Agenda item

Aelodau Cabinet:      Y Cyng. W. Gareth Roberts

                                    Y Cyng. Mair Rowlands

 

I dderbyn adroddiad terfynol yr Ymchwiliad Craffu i ddarpariaeth gofalwyr. 

 

(Copi’n amgaeedig)

Cofnod:

Cyflwynwyd adroddiad terfynol yr Ymchwiliad Craffu i’r ddarpariaeth Gofalwyr ac fe gymerodd Cadeirydd yr Ymchwiliad, y Cynghorydd R H Wyn Williams, y cyfle i ddiolch i’r aelodau a swyddogion canlynol am eu cyfraniad i’r adroddiad cynhwysfawr gerbron:

 

Y Cyng. E. Selwyn Griffiths

Y Cyng. Siân Wyn Hughes

Y Cyng. Linda Ann Wyn Jones

Y Cyng. Eryl Jones-Williams

Y Cyng. Ann Williams

Y Cyng. Eirwyn Williams

 

Gareth James – Rheolwr Aelodau – Cefnogi a Chraffu

Bethan Adams – Swyddog Cefnogi Aelodau

 

Ymhelaethodd y Rheolwr Aelodau – Cefnogi a Chraffu bod y gwaith ymgymerwyd gan yr Ymchwiliad yn waith cryno ond er hynny yn cynnwys llawer o wybodaeth defnyddiol.  Tynnwyd sylw RRbod 227 o unigolion wedi ymateb i holiadur manwl ac fod hyn yn gymorth i roi hygrededd i ganfyddiadau’r Ymchwiliad.  Nodwyd bod cyfraniad oddeutu 20 unigolyn a gyfwelwyd wedi bod yn werthfawr iawn a bod yr Ymchwiliad yn croesawu’r cyfle i gydweithio gyda’r Weithrediaeth o ran datblygu polisi a fydd yn cyfrannu at wella’r ddarpariaeth ar gyfer gofalwyr yn y Sir.

 

Mewn ymateb, diolchodd yr Aelod Cabinet Plant a Phobl Ifanc am y gwaith gyflawnwyd gan yr Ymchwiliad ac fe nododd y prif bwyntiau canlynol

 

(i)            Nad oedd yn hollol eglur os oedd pob un o’r argymhellion yn cael eu cyfeirio at 2 Aelod Cabinet sef Aelod Cabinet Plant a Phobl Ifanc ac Aelod Cabinet Oedolion, Iechyd a Llesiant.

 

(ii)           O safbwynt argymhelliad 1 tra’n cytuno bod llawer o waith i’w gyflawni nodwyd bod gwaith yn cael ei wneud i geisio adnabod y gofalwyr cudd.                

 

(iii)          Yng nghyd-destun argymhelliad 4, nodwyd bod angen sylw o ran cael y darlun ehangach ond cwestiynwyd a fyddai comisiynu gwaith yn cyflawni hyn.  Hyderir y gellir rhannu / hyrwyddo gwybodaeth yn fwy effeithiol a thrwy hyn y byddai gennym well trefniadau ar gyfer  adnabod y gofalwyr.

 

(iv)         O ran ymgysylltu â phawb ac yn enwedig rhieni plant anabl, nodwyd bod angen mwy o waith yn hyn o beth. 

 

Amlygwyd y pwyntiau ychwanegol isod gan Aelodau unigol:

 

·         Er bod yr ymchwiliad wedi ei gyflawni mewn cyfnod byr, croesawyd mwy o ymchwiliadau o’r fath i’r dyfodol.

·         Pryderwyd am y toriadau i wasanaeth cerbydau i gario unigolion am ofal ysbaid a nodwyd enghraifft megis Cartref Preswyl Plas Pengwaith, Llanberis.

·         Sicrhau bod y gwasanaeth yn ddwyieithog ac oni fyddai’n berthnasol i Bwyllgor Iaith y Cyngor ymgymryd âg ymchwiliad pellach yn hyn o beth.

·         Diolchwyd i’r Adran am y gwariant ar gyfer estyniad yn Llys Cadfan, Tywyn ar gyfer gwasanaeth gofal dydd ac ysbaid. 

·         Dylid cydweithio’n agos gyda Cholegau lleol i hyrwyddo gyrfa ym maes gofal.

·         Bod ymyrraeth buan yn holl bwysig ac y dylid cydweithio mewn partneriaeth gyda asiantaethau / awdurdodau fel y gellir cyflwyno dadleuon ar y cyd i’r Llywodraeth i sicrhau bod adnoddau digonol ar gael i ymateb i sefyllfaoedd.  

 

Mewn ymateb i  rai o’r sylwadau uchod, nododd y Pennaeth Adran Oedolion, Iechyd a Llesiant:

 

(a)  Bod yr Adran wedi edrych ar ddefnydd effeithiol y fflyd cerbydau a thrwy wneud hyn darganfuwyd nad oedd parhau defnyddio rhai ohonynt yn gynaliadwy.  O’r herwydd, newidiwyd trefniadau o ran y cerbydau, ond prysurwyd i nodi nad oedd defnydd cerbyd yn amharu ar allu unigolion i dderbyn gofal ysbaid. 

(b)  O ran y maes plant, atgoffwyd y byddai canolfan gofal ysbaid yn agor yn fuan ar safle Ysgol Hafod Lon a sicrhawyd y byddir yn anfon gwahoddiad i Aelodau i’r agoriad swyddogol yn dilyn derbyn cadarnhad o’r cofrestriad.

 

Nododd y Pennaeth Adran Oedolion, Iechyd a Llesiant:

 

·         O berspectif oedolion, bod llawer o waith i’w gyflawni a bod ymchwiliad wedi amlygu bylchau sydd angen mwy o waith ymarferol neu gwaith ymchwil pellach. 

·         O ran capasiti i weithio ar yr argymhellion, byddai’r Adran yn gwerthfawrogi pe byddai elfen o flaenoriaethu – ond rhoddwyd sicrwydd y byddai’r Adran yn rhoi sylw i’r holl argymhellion drwy waith sydd eisoes yn digwydd.  Nododd bod cyflymder capasiti i ymateb i’r argymhellion yn mynd i  amrywio.

·         Hyderir y bydd gwaith IAA yr Adran Plant a Phobl Ifanc yn symud yn ei flaen ynghynt na’r gwaith yn yr Adran Oedolion, Iechyd a Llesiant ac os y gellid cael y gyfundrefn IAA yn iawn, fe fydd yn gwneud cymaint o wahaniaeth nid yn unig i’r defnyddwyr ond i’r gwasanaeth hefyd.  Bydd yn rhaid dysgu wrth arbrofi a sicrhau rhannu gwybodaeth mewn lleoliadau cyhoeddus fel bo unigolion yn medru hunan wasanaethu os yn bosib cyn cysylltu â’r Adran.

·         Cydnabuwyd bod y ddarpariaeth iechyd meddwl angen sylw ac yn heriol yn bennaf oherwydd aneglurder ynglyn â’r math o wasanaeth sydd ar gael gan y Bwrdd Iechyd a’r awdurdod lleol.  Nidoedd yr elfennau integreiddio yn eu lle ar hyn o bryd a bod hynny yn gam allweddol i fedru symud ymlaen.    

 

I ddilyn, cafwyd trafodaeth ynglyn a’r angen i flaenoriaethu’r argymhellion ac roedd consensws barn ymysg Aelodau i’w cymeradwyo a’u blaenoriaethu fel a ganlyn:

 

Argymhelliad 4

Argymhelliad 6

Argymhelliad 8

 

Hefyd, nodwyd bod argymhellion 1 a 2 yn bwysig ac yn ei weld fel sail ac yn ddatblygiad o sut i ymgysylltu hefo gofalwyr ifanc a gofynnwyd sut i ddatblygu methodoleg i gysylltu hefo gofalwyr na lwyddwyd i gysylltu â hwy.

 

Penderfynwyd:          (a)        Derbyn a chymeradwyo’r argymhellion cyfan ond gofyn i’r Aelodau Cabinet roi blaenoriaeth i ddatblygu’r canlynol gyntaf:

 

Argymhelliad 4

Argymhelliad 6

Argymhelliad 8

 

                                    (b) Cadw golwg ar ddatblygiadau’r argymhellion. 

 

 

 

 

Dogfennau ategol: