Agenda item

Cais llawn i godi 12 ynghyd â chreu mynedfa a lôn stad. 

 

AELOD LLEOL:        Cynghorydd Elfed Wyn Williams

 

Dolen i’r dogfennau cefndir perthnasol

 

 

 

 

 

 

Cofnod:

Cais llawn i godi 12 tŷ ynghyd a chreu mynedfa a lôn stad.

 

(a)     Ymhelaethodd y Rheolwr Cynllunio ar gefndir y cais, gan nodi bod y safle wedi ei glustnodi yng Nghynllun Datblygu Unedol Gwynedd (CDUG) ar gyfer datblygiad preswyl (tai ar gyfer angen cyffredinol a’r farchnad agored) a bod Briff Datblygu wedi ei ddarparu ar gyfer y safle i gyd fynd â’r dynodiad. Ymhelaethwyd y byddai’r bwriad yn golygu codi 4 3-llofft (tai fforddiadwy), 4 2-lofft (farchnad agored) ynghyd â 4 3-llofft (farchnad agored).

 

         Nodwyd bod y bwriad o ddarparu elfen o dai fforddiadwy ynghyd â darparu cymysgedd o wahanol dai ar y safle hwn yn cyd-fynd ac amcanion polisi’r CDUG a Cynllun Datblygu Lleol  ar y Cyd Gwynedd a Môn(CDLL) . Eglurwyd er nad oedd y CDLLwedi ei fabwysiadu roedd bellach yn ystyriaeth cynllunio berthnasol o ran rheolaeth datblygu. Ymhelaethwyd bod polisi cenedlaethol yn datgan ei fod yn bwysig cael cyfuniad o dai gwerth y farchnad a thai fforddiadwy angen lleol ynghyd â’r angen i ddarparu gymaint â phosibl o dai fforddiadwy ar draws yr ardal.

 

         Nodwyd o ran y materion trafnidiaeth a mynediad, bioamrywiaeth a llifogydd roedd yr amodau a argymhellir yn gwneud y cais yn dderbyniol.

 

         Adroddwyd bod yr ymgeisydd wedi cyflwyno asesiad hyfywdra a oedd yn datgan na fyddai’r datblygiad yn hyfyw pe roddir cyfraniad addysgol a chyfraniad o ran llecynnau agored o werth adloniadol i ymateb i’r gofynion polisi. Cyfeiriwyd at asesiad yr Uned Bolisi Cynllunio ar y Cyd o’r wybodaeth a gyflwynwyd. Nodwyd ar sail asesiad yr Uned Bolisi Cynllunio ar y Cyd ei fod yn glir na fyddai’r datblygiad yn hyfyw pe bod angen y cyfraniadau. Nodwyd bod polisi cenedlaethol yn nodi, cyn belled a bod yr isadeiledd a oedd ei angen ar gyfer gwireddu’r datblygiad wedi ei warchod, darparu tai fforddiadwy ddylid cael blaenoriaeth.

 

(b)       Gwnaed cais i rannu lluniau, nodwyd na ellir eu rhannu yn y cyfarfod ond fe ellir eu cyflwyno i’r Gwasanaeth Cynllunio.

 

Yn manteisio ar yr hawl i siarad nododd gwrthwynebydd y prif bwyntiau canlynol:-

·         Bod problemau o ran llifogydd yn bresennol yn yr ardal;

·         Bod y Cyngor a Chyfoeth Naturiol Cymru (CNC) yn edrych ar ddatrysiad i’r problemau ac fe fyddai caniatáu’r cais hwn yn ei atal rhag mynd yn ei flaen;

·         Y byddai’r bwriad yn gwaethygu’r sefyllfa o ran problemau llifogydd.

 

(c)       Yn manteisio ar yr hawl i siarad nododd asiant yr ymgeisydd y prif bwyntiau canlynol:-

·         Bod pryderon o ran llifogydd ar dir cyfagos a bod y Cyngor a CNC wedi asesu’r sefyllfa;

·         Bod rhaid cadw’r ffoes er mwyn i’r bwriad fod yn dderbyniol gan yr Uned Bioamrywiaeth;

·         Nid oedd trafodaeth wedi cymryd lle efo’r perchennog o ran defnyddio’r tir dan sylw fel rhan o’r datrysiad i’r problemau llifogydd;

·         Safle’r cais wedi ei glustnodi fel safle tai;

·         Bod trafodaethau wedi eu cynnal o ran dyluniad a draenio tir, roedd y materion wedi eu cyfarch.

 

(ch)   Gwrthwynebwyd y cais gan yr aelod lleol (nad oedd yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn) a gwnaed y prif bwyntiau canlynol ganddo:-

·         Cwestiynu’r angen am dai o ystyried bod 5 safle yn yr ardal wedi derbyn caniatâd am gyfanswm o 49 o dai, nid oedd unrhyw un wedi cychwyn er bod Tai Teg yn nodi bod galw am dai;

·         Dylid ystyried y ffaith bod y safle wedi ei dynnu allan o’r CDLL fel safle ar gyfer tai;

·         Bod problemau llifogydd yn yr ardal a ni fyddai’r bwriad yn gwella’r sefyllfa;

·         Pryder y byddai cyflwr y lôn yn gwaethygu oherwydd cynnydd yn y defnydd a dŵr ar y lôn;

·         Fe ddylid cynnwys llecyn agored o werth adloniadol yn y datblygiad yn unol â’r briff datblygu o ystyried nad oes palmant o’r safle i’w wneud yn ddiogel i fynd i lecyn arall.

 

(d)     Mewn ymateb i’r sylwadau uchod nododd yr Uwch Reolwr Gwasanaeth Cynllunio:

·         Bod yr adroddiad yn cyfarch y materion draenio tir a llifogydd, roedd CNC a Dŵr Cymru yn fodlon efo’r bwriad os gosodir amod o ran cyflwyno cynllun draenio ar gyfer y safle. Nododd y gall y Pwyllgor, pe dymunir, ofyn i’r ymgeisydd gyflwyno cynllunio draenio cyn penderfynu ar y cais;

·         Nad oedd gan yr Uned Drafnidiaeth wrthwynebiad;

·         Ni ellir cynnwys llecyn agored yn y datblygiad oherwydd materion hyfywdra.

 

(dd)   Cynigwyd ac eiliwyd i gynnal ymweliad safle.

 

         Gwnaed a eiliwyd gwelliant y dylid yn ogystal gofyn i’r ymgeisydd gyflwyno cynllun draenio.

 

          Yn ystod y drafodaeth ddilynol nodwyd y prif sylwadau canlynol gan aelodau:

 

·         Ei fod yn ofyn statudol bod gan blant le diogel i chwarae felly fe ddylid ail-edrych ar y ddarpariaeth o lecyn agored ar y safle neu gyfraniad tuag at gyfleusterau newydd neu well mewn man arall;

·         Pryder ei fod yn or-ddatblygiad;

·         Ddim yn gweld tystiolaeth o’r angen gyda gormodedd o dai ar werth yn y pentref;

·         Y dylid derbyn adroddiad technegol o ran draenio;

·         Fe ddylai’r Aelod Lleol gymryd rhan yn y trafodaethau a chael cyfle i gyflwyno tystiolaeth.

 

          PENDERFYNWYD gohirio’r cais er mwyn cynnal ymweliad safle a gofyn i’r ymgeisydd gyflwyno cynllun draenio.

 

Dogfennau ategol: