Aelod Cabinet: Y Cyng. Gareth Thomas
I ystyried
adroddiad blynyddol y Gwasanaeth Addysg gan yr Aelod
Cabinet Addysg.
(Copi’n
amgaeedig)
Cofnod:
Cyflwynwyd adroddiad blynyddol y Gwasanaeth
Addysg gan yr Aelod Cabinet Addysg gan dynnu sylw at y prif bwyntiau canlynol:
(i) Perfformiad
·
Cynnydd sylweddol yn y
dangosydd TL2+
·
Gwelliant ym mherfformiad
disgyblion Prydau Ysgol am Ddim a’r bwlch wedi lleihau rhwng dysgwyr PYD / Dim
PYD
·
Perfformiad dysgwyr ar
ddiwedd cyfnod allweddol 3 yn enwedig yn y dangosydd pwnc craidd
·
Cynnydd mewn presenoldeb
dysgwyr yn yr uwchradd a’r cynradd
O safbwynt datblygu perfformiad, nodwyd bod angen:
·
Rhoi sylw buan i’r Cyfnod
Sylfaen
·
Gwella perfformiad yn y
Gymraeg ymhob cyfnod allweddol
·
Gwella perfformiad dysgwyr
Prydau Ysgol am Ddim
·
Gwella perfformiad dysgwyr
ôl-16 mewn cyrsiau penodol
(i)
Darpariaeth Addysg
·
Hyrwyddo lles a diogelwch
disgyblion
·
Cefnogaeth i arweinwyr a rheolwyr
·
Modelau arweinyddiaeth a
fydd yn cynnig amodau i dynnu pwysau enfawr oddi ar Benaethiaid
·
Proffil arolygiadau wedi
amlygu gwelliant gyda ‘run Ysgol mewn categori statudol
·
Cyflwyno rhaglen
Moderneiddio Addysg ar gyflymder da
·
Polisi Iaith y Sir –
sicrhau adnoddau i ehangur’r Siarter Iaith i’r sector uwchradd
·
Gwella seilwaith TGCh
ymhellach
·
Data Perfformiad – tracio
yn holl bwysig i fedru adnabod disgyblion sydd yn llithro
·
Cefnogi llywodraethwyr i
fod yn effeithiol
Cyfeiriwyd at yr argymhellion o safbwynt sicrhau’r safonau uchaf posibl
ymhob cyfnod allweddol a thynnwyd sylw at yr hyn a ofynnir i GwE ei wneud ar
ran yr awdurdod addysg o ran y ddarpariaeth addysgu, strategaeth anghenion
dysgu ychwanegol a chynwysiad ac arweinyddiaeth a rheolaeth ysgolion.
Yn ystod y drafodaeth ddilynol, nodwyd y
sylwadau canlynol gan Aelodau unigol:
(i)
O brofiad
diweddar o Aelodau Etholedig yn cysgodi Ymgynghorwyr Her GwE, gwelwyd
tystiolaeth bod ysgolion yn derbyn llawer o gymorth a chefnogaeth gan GwE. Nodwyd ymhellach bod y profiadau wedi bod yn
fuddiol iawn i Aelodau ac i uchafu eu dealltwriaeth o waith a threfniadaeth GwE
(i)
Drwy fynd oddi wrth ddefnyddio’r gair “herio”
gwelir bod ysgolion yn barod i gydweithio a nodwyd pwysigrwydd parhau i wella’r
berthynas rhwng GwE a’r ysgolion
(ii)
Bod
athrawon y sir i’w llongyfarch am y safonau da.
Gofynnwyd am elgurder ar
rai o’r pwyntiau isod ac sydd angen sylw pellach ac ymatebodd y Pennaeth Addysg
iddynt:
(iii)
Croesawyd yr adroddiad cynhwysfawr gerbron a
chanmolwyd y cynnydd a
wnaed ond pryderwyd bod rhai ysgolion yn y
category coch a gofynnwyd pa gamau a wneir i gefnogi’r ysgolion hyn?
·
Bod
diwylliant yr adroddiad gerbon yn adnabod cryfderau a hefyd yn adnabod lle i wella ac o ran y broses, fel y byddir yn
datblygu gellir mynd i’r rafael a’r materion hynny lle mae angen gwella. Gwelir yma ganfyddiadau fydd yn ffurfio
manyleb ar gyfer cynllun busnes rhwng yr awdurdod a GwE ar gyfer y flwyddyn i ddod
·
Bod yr adroddiad yn adnabod cryfderau’r Gwasanaeth ac yn gosod sail
gadarn i
weithio fel Tim ac mewn partneriaeth.
Nodwyd ymhellach bod Aelodau’r Pwyllgor Craffu hwn wedi ychwanegu gwerth
drwy herio a chraffu’n effeithiol.
·
Beth bynnag fydd y drefn bydd wastad ysgolion da, ac ysgolion sydd angen
fwy o gefnogaeth a nodwyd bod gweithdrefnau yr awdurdod a GwE wedi bod yn dda
yn hyn o beth. Fodd bynnag, y gamp
ydoedd datblygu arweinwyr canol i fod yn arweinwyr da.
(iv)
Pryderwyd am rôl
llywodraethwyr yn sgil y newidiadau a gofynion fydd arnynt i’r dyfodol.
Cydnabuwyd
bod rol llywodraethwyr yn heriol fel ag y mae a bod angen amlygu’r elfennau
sydd angen i’w cefnogi nid yn unig yn lleol ond yn rhanbarthol. Nodwyd bod yr ymgynghoriad presennol ar
gyfrifoldebau a threfniadau llywodraethwyr yn creu pryder nad oes ddigon o sylw
i’r elfen wledig a phe byddir yn hepgor
yr elfen o ddemocratiaeth leol byddai hyn yn gadael bwlch.
(v)
Pa gynlluniau sydd ar y
gweill gan y Gwasnaeth Addysg i wella’r Cyfnod Sylfaen
Bod pryder am berfformiad y Cyfnod Sylfaen yn
rhanbarthol a nodwyd sawl
elfen o ran ymateb i’r hyn y gellir ei
gyflawni megis:
·
Asesu plant yn gyson
·
Asesu’r safonau
·
arweinyddiaeth
Nodwyd ymhellach bod engreifftiau sydd wedi
cael rhagoriaeth yn y Cyfnod Sylfaen gyda’r perfformiad yn gyson yn y chwarteli
uwch ac y byddai’n syniad ymchwilio ar ragoriaethau tu hwnt i’r sir.
(vi)
Pwysigrwydd i ymateb i
ymddygiadau disgyblion yn enwedig yn dilyn colli darpariaeth Canolfan
Brynffynnon lle gwelwyd budd o weithrediad y ganolfan
Hyderir y gellir datrys y pryder ynglyn â
chefnogaeth ymddygiadau yn fuan.
(vii)
Tra’n derbyn bod cydweithio
Ysgol i Ysgol yn digwydd rhaid wynebu’r sefyllfa bod ysgolion yn cystadlu yn
erbyn ei gilydd am ddisgyblion
Yng nghyd-destun cyllidebau, bod y Cabinet
wedi cymeradwyo cynllun pontio dros dro ar gyfer cynorthwyo’r
sector uwchradd.
(viii)
Nodwyd yng nghyfarfod
Ffederasiwn Llywodraethwyr Ysgolion Gwynedd yn ddiweddar bod dysgwyr ôl-16
ardal Meirion/Dwyfor yn gorfod talu £100 y tymor am gludiant i’r sefydliadau
addysgol a bod dysgwyr ardal Arfon yn derbyn cludiant am ddim.
(ix)
Bod gan Wynedd ormod o
bolisiau o fewn y Sir ac o’r herwydd yn ei wneud yn anodd i graffwyr fedru eu
craffu yn effeithiol e.e. un ysgol o fewn ardal Meirion/Dwyfor yn cynnig
darpariaeth 6ed dosbarth a’r gweddill ddim.
Bod polisiau ar draws y Sir yn eitha cyson
ond bod yr is-adeiledd yn wahanol o ran 6ed dosbarth ac y byddai’n ofynnol
cynnal trafodaethau pellach o ran ansawdd addysg ôl-16 yn y Cyngor newydd.
(x)
Iaith Gymraeg – nodir yn yr
adroddiad y bydd Ysgol Bro Idris yn ysgol ddilynol ddalgylchol cyfrwng Cymraeg
3 – 16 oed ond yn nalgylch y Berwyn nodir y bydd yr ysgol yn chwarae rhan
allweddol mewn hyrwyddo’r Gymraeg.
Gofynnwyd pam bod yr amgylchiadau wedi newid?
Cytunwyd bod yr Iaith Gymraeg yn fater
corfforaethol. Nodwyd ymhellach bod angen eglurder yn genedlaethol o rôl
addysg i hyrwyddo’r gymraeg ac fe fydd
yn rhaid wastad cael trafodaeth ynglyn â phwy sydd yn yn ei berchnogi. Rhaid bod yn
hollol glir bod yr Iaith Gymraeg yn rhan o strategaeth gorfforaethol yn
ariannol.
(xi)
Siarter yr Iaith Gymraeg –
nodwyd mai un o lwyddiannau’r Siarter ydoedd bod y Cyngor a’r Llywodraeth wedi
cymryd perchnogaeth o’r dechrau ac ni ddylai’r arian ar gyfer penodi swyddogion
eraill ddod o’r gyllideb addysg.
(xii)
Yn sgil newidiadau i
fanylebau newydd TGAU, gofynnwyd pa mor hyderus oedd y Gwasanaeth Addysg bod yr
ysgolion wedi cynllunio’n ddigonol at y manylebau diwygiedig ac y bydd y
canlyniadau yr un mor dda â chanlyniadau’r haf diwethaf?
Pryderwyd
nad oedd trafodaethau yn digwydd yn eang gyda Phenaethiaid Adran ynglyn a’r
manylebau.
·
Roedd
y Pennaeth Addysg o’r farn bod trothwy lefel TL2+ yn mynd i barhau I gario
pwysau a grym. Fodd bynnag wrth gyflwyno unrhyw drefn newydd, roedd yn anodd
iawn rhagdybio a gweld beth fyddai’r patrwm.
O safbwynt paratoi ar gyfer y diwygiadau yn y manylebau, deallir bod
athrawon wedi bod yn rhedeg 2 fanyleb. Amlygwyd pryder gan y Pennaeth Addysg
o’r newidiadau yng nghyd-destun y cynnig fyddai ar gael i ddysgwyr bregus a
dysgwyr gyda lleiaf o allu a bod y manylebau yn crynhoi cyfres o gymwysterau
tuag at plant canolig eu gallu a gallu uwch.
Rhagwelir nad oedd y manylebau yn cynnig cymwysterau addas priodol i
bobl ifanc sydd yn chwarae rhan bwysig yn y cymunedau a phosibilrwydd bod y
newidiadau yn gwneud ysgol yn le anodd iawn iddynt fynychu.
·
O
safbwynt hyfforddiant i athrawon ynglyn â’r newid i’r manylebau, sicrhawyd bod
trafodaethau yn mynd rhagddynt ar hyn o bryd rhwng yr ymgynghorwyr â
phenaethiaid adrannau ysgolion ynglyn â haenau o bapur arholiad ond ei bod yn
anodd ar hyn o bryd hyd nes y gwelir y manylebau a byddai’n rhaid medru
dadansoddi set arall o ganlyniadau er mwyn gweld yr union elfennau manwl o
baratoi.
(xiii)
Bod angen gwella y
rhwydwaith TGCh yn y sector uwchradd.
Deallir bod cyflenwad o gyfrifiaduron i ddisgyblion y sector cynradd yn
dda iawn ond nid oes dilyniant pan maent yn symud i’r uwchradd.
Bod yn rhaid ystyried is-adeiledd rhwydwaith
TGCh yn gorfforaethol ac atgoffwyd y Pwyllgor bod Ymchwiliad Craffu
Gwasanaethau Cefnogol Addysg yn ymchwilio i ddarpariaeth CYNNAL ac efallai bod
angen buddsoddiad ehangach i’r is-adeiledd ac a yw’r ddarpariaeth / systemau
ddigon cyfoes i fedru rhoi y sgiliau perthnasol i bobl ifanc i’r dyfodol.
(xiv)
Nad oedd cyfeiriad yn yr
adroddiad at blant abl a thalentog. Nodwyd bwysigrwydd i gadw ysgolion rhag
llithro ond yr un pryd rhaid ymestyn at uchelgais a bod yn well.
Nodwyd
mai dyma yw her y gwasaneth a chryfhau perfformiad A* a A a darparu ysgolion i fod y gorau
(xv)
Pwysigrwydd i edrych ymlaen
i’r dyfodol a’r her i Aelodau ydoedd toriadau i gyllidebau ysgolion ynghyd a
diffyg athrawon ar draws Gogledd Cymru.
Os na fyddir yn mynd i’r rafael â hyn rhagwelir y bydd mwy o ysgolion yn
y categori coch mewn 4 / 5 mlynedd.
·
Cydnabuwyd
bod prinder athrawon a sicrhawyd bod trafodaethau yn mynd rhagddynt gyda
Phrifysgol Bangor a Phrifysgol Glyndwr ar gyfer denu darpar athrawon.
·
Yn ogystal, nodwyd bod y 22 awdurdod yng
Nghymru wedi lansio gwefan fel dull i ddenu mwy o athrawon i fewn i’r
gyfundrefn.
·
Awgrymwyd
y byddai’n rhaid ystyried ac edrych ar fodel fyddai’n cynnig “cronni staff” lle
gallent bontio rhwng mwy nag un ysgol.
·
Yr
her ydoedd ceisio cael ysgolion i beidio edrych yn fewnol a chydweithio yn
barnteriaethol gyda’i gilydd.
(xvi)
Pryderwyd am faint
dosbarthiadau a chyfeiriwyd at engraifft gan Aelod yn lleol lle roedd 37 o
blant mewn un dosbarth ac nad oedd hyn yn gynaliadwy.
Mewn ymateb, bod yr uchod yn rhan o
drafodaeth leol a chydnabuwyd bod cyllidebau yn dynn ac unwaith mae
dosbarthiadau yn cyrraedd ffigwr penodol mai’n anodd i athrawon ac yn golygu
mewn rhai amgylchiadau grwp arall o ddisgyblion o fewn dosbarth. Ychwanegwyd bod y polisi llefydd gweigion yn
derbyn sylw cenedlaethol.
(xvii)
Croesawyd bod y Cyfnod
Sylfaen yn mynd i gael sylw pellach a’r angen i ddarparu cyfleon yn
strwythuredig.
(xviii)
Mewn ymateb i gwestiwn
ynglyn â disgyblion yn gadael ysgol heb gymhwyster nodwyd bod y rhagolygon ar
gyfer eleni yn sylweddol is.
(xix)
Pwysigrwydd bod diffiniad
Canolfan Drochi yn gwbl eglur a bod y math yma o Ganolfan yn hynod bwysig i
Bangor
(xx)
O safbwynt addysg gartref
roedd yr adroddiad yn cyfeirio at blant sy’n methu mynd i’r ysgol a phlant gyda salwch corfforol
/meddygol. Yng nghyd-destun y garfan o
blant sydd yn methu mynd i’r ysgol nodwyd bod angen trafodaeth rhwng y
Gwasanaeth Iechyd er mwyn newid geiriad y datganiadau.
(xxi)
Ni ddylai plant gydag
anghenion addysg ychwanegol gael ei hamddifadu o gyfle i fod yn ddwyieithog ac
yn lleihau cyfloedd iddynt o fewn cymunedau.
Penderfynwyd: Derbyn, a diolch am adroddiad
blynyddol y Gwasanaeth Addysg a oedd
nodi cryfderau yn y ddarpariaeth addysg ynghyd â meysydd i’w datblygu
ymhellach.
Cymerodd yr Aelod Cabinet y cyfle i ddiolch yn fawr iawn i’r Pennaeth Addysg am
ei ymroddiad a’i waith clodwiw i’r
Gwasanaeth Addysg dros y ddwy flynedd a hanner diwethaf ac o’r adroddiad
cynhwysfawr gerbron roedd yn amlwg bod y Gwasanaeth wedi symud ymlaen, gyda’r
Pennaeth wedi adeiladu tim cadarn o fewn yr Adran a’r ysgolion. Dymunwyd y gorau iddo yn ei swydd newydd gyda
GwE.
Dogfennau ategol: