Agenda item

Codi tŷ preswyl deulawr pedair ystafell wely yng nghefn gwlad agored ynghyd â gosod tanc septig, a chreu mynediad gerbydol a ffordd fynediad newydd. 

 

AELOD LLEOL:        Cynghorydd Selwyn Grifffiths

 

Dolen i’r dogfennau cefndir perthnasol

 

Cofnod:

Codi tŷ preswyl deulawr pedair ystafell wely yng nghefn gwlad agored ynghyd a gosod tanc septig, a chreu mynediad cerbydol a ffordd fynediad newydd.

 

(a)     Ymhelaethodd y Rheolwr Cynllunio ar gefndir y cais, gan nodi bod safle’r cais wedi ei leoli tu allan i’r ffin datblygu ddiffiniedig ar gyfer ardal Porthmadog ac oherwydd hynny fe’i hystyrir fel safle yng nghefn gwlad. 

 

         Nodwyd bod paragraff 4.3.1 o Nodyn Cyngor Technegol (NCT) 6 ‘Cynllunio ar gyfer Cymunedau Gwledig Cynaliadwy’ yn nodi mai un o’r ychydig sefyllfaoedd ble gellir cyfiawnhau datblygiad preswyl newydd ar ei ben ei hun yng nghefn gwlad agored oedd pan fod angen llety i alluogi gweithwyr amaethyddol neu fenter wledig i fyw yn eu man gwaith neu’n agos ato. Ymhelaethwyd y byddai p’un a yw hyn yn hanfodol ai peidio mewn unrhyw achos penodol yn dibynnu ar anghenion y fenter wledig dan sylw, ac nid ar ddewis nac amgylchiadau personol unrhyw un o’r unigolion cysylltiedig. 

 

         Amlygwyd bod cyfeiriad yn y cais, yn benodol o fewn y Datganiad Dylunio a Mynediad yn ogystal â llythyrau o gefnogaeth, at ddefnydd amaethyddol presennol y tir yn ogystal â chynllun busnes arfaethedig i newid defnydd y tir ar gyfer busnes cynaliadwy newydd a defnydd o ran o’r tir gan wasanaeth achub mynydd lleol. Nodwyd ni chyflwynwyd gwybodaeth yn cadarnhau yn union sut fath o fusnes a fwriedir i’r Gwasanaeth Cynllunio.

 

         Nodwyd serch hyn, ei fod yn ymddangos fod defnydd amaethyddol sefydledig ar y tir, ac felly yn unol â gofynion NCT 6, pe byddai’r cais ar gyfer tŷ i weithiwr amaethyddol neu fenter wledig llawn amser, byddai angen cyflwyno gwybodaeth sy’n ymwneud a’r profion swyddogaethol, amser, ariannol ac anheddau amgen er mwyn profi angen a chyfiawnhad am godi tŷ yng nghefn gwlad agored. Nodwyd hefyd na ellir ystyried y tŷ i fod yn dŷ fforddiadwy am y rhesymau a amlygwyd yn yr adroddiad.

 

         Nodwyd y derbyniwyd llythyrau o gefnogaeth gan unigolion lleol ac eraill i’r bwriad, rhoddwyd sylw llawn i’r holl faterion cynllunio perthnasol a nodwyd yn y sylwadau a dderbyniwyd.

 

         Tynnwyd sylw bod yr ymgeisydd wedi cyflwyno ymholiad ffurfiol cyn cyflwyno cais ar gyfer y bwriad fel y dangosir o dan gyfeirnod Y16/000248. Cadarnhawyd mewn ymateb ffurfiol ar y pryd y byddai bwriad o’r fath yn groes i ofynion polisïau perthnasol ac na fyddai’r Awdurdod o ganlyniad, yn gallu cefnogi’r cynnig.

          

(b)     Yn manteisio ar yr hawl i siarad nododd yr ymgeisydd y prif bwyntiau canlynol:-

·         Bod rheidrwydd i’r fod ar y safle yma i reoli’r fferm sefydledig gyda 90 erw o dir;

·         Bod paragraff 4.5.1 o NCT 6 yn nodi y gall fod yn briodol a’i fod yn angenrheidiol i’r fod ar y safle er mwyn rheoli’r fferm ar ei ffurf bresennol a menter wledig arall;

·         Bod y bwriad yn dderbyniol o ran paragraffau 4.5.3 a 4.6 o NCT 6;

·         Bod adfail yn bresennol ar safle’r cais;

·         Nad oedd risg llifogydd ar y safle;

·         Y byddai’r bwriad yn darparu cartref i deulu a sicrhau parhad busnes teuluol gan ddiwallu anghenion presennol a chenedlaethau’r dyfodol;

·         Bod Cyngor Tref Porthmadog a thrigolion lleol yn gefnogol.

 

(c)     Gwnaed y prif bwyntiau canlynol gan yr aelod lleol (nad oedd yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn):-

·         Ei fod o blaid y datblygiad gyda phrinder tai yn yr ardal oherwydd bod rhan fwyaf o Borthmadog o fewn y parth llifogydd;

·         Cwestiynu os oedd y safle yng nghefn gwlad gydag adeilad y tîm achub, gwaith diwydiannol a maes carafanau gerllaw;

·         Bod y dyluniad yn dderbyniol a’r maint yn gwneud synnwyr ar gyfer teulu o 5;

·         Byddai’r bwriad yn darparu cartref parhaol i deulu lleol;

·         Y byddai’r fenter wledig yn creu gwaith i bobl leol ac yn golygu buddsoddiad i’r ardal;

·         Ei fod yn hanfodol i sicrhau parhad y fferm a chreu menter wledig newydd;

·         Bod yr ymgeisydd yn fodlon derbyn Cytundeb 106 ar y tŷ;

·         Fe ddylai’r Gwasanaeth Cynllunio geisio gwybodaeth gan yr ymgeisydd o ran y fenter wledig os nad oedd y wybodaeth yn ddigonol;

·         Bod yr ymgeisydd wedi cysylltu efo Tai Teg tair gwaith ond ni dderbyniwyd ymateb;

·         Bod 3 opsiwn i’r Pwyllgor ystyried - un ai caniatáu’r cais, cynnal ymweliad safle neu ohirio er mwyn sicrhau bod pob ffynhonnell wedi ei ddilyn o ran NCT 6.

 

(ch)   Mewn ymateb i’r sylwadau uchod nododd y Rheolwr Cynllunio:

·         Yn unol â gofynion NCT 6 roedd rhaid profi’r angen a chyfiawnhad am godi tŷ yng nghefn gwlad agored;

·         Pe bai angen yn cael ei brofi am dŷ menter gwledig newydd yn unol â NCT 6 ei bod yn bosib i’r ymgeisydd dderbyn hawl i leoli siale ar safle priodol am dair blynedd yn y lle cyntaf er mwyn cael cyfle i sicrhau bod y fenter yn hyfyw;

·         Nid oedd y cais a gyflwynwyd gan yr ymgeisydd yn nodi ei fod am dŷ amaethyddol/ menter wledig newydd felly ni aethpwyd ar ôl mwy o wybodaeth. Pe byddai’r cais a gyflwynwyd yn cyfeirio yn benodol at yr elfen yma fe fyddai’r Gwasanaeth Cynllunio wedi gofyn am fwy o wybodaeth.

·         Bod Tai Teg wedi nodi nad oedd yr ymgeisydd wedi cysylltu â nhw;

·         Bod maint y tŷ hefyd yn ystyriaeth faterol gydag arwynebedd llawr mewnol y tŷ yn 225m2.

 

(d)     Cynigwyd ac eiliwyd i ohirio’r cais er mwyn derbyn mwy o wybodaeth gan yr ymgeisydd er mwyn sefydlu os yw’r bwriad yn amaethyddol neu yn ar gyfer menter wledig newydd. 

 

          Yn ystod y drafodaeth ddilynol nodwyd y prif sylwadau canlynol gan aelodau:

 

·         Bod maint y yn rhy fawr;

·         Er tegwch, yr angen i dderbyn gwybodaeth am y fenter wledig newydd er mwyn asesu hyfywdra’r datblygiad;

·         Cyfrifoldeb yr ymgeisydd oedd cyflwyno gwybodaeth i gefnogi cais a’r angen i ddilyn y system bwyntiau amaethyddol neu fel arall y byddai’n newydd yng nghefn gwlad.

 

PENDERFYNWYD gohirio’r cais er mwyn derbyn mwy o wybodaeth gan yr ymgeisydd er mwyn sefydlu os yw’r bwriad yn amaethyddol neu yn ar gyfer menter wledig newydd.

Dogfennau ategol: