Agenda item

Cais amlinellol ar gyfer dymchwel adeilad presennol ynghyd a chodi adeilad newydd yn darparu cyfanswm o 9 fflat (6 x 1 ystafell wely ac 3 x 2 ystafell wely).

 

Aelod Lleol: Cynghorydd Jean Forsyth

Cofnod:

          Cadeiriwyd y drafodaeth ar y cais hwn gan y Cynghorydd Gwen Griffith

 

Cais amlinellol ar gyfer dymchwel adeilad presennol ynghyd a chodi adeilad newydd yn darparu cyfanswm o 9 fflat (6 x 1 ystafell wely ac 3 x 2 ystafell wely)

 

(a)       Ymhelaethodd y Rheolwr Rheolaeth Datblygu ar gefndir y cais gan nodi bod y bwriad yn golygu dymchwel yr adeilad presennol, ynghyd a chodi adeilad newydd yn ei le i ddarparu 9 fflat o fewn yr adeilad. Mae’r bwriad hefyd yn darparu 5 llecyn parcio o fewn cwrtil yr adeilad, ynghyd a storfa biniau a 2 llinell sychu. Nodwyd yn y ffurflen gais bod mynediad, ymddangosiad, gwaith tirlunio, cynllun a graddfa yn ffurfio’r rhan o’r cais amlinellol yma a bod yr adeilad bwriadedig oddeutu’r un uchder a’r adeilad presennol.

 

Gan fod y bwriad yn cynnig 9 uned byw newydd, mae’n ofynnol ystyried canran o’r unedau ar gyfer angen fforddiadwy. Y canran cyffredinol yw 30% sy’n gyffelyb a 3 uned yn yr achos yma; Mae’r Uned Strategol Tai yn cytuno fod angen ar gyfer unedau fforddiadwy ac wedi cytuno i’r nifer, a chynnig disgownt o 20% er mwyn sicrhau eu bod yn fforddiadwy. Mae hyn ar sail fod y prisiau rhent a gynhwyswyd yn Datganiad Tai Fforddiadwy yn uwch na’r hynny mae’r Uned Tai Strategol yn cysidro i fod yn fforddiadwy. Nodwyd yr angen am wybodaeth bellach o ran gosod amod 106 ar y datblygiad gan yn ddiweddar nad yw’r Awdurdod Cynllunio Lleol wedi bod yn gofyn  i CCG gwblhau 106 ar ddatblygiadau tai newydd ganddynt oherwydd ei fod yn dyblygu eu polisi gosod.

 

Ystyriwyd fod y bwriad yn cydymffurfio gyda holl bolisïau perthnasol y Cynllun Datblygu Unedol a chyngor cenedlaethol perthnasol ac nad yw’r bwriad yn debygol o achosi effaith andwyol sylweddol ar fwynderau’r ardal leol nac ar unrhyw eiddo cyfagos

 

Cynigwyd a eiliwyd i ganiatáu’r cais yn unol gyda’r argymhellaid i ddirprwyo’r hawl i’r Uwch Reolwr Cynllunio i ganiatau’r cais yn ddarostyngedig i sicrhau trefniadau ynghlyn a darparu tai fforddiadwy ac i amodau perthnasol.

 

(b)       Yn ystod y drafodaeth nodwyd y prif sylwadau canlynol:

·         A fydd y fflatiau yn cael eu darparu ar gyfer unigolion sydd ar y rhestr tai?

·         Angen sicrwydd pwy yw perchennog y safle

·         Os bydd y safle yn cael ei rhyddhau rhaid sicrhau bod amod 106 yn cael ei gynnwys

·         Nad oedd angen ystyried pwy yw’r ymgeisydd

·         Rhaid sicrhau bod y fflatiau ar gyfer pobl leol

·         Cais i ohirio er mwyn derbyn mwy o wybodaeth

 

(c)      Mewn ymateb i’r sylwadau uchod, nododd y Cyfreithiwr:-

·           Cais ydoedd am ddatblygiad tai ac i’r Pwyllgor ddirprwyo hawl yn ddarostyngedig ar gwblhau cytundeb 106, ac os daw gwybodaeth bellach i law mai CCG fydd y datblygwr, yna bydd angen ailystyried yr amod.

·           Nid yw cysylltiad CCG a Cyngor Gwynedd yn berthnasol yma. Nid yw ystyried pwy yw’r ymgeisydd yn fater cynllunio

 

Cynigiwyd ac eiliwyd gwelliant i’r cynnig i ohirio y cais er mwyn derbyn mwy o wybodaeth.

 

PENDERFYNWYD gohirio’r cais er mwyn derbyn cadarnhad os mai Cartrefi Cymunedol Gwynedd fydd yn datblygu’r safle a’i peidio.

Dogfennau ategol: