I ystyried cais gan
Mr A
(copi arwahan i aelodau’r Is Bwyllgor yn unig)
Cofnod:
Cyflwynodd y Rheolwr Trwyddedu adroddiad
ysgrifenedig ar gais a dderbyniwyd gan Mr
A am drwydded gyrru cerbyd hacni/hurio preifat
o’r newydd. Nodwyd bod y gwrandawiad yn ddilyniant i benderfyniad a wnaed
01.02.17 lle gohiriwyd y gwrandawiad hyd nes bod datganiad ysgrifenedig o’r
rhesymau pam cafodd trwydded ei chaniatáu gan Cyngor Sir
Ynys Môn (CSYM), er gwaethaf collfarnau ar y datganiad DBS.
Ategwyd bod datganiad o gollfarnau wedi ei gyflwyno, ac
oherwydd bod troseddau perthnasol i’r maes trwyddedu
wedi eu cynnwys ar y datganiad, gofynnwyd i’r Pwyllgor ystyried y cais yn unol â’r
cofnod DBS, ac yn unol â’r
canllawiau ar droseddau a chollfarnau perthnasol. Ychwanegwyd nad oedd collfarnau
ychwanegol wedi eu nodi ers cyflwyno’r cais gwreiddiol.
PENDERFYNWYD bod yr ymgeisydd yn berson addas a phriodol ar gyfer
trwydded gyrrwr cerbyd hacni/hurio
preifat a chaniatawyd cais Mr A am drwydded
hacni/hurio preifat.
Wrth wneud eu penderfyniad, roedd yr Is-bwyllgor wedi ystyried
y canlynol:
• gofynion ‘Polisi Trwyddedu ar gyfer
Hurio Preifat a Cherbydau Hacni Cyngor Gwynedd’
• ffurflen gais yr ymgeisydd
• sylwadau
llafar a gyflwynodd yr ymgeisydd a’i
gynrychiolydd yn ystod y ddau wrandawiad
• adroddiad yr Adran
Drwyddedu ynghyd a’r datganiad DBS oedd yn datgelu
collfarnau
Rhoddwyd ystyriaeth benodol i’r materion
canlynol.
Yn dilyn gwaharddiad am 18 mis, o yfed a gyrru yn
Awst 2003 (a gafodd ei godi i Fedi
2004 oherwydd i’r ymgeisydd gwblhau cwrs), derbyniwyd bod y drosedd o yfed a gyrru, yn
gollfarn unigol ac yn unol
â pharagraff 11.1 o Bolisi’r
Cyngor dylai cyfnod o leiaf 3 blynedd fod wedi mynd
heibio ers i’r gwaharddiad ddod i ben. O ganlyniad, gan fod y gollfarn yn dyddio
yn ôl i 2004 nid oedd yr Is-bwyllgor
yn ystyried bod y gollfarn yn sail i wrthod
y cais.
Roedd yr
Is-bwyllgor hefyd wedi ystyried collfarn
ar gyfer digwyddiad o ddifrod troseddol (Mai 2004) lle cafodd yr ymgeisydd
ei ddedfrydu i ddirwy, a gorchymyn i dalu iawndal a chostau. Roeddynt hefyd wedi ystyried
collfarn Ionawr 2012 ar gyfer digwyddiad
o ymosodiad oedd yn achosi niwed
corfforol gwirioneddol
(ABH) ac ar gyfer dau gyhuddiad
o ddifrod troseddol ar yr un dyddiad.
O dan gymal 16.1 o'r Polisi Trwyddedu ‘dylid ystyried gwrthod cais os oedd gan yr ymgeisydd
hanes o aildroseddu, sydd yn dangos
diffyg parch at les eraill neu at eiddo,
onid oes cyfnod o 10 mlynedd o leiaf wedi mynd
heibio ers y gollfarn ddiweddaraf’. Fodd bynnag, roedd gan yr Is-bwyllgor hawl i wirio oddi
wrth gymal 16.1 os yn fodlon bod
amgylchiadau eithriadol yn berthnasol.
Ystyriwyd bod
bwlch o 8 mlynedd rhwng collfarn 2004 a 2012 ac nad oedd
yr ymgeisydd wedi mynd allan
i achosi gweithred o ddifrod troseddol yn fwriadol (2012), yn hytrach ei
fod yn digwydd
o ganlyniad i gast aeth o chwith.
Yn ychwanegol, ystyriwyd bod gan yr ymgeisydd drwydded
cerbyd hacni /hurio preifat gyda CSYM, ac
er nad oedd hyn yn golygu
ei bod yn
ofynnol i'r Is-bwyllgor ddod i'r
casgliad bod yr ymgeisydd
yn berson addas a phriodol, roedd yn ffactor
i’r Is-bwyllgor ei ystyried wrth
wyro oddi wrth gymal 16.1. Amlygwyd bod yr ymgeisydd
eisoes yn gyrru mewn ac
allan o Wynedd yn rhinwedd y gwaith
trawsffiniol ac ni dderbyniodd yr Is-bwyllgor unrhyw dystiolaeth o gwynion neu broblemau oedd
yn ymwneud a’i waith fel
gyrrwr.
O dan yr amgylchiadau, roedd yr Is-bwyllgor
yn fodlon bod y rhesymau uchod yn cyfiawnhau
gwyro oddi wrth gymal 16.1, ac felly yn
derbyn bod yr ymgeisydd yn
berson addas a phriodol i dderbyn trwydded gyda Chyngor
Gwynedd. Pwysleisiwyd bod y
cais hwn wedi ei benderfynu
ar ei rinweddau
ei hun ac felly nid oedd yn gosod cynsail.