Agenda item

Codi 4 fforddiadwy, creu ffordd stâd newydd a mynedfa cerbydol newydd.

 

AELOD LLEOL:        Cynghorydd Sion Wyn Jones

 

Dolen i’r dogfennau cefndir perthnasol  

 

 

 

Cofnod:

Codi 4 tŷ fforddiadwy, creu ffordd stad newydd a mynedfa gerbydol newydd.

 

(a)     Ymhelaethodd y Rheolwr Cynllunio ar gefndir y cais, gan nodi bod y bwriad yn golygu creu estyniad i’r ffordd stad gyda man troi a gosod pedwar ar ffurf para deulawr. Nodwyd bod polisi CH7 o’r CDUG yn caniatáu cynigion am dai fforddiadwy ar safleoedd eithrio gwledig addas sy’n union ar ffin pentrefi neu ganolfannau. Tynnwyd sylw bod ochor ddeheuol y safle yn ymylu’r ffin datblygu ger stad Bron Gwynedd ac o’r agwedd yma, fe all y safle fod yn safle eithrio gwledig. Ymhelaethwyd bod y polisi ond yn caniatáu datblygiadau am dai fforddiadwy lle'r oedd yr angen wedi ei brofi. Adroddwyd y derbyniwyd sylwadau gan Uned Strategol Tai'r Cyngor yn cydnabod yr angen am y math yma o dai fforddiadwy yn yr ardal a chopi o lythyr gan Grŵp Cynefin yn dangos bwriad i brynu’r tai. Nodwyd yr ystyrir bod y bwriad yn bodloni gofynion polisi CH7 a’r Canllawiau Cynllunio Atodol ar gyfer tai fforddiadwy.

 

          Adroddwyd bod nifer fawr o’r gwrthwynebiadau a dderbyniwyd yn cyfeirio at wrthodiadau blaenorol ar gyfer datblygiad preswyl ar y safle ac ar apêl. Eglurwyd bod y cais a wrthodwyd ar apêl (3/18/384E) yn gais am ganiatâd amlinellol ar gyfer datblygu’r cae i gyd ar gyfer datblygiad preswyl ac roedd yr ystyriaethau polisi yn wahanol. Nodwyd yr ystyrir bod y datblygiad yma yn dderbyniol mewn egwyddor ar sail polisïau’r CDUG a hefyd o fewn y CDLL felly nid oedd cyfiawnhad i wrthwynebu’r bwriad ar sail polisi.

 

          Amlygwyd bod yr Arolygydd Cynllunio o’r farn nad oedd modd cael mynediad derbyniol i’r safle ac nad oedd traffig ychwanegol oddi ar Bron Gwynedd yn dderbyniol o ran datblygiad a fyddai’n darparu tua 12 i 25 o dai. Nodwyd bod yr Uned Drafnidiaeth o’r farn y byddai’r cynnydd fyddai’n deillio o 4 ychwanegol ddim yn sylweddol ac yn gallu bod yn dderbyniol heb achosi niwed i ddiogelwch ffyrdd.

 

          Roedd y datblygiad yn dderbyniol o safbwynt polisïau lleol a chenedlaethol perthnasol am y rhesymau a roddwyd yn yr adroddiad.

 

(b)     Yn manteisio ar yr hawl i siarad nododd asiant yr ymgeisydd y prif bwyntiau canlynol:-

·         Bod yr adroddiad yn rhoi arweiniad clir i’r Pwyllgor;

·         Bod y cais wedi ei ddiwygio i ymateb i bryderon o ran mwynderau, ail-luniwyd y fynedfa, darperir man troi a diwygiwyd y ddarpariaeth parcio i ymateb i sylwadau’r Uned Drafnidiaeth;

·         O ran draenio tir, bod datrysiad mewn egwyddor wedi ei gytuno efo Dŵr Cymru;

·         Y byddai’r datblygiad yn cyfrannu at darged y Cyngor o ran darparu tai fforddiadwy;

·         Bod Grŵp Cynefin yn dangos bwriad i brynu’r tai.

 

(c)     Gwrthwynebwyd y cais gan yr aelod lleol (nad oedd yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn) a gwnaed y prif bwyntiau canlynol ganddo:-

·         Bod y safle tu allan i’r ffin datblygu ac nid oedd y tir yn cael ei gynnwys yn y CDLL oherwydd sylwadau’r Gwasanaeth Cynllunio;

·         Pryderon yn lleol o ran mynediad i’r safle, carffosiaeth a draenio tir, yr angen i ystyried y pwysau ychwanegol;

·         Bod Dŵr Cymru wedi gwrthwynebu yn wreiddiol a ni dderbyniwyd tystiolaeth o gadarnhad Dŵr Cymru o ran datrysiad;

·         Bod angen am dai fforddiadwy ond yn y lleoliad cywir;

·         Bod y Cyngor Cymuned yn gwrthwynebu’r bwriad;

·         Gofyn i’r Pwyllgor ymweld â’r safle.

 

(ch)   Cynigwyd ac eiliwyd i gynnal ymweliad safle.

 

          Nododd aelod y byddai’n briodol i’r Pwyllgor dderbyn cadarnhad o farn Dŵr Cymru.

 

PENDERFYNWYD cynnal ymweliad safle a derbyn cadarnhad o farn Dŵr Cymru.

 

Dogfennau ategol: