Cais llawn i newid defnydd
tŷ preswyl presennol i dŷ mewn aml ddeiliadaeth.
AELOD LLEOL: Cynghorydd
Jason Humphreys
Dolen i’r dogfennau cefndir perthnasol
Cofnod:
Cais llawn i newid defnydd tŷ preswyl presennol i
dŷ mewn aml ddeiliadaeth.
(a)
Ymhelaethodd y Rheolwr
Cynllunio ar gefndir y cais, gan nodi bod yr adeilad wedi ei leoli o fewn ffin
datblygu tref Porthmadog. Eglurwyd nad oedd y bwriad, yn ôl y cynlluniau a
gyflwynwyd, yn newid gosodiad mewnol presennol yr adeilad nag ychwaith yn bwriadu
cynnal unrhyw newidiadau allanol i’r adeilad.
Nodwyd bod polisi CH14 o’r CDUG yn caniatáu cynigion i newid defnydd tai
i’r perwyl hyn os na fyddai’r datblygiad yn creu gorddarpariaeth o’r math hwn o
lety mewn stryd neu ardal benodol ble mae’r effaith gronnus yn cael effaith
negyddol ar gymeriad cymdeithasol ac amgylcheddol y stryd neu’r ardal, neu’n
debygol o wneud hynny. Ni chredir fod adeilad arall yn y cyffiniau cyfagos yn
cael ei ddefnyddio fel tŷ mewn aml ddeiliadaeth ac felly ni chredir y byddai’n
arwain at effaith gronnol annerbyniol o fewn yr ardal
benodol yma. Roedd y bwriad yn dderbyniol mewn egwyddor.
Nodwyd y derbyniwyd gwrthwynebiadau i’r cais o ganlyniad i’r ymgynghoriad
cyhoeddus gyda phryder wedi ei amlygu o safbwynt effaith niweidiol y defnydd
arfaethedig (a honnir oedd eisoes wedi dechrau) ar fwynderau preswyl cyfagos
o’i gymharu gyda defnydd cyfreithiol presennol y safle. O ystyried defnydd
cyfreithlon presennol yr eiddo fel eiddo preswyl 5 llofft a’r effeithiau mwynderol a fyddai’n gallu codi o’r defnydd hwnnw, ni
ystyrir byddai newid arwyddocaol i fwynderau’r gymdogaeth o ganiatáu’r
datblygiad dan sylw.
Roedd y datblygiad yn cydymffurfio gyda’r CDUG am y rhesymau a roddwyd yn
yr adroddiad.
(b) Yn manteisio ar yr
hawl i siarad nododd gwrthwynebydd y prif bwyntiau canlynol:-
·
Bod y defnydd fel tŷ aml
ddeiliadaeth wedi cychwyn ers blwyddyn;
·
Bod ymddygiad gwrthgymdeithasol o flaen y tŷ yn peri
gofid iddi hi a’i theulu;
·
Bod lle parcio yn gyfyng
wrth ymyl y safle gyda mwy
o geir yn parcio o flaen y tŷ yn dilyn
at gweryla;
·
Nad oedd y tŷ yn agored
i bobl leol
fel llety, fe ddylai fod;
·
Bod y bwriad yn golygu colli
tŷ teuluol.
(c) Yn manteisio ar yr
hawl i siarad nododd cynrychiolydd yr ymgeisydd y prif bwyntiau canlynol:-
·
Nad oedd yn ymwybodol bod ymddygiad gwrthgymdeithasol o flaen y tŷ ac nid oedd yn
gweld y bobl broffesiynol a oedd yn byw yn
y tŷ yn ymddwyn fel yma
;
·
O ran parcio, nid oedd unrhyw
breswylwyr yn berchen car ac nid oedd bwriad iddynt
chwaith;
·
Mai llety ar gyfer nyrsys
arbenigol dementia a oedd yn gweithio yng
Nghartref Preswyl y Pines yng Nghricieth ydoedd;
·
Bod y bwriad yn galluogi’r
Cartref Preswyl i ddarparu gofal
i bobl leol.
(ch) Gwnaed y prif bwyntiau canlynol
gan yr aelod lleol
(nad oedd yn aelod o’r
Pwyllgor Cynllunio hwn):-
·
Ei fod yn ymwybodol ac yn
gwerthfawrogi’r angen am lety ar gyfer nyrsys;
·
Na all y drefn drwyddedu tai aml ddeiliadaeth ddelio efo’r holl faterion
a fyddai’n codi o’r datblygiad;
·
Bod problemau parcio yn yr
ardal ac fe fyddai’r bwriad yn gwaethygu’r sefyllfa;
·
Bod prinder tai yn ardal
Porthmadog;
·
O ystyried sylwadau’r
gwrthwynebydd, nid oedd y safle yn addas ar gyfer datblygiad o’r fath.
(d) Mewn ymateb i’r sylwadau yng nghyswllt prinder llefydd parcio, nododd y
Rheolwr Cynllunio nad oedd llefydd parcio ynghlwm â’r
defnydd presennol felly ni ystyrir y byddai’r bwriad arfaethedig yn newid y
sefyllfa.
Gwnaed sylwadau a gofynnwyd cwestiynau gan yr aelodau,
ymatebodd y swyddogion fel a ganlyn:
·
O ran gwrthod y cais oherwydd
diffyg llefydd parcio, nid oedd yr Uned Trafnidiaeth yn gwrthwynebu’r bwriad;
·
Os gwrthodir y cais, fe all
rheswm o ran effaith negyddol ar fwynderau trigolion ar sail Polisi CH14 o’r
CDUG fod yn rheswm cynllunio dilys;
·
Yn dilyn newid i ddeddfwriaeth
yn ddiweddar, roedd gofyn i wneud cais cynllunio ar gyfer tai mewn aml
ddeiliadaeth o’r raddfa yma;
·
Ei fod yn gais am dŷ aml
ddeiliadaeth ac mai cyfiawnhad yr ymgeisydd o ran yr angen/defnydd oedd darparu
llety ar gyfer nyrsys arbenigol dementia a oedd yn gweithio yng Nghartref
Preswyl y Pines ond nid oedd hyn ynddo’i
hun yn ystyriaeth gynllunio berthnasol;
·
Bod angen bod yn ofalus o ran
sylwadau a oedd yn cyffredinoli preswylwyr tai aml ddeiliadaeth. Ei fod yn
bosib bod elfennau gwrthgymdeithasol ar y safle fel y nodwyd gan y gwrthwynebwr
ond nid oedd tystiolaeth i gyfiawnhau cyffredinoli;
·
Y byddai’n anodd gosod amod ar
ganiatâd cynllunio o ran clymu defnydd i nyrsys arbenigol dementia yn unig gan
ei fod yn debygol y byddai hynny’n afresymol o ran y
profion statudol;
·
Os caniateir defnydd fel
tŷ aml ddeiliadaeth fe fyddai’r gyfundrefn trwyddedu yn rheoli’r defnydd.
PENDERFYNWYD caniatáu’r cais.
Amodau:
1. Amser
2. Cydymffurfio gyda chynlluniau
Dogfennau ategol: