyfleusterau'r Brifysgol megis neuaddau preswyl a chyfleusterau cymdeithasol a hamdden ac felly roedd cryn weithgarwch yn yr ardal. O ystyried natur y safle a'r ardal o gwmpas credir bod egwyddor y datblygiad yn cwrdd gyda gofynion y polisi.

 

Cydnabuwyd er y gall fod peth cynnydd yn nifer y bobl a ddefnyddiai'r adeilad, wrth ystyried natur defnydd gwesty gyda'r prif weithgarwch am gyfnodau byr o'r dydd yn unig, fe all y tebygolrwydd o ymyrraeth i drigolion cyfagos leihau o'r math yma o ddefnydd.

 

Nodwyd yr ystyrir y datblygiad yn addas a derbyniol ar gyfer y safle a’i fod yn cydymffurfio gyda’r polisïau a chanllawiau lleol a chenedlaethol a nodwyd yn yr adroddiad.

 

(b)     Yn manteisio ar yr hawl i siarad nododd gwrthwynebydd y prif bwyntiau canlynol:-

·         Byddai’r bwriad yn cael effaith negyddol ar ei chartref gydag effaith ar ei mwynderau o ran sŵn;

·         Pryder o ran y ddarpariaeth parcio;

·         Bod y safle mewn ardal breswyl ac o fewn yr Ardal Gadwraeth ac fe fyddai’r bwriad yn amharu ar y cymeriad yma ac felly fe ddylid ei wrthod.

(a)       Yn manteisio ar yr hawl i siarad nododd yr ymgeisydd y prif bwyntiau canlynol:-

·         Ei fod yn uchelgais iddi hi a’i phartner i sefydlu busnes lletygarwch o safon;

·         Bod diffyg o’r math yma o ddarpariaeth yn yr ardal;

·         Y byddai’r eiddo’n cael ei wasanaethu ac er nad oeddent yn byw ar y safle byddai gan y gwesteion gyswllt ffôn 24 awr gyda nhw;

·         Y byddai’r bwriad yn cyfrannu at yr economi leol.

 

(ch)   Gwrthwynebwyd y cais gan y Cynghorydd June Marshall, aelod lleol (oedd yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn) a gwnaed y prif bwyntiau canlynol ganddi:-

·         Y byddai’n cael effaith negyddol ar yr Ardal Gadwraeth gan golli gwyrddni i wneud lle parcio;

·         Bod y defnydd masnachol yn groes i’r defnydd preswyl yn yr ardal;

·         Bod y bwriad yn golygu colli stoc tai parhaol.

 

         Gwnaed y prif bwyntiau canlynol gan y Cynghorydd Mair Rowlands, aelod lleol (nad oedd yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn):-

·         Bod pryder yn lleol o ran graddfa a natur y datblygiad a’r effaith ar fwynderau’r ardal;

·         Bod y bwriad yn golygu colli stoc tai parhaol gan greu cynsail a all arwain at grynhoad o ddatblygiadau tebyg yn yr ardal;

·         Y byddai’n achosi niwed i’r Ardal Gadwraeth.

 

         PENDERFYNWYD caniatáu’r cais.

        

         Amodau:

 

1.     5 mlynedd

2.     Gwaith yn unol â’r cynlluniau

3.     Cytuno ar ddeunyddiau ar gyfer yr adeilad allanol

4.     Angen arwyneb mandyllog ar gyfer yr ardal barcio er sicrhau na fydd newid mewn llif dŵr wyneb

5.     Rhaid darparu'r holl barcio cyn dechrau'r defnydd busnes.

 

Dogfennau ategol: