Agenda item

Rhybudd o flaen llaw i ddymchwel.

 

Aelod Lleol: Cynghorydd Jason Humphreys

Cofnod:

         Rhybudd o flaen llaw i ddymchwel.

 

(a)       Ymhelaethodd yr Uwch Swyddog Rheolaeth Datblygu ar gefndir y cais, gan nodi mai cais ydoedd am ganiatâd o flaen llaw ar gyfer dymchwel cyn sinema a chlirio’r safle. O ran y wybodaeth a dderbyniwyd ymddengys nad yw’n hyfyw i gadw’r adeilad presennol. Mae cyflwr presennol yr adeilad yn gymharol wael ac mae’r ymgeisydd yn awyddus i ddymchwel yr adeilad a chlirio’r safle cyn i’r cyflwr waethygu gyda’r bwriad o ail ddatblygu’r safle at ddibenion masnachol.

 

O ran tystiolaeth, nid oes dim rheswm i wrthod y cais o safbwynt dull dymchwel ond rhaid rhoi ystyriaeth a derbyn gwybodaeth bellach ynglŷn â sut yn union y bydd hyn yn cael ei weithredu. Eglurwyd  bod dymchwel adeiladu o’r fath yn ‘ddatblygiad’ ac o ganlyniad mae cynlluniau o’r fath yn disgyn o dan reolaeth cynllunio. Er hynny, mae dymchwel yn cael ei ganiatáu o dan Ran 31 o Atodlen 2 o’r Gorchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Datblygu Cyffredinol a Ganiateir) 1995 (fel y’i diwygiwyd). Mae hyn y golygu nad oes angen caniatâd cynllunio ffurfiol ar gyfer dymchwel adeiladau os yw’r datblygwr yn cydymffurfio gyda gofynion Rhan 31. Mae’r meini prawf yn gofyn i’r ymgeisydd gyflwyno hysbysiad ymlaen llaw i’r Awdurdod Cynllunio Lleol benderfynu a oes angen caniatâd ymlaen llaw gan yr Awdurdod ar gyfer y dull dymchwel ac unrhyw waith adfer y bwriedir ei wneud ar y safle. O ganlyniad yr unig ystyriaethau sydd o dan sylw yw’r dull dymchwel a’r gwaith adfer.

 

Nodwyd bod asesiad ystlumod wedi ei dderbyn ac felly nid oedd gan Uned Bioamrywiaeth y Cyngor na Chyfoeth Naturiol Cymru unrhyw wrthwynebiad i’r bwriad os bydd y gwaith dymchwel yn cael ei gwblhau yn unol ag argymhellion yr adroddiad ystlumod. Ystyriwyd felly fod y cais yn cwrdd ag anghenion polisi B20. Ategwyd nad oedd y bwriad yn groes i unrhyw bolisi perthnasol nac yn debygol o achosi effaith andwyol ar fwynderau’r ardal leol na thai cyfagos, diogelwch ffyrdd na rhywogaethau sy’n cael eu gwarchod, felly o dderbyn gwynodaeth ychwanegol ynghlyn a sut â sut yn union y bydd y gwaith dymchwel ac adfer yn cael ei weithredu.ystyrir y bwriad yn dderbyniol i’w ganiatáu.

 

(b)       Gwnaed y prif bwyntiau canlynol gan yr aelod lleol (nad oedd yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn):-

·         Cyngor Dosbarth Dwyfor wedi gwrthod cais gan drigolion Porthmadog yn 1984 i gefnogi / cynorthwyo mewn cynnal sinema yn y dref. Gwrthwynebiad i’r cais yma yn parhau yn fater sensitif gan rai trigolion y dref.

·         Bod y Coliseum wedi bod yn rhan fawr o gymuned Porthmadog

·         Llawer o ymdrechion wedi ei gwneud i gadw’r Coliseum, gyda nifer o wirfoddolwyr wedi rhoi eu hamser i geisio adfer yr adeilad

·         Ffrindiau Coliseum wedi ffurfio yn 2011 ond heb lwyddo i sicrhau dyfodol i’r Coliseum

·         Tystiolaeth ddigonol o ymdrechion y gymuned i geisio achub y Coliseum

·         Cais am gefnogaeth gan Cyngor Gwynedd i faterion celfyddydol fydd yn cael eu trafod /cynnal i’r dyfodol

 

Cynigwyd a eiliwyd, gyda thristwch, i ganiatáu’r cais.

 

(c)       Yn ystod y drafodaeth nodwyd y prif sylwadau canlynol:

·         Ystyried rhoi mwy o amser i drigolion Porthmadog ystyried cynllun i achub yr adeilad

·         Siomedig bod Cadw heb gofrestru'r adeilad sydd yn nodwedd amlwg ac yn rhan o gynllun stryd Porthmadog

·         Cais i’r datblygwr warchod blaen yr adeilad / ymgorffori mewn datblygiad newydd

·         Y dref wedi methu a chynnal yr adeilad fel simena, ond gwerth fuasai trafod, yn wirfoddol gyda’r datblygwr i gadw blaen yr adeilad fel nodwedd hanesyddol.

 

(ch) Mewn ymateb i’r sylwadau uchod, nododd yr Uwch Reolwr Gwasanaeth Cynllunio  :-

·           Bod y cais yn un anarferol a’i fod yn derbyn y sylw a wnaethpwyd ynghlyn a  ymestyn yr amserlen i geisio achub yr adeilad, er hynny, pwysleisiwyd nad oedd hyn yn egwyddor cynllunio

·           Egwyddor y cais yw dymchwel yn unol â rheoliadau perthnasol - efallai gellid ystyried dyluniad nodweddiadol yr adeilad mewn cynlluniau i’r dyfodol.

·           Bod modd cyflwyno neges gan y Pwyllgor i’r ymgeisydd drafod ymhellach gyda’r Cyngor Tref i ystyried gohirio dymchwel er mwyn rhoi cyfle arall i’r gymuned achub yr adeilad.

 

Cynigiwyd gwelliant i’r cynnig. Caniatáu y cais ac anfon llythyr i fynd gyda’r caniatâd sydd yn datgan fod y Pwyllgor yn gofyn iddynt ystyried gohirio dymchwel er mwyn rhoi cyfle arall i’r gymuned achub yr adeilad.

 

PENDERFYNWYD yn ddarostyngedig i dderbyn datganiad diwygiedig derbyniol yn ymwneud gyda’r dull manwl o ddymchwel ac adfer y safle i ganiatáu’r cais gan anfon llythyr i fynd gyda’r caniatâd sydd yn datgan fod y Pwyllgor yn gofyn iddynt ystyried gohirio dymchwel er mwyn rhoi cyfle arall i’r gymuned achub yr adeilad.

Dogfennau ategol: