skip to main content

Agenda item

Trosi adeiladau presennol yn dair uned wyliau hunan-wasanaeth. 

 

AELOD LLEOL:        Cynghorydd R Hefin Williams

 

Dolen i’r dogfennau cefndir perthnasol

 

Cofnod:

Trosi adeiladau presennol yn dair uned wyliau hunanwasanaeth.

 

(a)     Ymhelaethodd y Swyddog Rheolaeth Datblygu ar gefndir y cais, gan nodi bod y cais yn cwrdd â gofynion polisïau C4 a D15 o’r CDUG ac felly yn dderbyniol mewn egwyddor. Cydnabuwyd ei fod yn anorfod y byddai peth sŵn ac ymyrraeth yn deillio o'r safle ond, o ystyried bod y safle ar gyrion clwstwr o 21 tŷ presennol, ni ystyrir y byddai'r ymyrraeth a fyddai’n deillio o dair uned wyliau yn achosi niwed arwyddocaol ychwanegol i fwynderau trigolion.

 

         Nodwyd nad oedd gan y Cyngor Cymuned wrthwynebiad i’r bwriad ond eu bod yn amlygu eu pryder bod y ffordd at y safle yn gul a gall rhagor o drafnidiaeth creu problemau. Tynnwyd sylw bod yr Uned Drafnidiaeth yn derbyn, er byddai'r datblygiad yn debygol o arwain at ychwanegiad mewn lefelau traffig ar y rhwydwaith ffordd leol, ni fyddai'r cynnydd hwnnw yn gynnydd afresymol nag yn niweidiol i ddiogelwch y rhwydwaith ffyrdd.

 

         Nodwyd y derbyniwyd cryn ohebiaeth gan wrthwynebydd yn dangos tystiolaeth o ddigwyddiadau llifogydd hanesyddol yn yr ardal gan gynnwys honiadau nad oedd y system garthffosiaeth leol yn ddigonol i ymdopi ag unrhyw gynnydd mewn defnydd. Adroddwyd bod  Dŵr Cymru wedi cadarnhau bod capasiti yn y system garthffos gyhoeddus i gymryd carthffosiaeth o dair uned ychwanegol ar yr amod nad oedd dŵr wyneb neu ddŵr draenio tir yn llifo i'r system. Tynnwyd sylw nad oedd gan CNC na Adran Draenio Tir Ymgynghoriaeth Gwynedd wrthwynebiad i'r datblygiad. Cadarnhawyd na fyddai estyniadau i'r adeiladau a byddai wyneb yr ardaloedd parcio o lechi mâl rhydd ac felly ni fyddai cynnydd yn yr arwyneb caled ar y ddaear, o'r herwydd nid fyddai’r datblygiad yn debygol o waethygu problemau draenio dŵr mewn unrhyw ffordd.

 

         Tynnwyd sylw at y sylwadau ychwanegol a dderbyniwyd.

 

Roedd y datblygiad yn dderbyniol o safbwynt polisïau lleol a chenedlaethol perthnasol am y rhesymau a roddwyd yn yr adroddiad.

 

(b)     Yn manteisio ar yr hawl i siarad nododd gwrthwynebydd y prif bwyntiau canlynol:-

·         Pryderon o ran diogelwch ffyrdd;

·         Fe fyddai’r bwriad yn effeithio ar hawliau dynol y trigolion a warchodir gan Erthyglau 2 a 8 o’r Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol (ECHR);

·         Bod cais wedi ei wrthod oddeutu 30 mlynedd yn ôl oherwydd bod y ffordd yn rhy gul;

·         Ei fod yn gwrthwynebu’r balconi oherwydd y byddai gor-edrych.

 

(c)     Yn manteisio ar yr hawl i siarad nododd yr ymgeisydd y prif bwyntiau canlynol:-

·         Bwriad y cais oedd defnyddio’r adeiladau ar gyfer busnes cynaliadwy i alluogi ei blant ddychwelyd i’r ardal;

·         Eu bod am fanteisio ar y farchnad gwyliau gwyrdd a darparu llecyn tir bywyd gwyllt ar y safle;

·         Bod yr Uned Drafnidiaeth o’r farn na fyddai cynnydd sylweddol o ran traffig;

·         Bod y bwriad yn darparu 8 lle parcio ar y safle a’i fod yn barod i greu man pasio newydd;

·         Y byddai’r cais yn sicrhau defnydd economaidd o’r adeiladau fferm.

 

(ch)   Gwnaed y prif bwyntiau canlynol gan yr aelod lleol (oedd yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn):-;

·         Pryder o ran diogelwch ffyrdd ar y lôn gul, fe fyddai 8 car ychwanegol yn gorlwytho’r lôn;

·         Bod problemau carffosiaeth yn yr ardal, fe fyddai’r bwriad yn gorlwytho’r system;

·         Er yr holl addewidion gan yr ymgeisydd, pe byddai newid ym mherchnogaeth y safle y byddai perygl o ran cenedlaethau’r dyfodol;

·         Gofyn i’r Pwyllgor ymweld â’r safle.

 

(d)     Mewn ymateb i’r sylwadau uchod, nododd yr Uwch Reolwr Cynllunio:

·         Bod argymhelliad cadarn gerbron ac nid oedd gwrthwynebiad gan y cyrff statudol;

·         Bod yr ymgeisydd yn gwirfoddoli darpariaethau pellach o ran man pasio ar y ffordd a llecyn tir bywyd gwyllt ar y safle;

·         Y gellir ymweld â’r safle i weld y mannau pasio ar y ffordd.

 

         PENDERFYNWYD caniatáu’r cais.

 

Amodau:

 

1.      Pum mlynedd

2.     Yn unol â’r cynlluniau

3.     Deunyddiau’r balconi i’w cytuno

4.     Defnydd gwyliau yn unig/cadw cofrestr

5.     Tynnu hawliau datblygiad a ganiateir

6.     Amod bioamrywiaeth

7.     Angen cytuno cynllun draenio dŵr wyneb a dŵr tir

8.     Creu mannau parcio cyn preswylio’r unedau gwyliau

9.     Cytuno ar leoliad a chreu llecyn pasio ceir ar dir yr ymgeisydd cyn dechrau’r datblygiad ac i’w gadw

10.   Creu ardal bywyd gwyllt

 

Dogfennau ategol: