skip to main content

Agenda item

Newid defnydd adeilad o gartref nyrsio i lety myfyrwyr gyda 31 ystafell wely a cyfleusterau rheoli. 

 

AELOD LLEOL:        Cynghorydd Lesley Day

 

Dolen i’r dogfennau cefndir perthnasol

 

Cofnod:

Newid defnydd adeilad o gartref nyrsio i lety myfyrwyr gyda 31 ystafell wely a chyfleusterau rheoli.

        

(a)      Ymhelaethodd y Swyddog Rheolaeth Datblygu ar gefndir y cais, gan nodi bod y safle wedi ei leoli mewn ardal defnydd cymysg o Fangor Uchaf, oddeutu 250m o brif adeilad Prifysgol Bangor gyda Stiwdio Bryn Meirion y BBC gerllaw a neuaddau preswyl y Brifysgol gyferbyn.

 

Cyfeiriwyd at wrthwynebiad Cyngor Dinas Bangor i’r bwriad oherwydd y byddai’n gor-ddatblygiad o'r safle, bod cyfleusterau tebyg eisoes yn y cyffiniau ac fe fyddai’n cynhyrchu rhagor o drafnidiaeth, sŵn ac ymyrraeth i drigolion.

Eglurwyd nad oedd polisi penodol yn y CDUG yn ymdrin gyda datblygiad o’r math penodol yma ond roedd polisi C4 yn cefnogi cynlluniau i addasu adeiladau i’w hail-ddefnyddio at ddibenion addas.

 

Nodwyd bod yr adeilad wedi ei ddefnyddio, tan Chwefror 2016, fel cartref henoed ar gyfer 31 preswylydd ac wrth ystyried bod defnydd o'r fath olygu cryn symudiadau traffig o safbwynt staff, teuluoedd a chefnogaeth feddygol, gan gynnwys gweithgarwch gyda'r nos, ni ystyrir y byddai defnydd gan fyfyrwyr yn arwyddocaol wahanol o safbwynt symudiadau ceir neu oriau ymyrraeth.

 

Tynnwyd sylw at y sylwadau ychwanegol a dderbyniwyd gan nodi bod yr Uned Polisi Cynllunio ar y Cyd wedi asesu’r Datganiad Ieithyddol ac yn nodi ar y cyfan, ystyrir bod natur Bangor, o ran maint y boblogaeth, patrwm ieithyddol y dref, yr amrywiaeth o wasanaethau a’r cyfleusterau ar gael yno yn golygu na ddylai’r datblygiadau gael effaith andwyol sylweddol ar yr iaith Gymraeg.

 

Roedd y datblygiad yn dderbyniol o safbwynt polisïau lleol a chenedlaethol perthnasol am y rhesymau a roddwyd yn yr adroddiad.

 

(b)       Yn manteisio ar yr hawl i siarad nododd yr ymgeisydd y prif bwyntiau canlynol:-

·         Bod y cwmni teuluol efo nifer o lety myfyrwyr ym Mangor ac wedi ystyried yn fanwl os mai dyma’r defnydd gorau o’r adeilad;

·         Bod canran isel o’r galw yn cael ei ddiwallu o ran llety o’r fath ym Mangor;

·         Y bwriedir llunio cynllun rheolaeth ar gyfer y safle;

·         Byddai’r bwriad yn lleihau’r pwysau o ran troi tai yn dai mewn aml ddeiliadaeth;

·         Byddai’r bwriad yn diogelu’r adeilad ac fe fyddai llai o fynd yn ôl ac ymlaen o ystyried defnydd blaenorol y safle;

·         Bod les mewn bodolaeth o ran llefydd parcio i staff y BBC ar y safle ac nid oedd bwriad i newid y trefniant yma.

 

(c)     Gwrthwynebwyd y cais gan yr aelod lleol (nad oedd yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn) a gwnaed y prif bwyntiau canlynol ganddi:-

·         Bod y safle wedi ei leoli mewn ardal breswyl ac fe fyddai’r datblygiad yn cael effaith negyddol ar yr ardal;

·         Bod gorddarpariaeth o lety myfyrwyr yn ward Garth;

·         Pryder o ran gwastraff ac ail-gylchu gyda phroblemau’n bodoli eisoes yn yr ardal a’i bod wedi cyflwyno Rhybudd o Gynnig i gyfarfod y Cyngor Llawn ar 3 Mawrth 2017 yng nghyswllt y mater;

·         Bod canran sylweddol o deuluoedd Cymraeg iaith gyntaf yn yr ardal ac fe fyddai’r bwriad yn cael effaith negyddol ar yr iaith;

·         Bod diffyg llefydd parcio;

·         Gofyn i’r ymgeisydd ail-edrych ar y bwriad er mwyn darparu unedau hunangynhaliol ar gyfer pobl leol;

·         Na fyddai mwynderau’r gymdogaeth leol yn cael eu gwarchod;

·         Pryder o ran effaith ymddygiad gwrthgymdeithasol.

 

(ch)   Cynigwyd ac eiliwyd i ganiatáu’r cais.

 

          Yn ystod y drafodaeth ddilynol nodwyd y prif sylwadau canlynol gan aelodau:

 

·         Bod gwell bod defnydd o’r adeilad a oedd yn ddarpariaeth llety eisoes gyda rhagdybiaeth y caniateir ceisiadau efo amodau priodol;

·         Byddai’r bwriad yn lleihau’r pwysau o ran troi tai yn dai mewn aml ddeiliadaeth;

·         Pryder y byddai teuluoedd Cymraeg yn symud o’r ardal oherwydd cynnydd yn y niferoedd o fyfyrwyr gyda chanran sylweddol yn y ward eisoes;

·         Yr angen i dderbyn mwy o adroddiadau technegol. A oedd yr ardrawiad iaith yn dangos niwed arwyddocaol?

·         Yn gwrthwynebu tai aml ddeiliadaeth mewn strydoedd ond nid oedd cais hwn yr un sefyllfa;

·         Tra’n cydymdeimlo efo sylwadau’r Aelod Lleol roedd rhaid bod yn pragmataidd gan fyddai rhyw fath o ddarpariaeth llety ar y safle a ni fyddai’n ail agor fel cartref preswyl.

 

Mewn ymateb i’r sylwadau uchod, nododd y Rheolwr Cynllunio bod myfyrwyr yn yr ardal eisoes, yr angen i ddarparu amrediad o lety gwahanol a bod yr Uned Polisi Cynllunio ar y Cyd yn nodi na fyddai niwed arwyddocaol o ran yr iaith.

 

         PENDERFYNWYD caniatáu’r cais.

 

         Amodau:

1.     Amser

2.     Yn unol â’r cynlluniau

3.     Rhaid cyflwyno a chytuno’r cynllun rheolaeth safle o flaen llaw gyda’r Awdurdod Cynllunio Lleol

4.     Cyfleusterau parcio yn unol â’r cynlluniau.

5.     Rhaid sicrhau bod y llwybr troed i Ffordd y Coleg yn cael ei gwblhau cyn i'r defnydd ddechrau

 

Nodiadau:

1.     Priffyrdd

2.     Dŵr Cymru

 

Dogfennau ategol: