Agenda item

Dymchwel yr warws presennol a chodi 2 dŷ deulawr.  

 

AELOD LLEOL:        Cynghorydd Sion Wyn Jones

 

Dolen i’r dogfennau cefndir perthnasol

 

Cofnod:

Dymchwel y warws presennol a chodi 2 dŷ deulawr.

 

(a)     Ymhelaethodd y Swyddog Rheolaeth Datblygu ar gefndir y cais, gan nodi bod safle'r cais wedi ei leoli mewn ardal anheddol a oedd yn weddol gyson o safbwynt natur dyluniad yr anheddau, gan eu bod ar y cyfan yn dai deulawr sengl neu bâr (gydag ambell fyngalo) mewn gerddi eithaf sylweddol. Nodwyd mewn cymhariaeth gyda gweddill yr ardal fe fyddai'r tai a fwriedir o ddyluniad gwbl estron i'r lleoliad, gyda tho metel, un-llethr, na fyddai'n gweddu o gwbl gydag unrhyw dai eraill yn lleol. Yn ogystal fe fyddai'r datblygiad allan o gymeriad gyda dwysedd y patrwm datblygu lleol gyda dim ond un rhimyn bychan o dir 10m2 ar gyfer mwynderau'r trigolion yn y cefn a llecyn parcio ar y blaen. 

 

Pwysleisiwyd nad oedd y ddarpariaeth parcio ynghlwm â’r datblygiad yn cwrdd gyda gofynion Canllawiau Parcio Cymru (2008).

 

(b)     Yn manteisio ar yr hawl i siarad nododd yr ymgeisydd y prif bwyntiau canlynol:-

·         Bod y bwriad yn cyd-fynd â’r ardal leol ac yn cadw at yr adeilad presennol;

·         Y darperir man parcio pwrpasol ar gyfer bob ;

·         Byddai llai o draffig o gymharu â’r defnydd blaenorol fel warws;

·         Bod cymdogion yn gefnogol i’r bwriad ac o’r farn y byddai’n gwella’r safle;

·         Bod y safle o fewn ffin datblygu’r pentref.

 

(c)     Cefnogwyd y cais gan yr aelod lleol (nad oedd yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn) a gwnaed y prif bwyntiau canlynol ganddo:-

·         Bod yr adeilad mewn cyflwr gwael ac fe fyddai’r bwriad yn welliant;

·         O ran diffyg llefydd parcio, roedd llecyn parcio ar y briffordd dros y ffordd i’r safle gyda lle ar gyfer 6 car;

·         Bod y safle o fewn ffin datblygu’r pentref;

·         Bod llythyrau cefnogaeth gan gymdogion lleol yn nodi nad oedd problemau traffig nac ychwaith diffyg lle parcio.

 

(ch)   Mewn ymateb i’r sylwadau uchod, nododd y swyddogion:

·         Bod datblygu’r safle yn dderbyniol o ran egwyddor ond efallai mai ond lle i un tŷ oedd ar y safle;

·         Nad oedd y dyluniad presennol yn cyfiawnhau dyluniad tebyg;

·         Bod modd addasu’r dyluniad i foddhau yr ochr diogelwch ffyrdd, yn debygol byddai’n rhaid newid yr ol-troed;

·         Bod rhaid i’r llecynnau parcio fod yn benodol i’r safle a ddim ar y stryd.

 

(d)     Cynigwyd ac eiliwyd i wrthod y cais.

 

Nododd yr eilydd o ran cysondeb gyda phenderfyniad ar gais blaenorol lle'r oedd y dyluniad yn ymdebygu i sied y dylid caniatáu’r cais. Eglurodd yr Uwch Gyfreithiwr na ddylid eilio cynnig er mwyn cychwyn trafodaeth fe ddylid ond eilio pan fo’r aelod o’r farn yna. Nododd aelod ei fod yn anodd cynnig neu eilio cyn i drafodaeth gychwyn os oedd aelod yn ansicr. Mewn ymateb, nododd yr Uwch Gyfreithiwr yn unol â’r rheolau gweithdrefn roedd rhaid gwneud cynnig a’i eilio cyn cynhelir trafodaeth, os oedd aelod yn ansicr ni ddylai gynnig neu eilio.

 

          Yn ystod y drafodaeth ddilynol nodwyd y prif sylwadau canlynol gan aelodau:

 

·         Bod y dyluniad yn ceisio adlewyrchu beth oedd ar y safle yn bresennol ond fe ddylid gwella’r dyluniad;

·         Yn cefnogi’r bwriad ond roedd lle i wella’r dyluniad;

·         Bod angen i’r dyluniad adlewyrchu’r tai o gwmpas, byddai’r to metel yn anghydnaws;

·         Dylai’r ymgeisydd ail ystyried y ddarpariaeth parcio.

 

Pleidleisiwyd ar y cynnig i wrthod ac fe gariodd ar bleidlais fwrw’r Cadeirydd.

 

PENDERFYNWYD gwrthod y cais.

 

Rhesymau:

                                                                                                         

1.     Byddai’r datblygiad, oherwydd ei ddyluniad, deunyddiau a dwysedd yn anghydnaws gyda'i gyd-destun trefol ac yn niweidiol i fwynderau gweledol yr ardal anheddol. Mae'r cais felly'n  groes i bolisïau B22, B23 a B25 Cynllun Datblygu Unedol Gwynedd ynghyd a’r cyngor a gynhwysir yng Nghanllawiau Dylunio Gwynedd sy’n datgan y dylai pob datblygiad barchu ansawdd gofodol ei amgylchfyd.

 

2.     Nid yw'r ddarpariaeth barcio a gynhigir yn cwrdd gyda Safonau Parcio Cymru 2008 ac fe fyddai'r trefniant fel y'i dangosir yn creu perygl i ddefnyddwyr y briffordd gyfagos. Mae'r cais felly'n groes i Bolisïau CH33 ac CH36 Cynllun Datblygu Unedol Gwynedd.

 

Dogfennau ategol: