Agenda item

Cais amlinellol ar gyfer codi 69 o dai, gan gynnwys 20 uned fforddiadwy.

 

Aelod Lleol: Cynghorydd Ann Williams

Cofnod:

Cais amlinellol ar gyfer codi 69 o dai gan gynnwys 20 uned fforddiadwy

 

(a)       Ymhelaethodd y Rheolwr Rheolaeth Datblygu ar gefndir y cais, gan nodi bod y cais yn un amlinellol am ganiatâd cynllunio (gyda’r manylion i gyd wedi eu cadw’n ôl) i godi 69 uned breswyl newydd ar dir amaethyddol ym mhentref Bethesda. Cafodd y cais ei gyflwyno i’r Pwyllgor Cynllunio ym Mehefin 2015, lle y’i gohiriwyd er mwyn derbyn gwybodaeth bellach ynglŷn ag ystlumod, coed a cholli cynefin pwysig. Nodwyd bod Gorchymyn Gwarchod Coed wedi ei osod ar goed y safle ers 31.8.15 ac fod yr asiant ar y cais bellach wedi cyflwyno  asesiad coed ac ystlumod ac fod ‘rhain wedi ei asesu.

 

O safbwynt egwyddor y datblygiad nodwyd bod y safle wedi ei ddynodi yn yn CDU ar gyfer tai ac y byddai’r bwriad yn ymateb i’r galw am dai yn yr ardal. Cyfeiriwyd at benderfyniad apêl ar safle cyfagos lle gwrthodwyd datblygiad preswyl ar safle ‘Gray Garage’ gan y Cyngor yn 2014. Cynhaliwyd apêl i’r gwrthodiad yma ac bu i’r Arolygydd ddatgan yn y penderfyniad apêl  fod angen y datblygiad er mwyn diwallu’r angen am dai gan nad yw targedau presennol yn cael eu bodloni.

 

Cyfeiriwyd hefyd at wrthwynebiadau i’r cais sydd gyda’r mwyafrif ohonynt yn ymwneud a’r Iaith Gymraeg a’r honiad o effaith andwyol y byddai’r datblygiad yma o’i ganiatáu yn ei gael ar yr iaith yn Methesda / Dyffryn Ogwen. Mewn ymateb, un o gasgliadau’r Astudiaeth Tai ac Iaith ddiweddar a gafodd ei wneud ar y cyd gyda Chyngor Sir Ynys Môn ac Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri oedd y gallai hyrwyddo cymysgedd gywir o unedau tai yn y lleoliadau cywir gyfrannu at gynnal neu gryfhau cymunedau Cymraeg. Mae’r wybodaeth yn ail-adrodd gwybodaeth am gryfder cymharol yr iaith yn ward Ogwen ac mae’n cyfeirio at yr isadeiledd cymdeithasol sy’n bodoli’n barod, y gefnogaeth gan y Fenter Iaith, polisi iaith yr ysgolion a mesurau ychwanegol ellir eu rhoi yn eu lle. Gyda’i gilydd gallai hynny gyfrannu at y nod o gynnal a chryfhau’r iaith ym Methesda a’r ardal leol.

 

Er bod yr Uned Bolisi Cynllunio ar y Cyd wedi cyfeirio at rai diffygion yn y Datganiad Iaith a gyflwynwyd gan yr ymgeisydd, ystyrir yn ei hanfod ei fod yn dderbyniol ac oherwydd hynny, y cais yn dderbyniol ac yn bodloni gofynion Polisi Strategol 1, a gofynion polisïau A1, A2 ac A3 o safbwynt materion ieithyddol.

 

Yng nghyd-destun trafnidiaeth a llifogydd, nid oedd gwrthwynebiad i’r bwriad.

Pwysleisiwyd bod newid i’r argymhelliad yn yr adroddiad oherwydd bod asesiadau coed ac ystlumod wedi’u derbyn wedi paratoi’r adroddiad ac o asesu’r asesiadau yma fod y bwriad yn cael ei ystyried yn annerbyniol ar sail diffyg gwybodaeth derbyniol a gyflwynwyd mewn perthynas â’r gallu i asesu yn drylwyr yr effaith ar rywogaethau wedi eu gwarchod sef gweithgaredd ystlumod ynghyd ag asesiad o’r coed ar gyfer clwydfannau. Yn yr un modd ni chyflwynwyd asesiad digonol o’r coed o safbwynt effaith y datblygiad arfaethedig ar y coed hyn gan gynnwys y rhai sydd bellach wedi’u gwarchod gan Orchymyn Gwarchod Coed.

 

(b)          Tynnwyd sylw at y ffurflen sylwadau ychwanegol

 

(c)          Yn manteisio ar yr hawl i siarad nododd gwrthwynebydd y prif bwyntiau canlynol:

·         Bod y tri Pwyllgor Cymuned wedi datgan bod y datblygiad yn gwbl anaddas

·         Bod angen rhoi ystyriaeth i lifogydd, trafnidiaeth, llês y Gymraeg ac yr angen am dai yn lleol

·         Llifogydd - gwybodaeth annigonol

·         Trafnidiaeth - anghysondebau yn y wybodaeth a gyflwynwyd - materion amlwg wedi eu diystyru

·         Llês y Gymraeg - casgliadau yn gwbl ddi-sail. Dealltwriaeth yr Uned Polisi Cynllunio ar y Cyd yn sarhaus

·         Angen am dai - dim tystiolaeth am y niferoedd. Gwybodaeth annigonol wedi ei gyflwyno.

·         Cais i’r Pwyllgor Cynllunio wrthod y cais ar sail y pedwar ystyriaeth uchod ynghyd a rhesymau bioamrywiaeth

 

(ch)      Yn manteisio ar yr hawl i siarad nododd asiant ar ran yr ymgeisydd y prif n 

            bwyntiau canlynol:

·         Llifogydd a thrafnidiaeth yn faterion sydd eisoes wedi cael eu hannerch

·         Lleoliad y safle wedi ei adnabod fel rhan o’r Cynllun Datblygu Unedol Lleol ac felly nid yw yn gais sydd yn tramwyo ar dir gwyrdd

·         Y datblygiad yn ymateb i’r angen am dai yn lleol

·         Y bwriad, o’r dechrau oedd cadw'r coed, felly parodrwydd i ail drafod  gosodiad y safle

·         Ystlumod - Arolygwr Annibynnol wedi cyfleu y buasai’r datblygiad o fudd i ystlumod.

·         Cais i’r Pwyllgor roi ystyriaeth lawn i’r cais dan sylw

 

(d)          Yn manteisio ar yr hawl i siarad nododd  y Cynghorydd Elin Walker Jones (a oedd yn gweithredu fel Aelod Lleol (nid oedd yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn) y prif bwyntiau canlynol:

·         Bod y cais yn groes i bolisïau

·         Barn gyhoeddus yw gwrthwynebu - hyn wedi cael ei wneud drwy lythyrau, deisebau, cynghorau cymuned a mentrau iaith.

·         Diffyg cynllunio i warchod glastir/ ystlumod/coed. Croesawu'r gorchymyn, ond nid yw yn ddigonol. Nid yw’r ymgeisydd wedi darparu adroddiad digonol

·         Llifogydd - asesiad wedi ei gwblhau yn 2010 ac felly wedi dyddio. Problemau hanesyddol yn bodoli ar y safle yma

·         Trafnidiaeth - buasai’r bwriad yn golygu cynnydd o 77% o drafnidiaeth ar Ffordd Coetmor. Y data wedi ei gasglu yn ystod gwyliau ysgol ac felly nid yw yn gywir. Eto, nodwyd bod yr asesiad trafnidiaeth wedi ei gwblhau yn 2009! Ffyrdd cul sydd yma ac nid yw creu mannau pasio yn ddigonol i liniaru’r effaith - cwbl annigonol.

·         70 o dai eisoes ar y farchnad agored ym Methesda – pam felly bod angen mwy?

·         Asesiad arwynebol iawn wedi cael ei gyflwyno gan yr ymgeisydd o ran effaith ar yr Iaith Gymraeg. Y datblygiad yn rhy fawr ac felly yn ychwanegu 50% i boblogaeth bresennol Coetmor  - eto mesuriadau lliniaru gan yr ymgeisydd yn gwbl annigonol.

·         Cais i wrthod ar sail yr ystyriaethau uchodgwrthod yn derfynnol, unwaith ac am byth.

 

(dd)     Mewn ymateb i’r sylwadau uchod, nododd yr Uwch Reolwr Gwasanaeth  

            Cynllunio:-

·         Bod yr ystyriaethau cynllunio wedi eu hystyried yn fanwl. Yr argymhelliad yw gwrthod ar sail bioamrywiaeth a choed. Yr egwyddor o adeiladau tai yn dderbyniol a bod hyn yn ymateb i’r dystiolaeth bod angen tai yn yr ardal.

·         Nid oes gwrthwynebiadau wedi eu derbyn gan yr ymgynghorwyr statudol sydd yn ymdrin â materion priffyrdd a llifogydd

·         Nid oes tystiolaeth i wrthod y cais ar sail Iaith, Priffyrdd, Llifogydd ac Angen. Os gwrthod y cais ar sail y 4 rheswm yma buasai rhaid cyfeirio y cais i gyfnod o gnoi cil

 

          Cynigiwyd ac eiliwyd i wrthod y cais ar sail  argymhelliad swyddogion yn unig.

 

(e)       Yn ystod y drafodaeth nodwyd y sylwadau canlynol:

·         Nid yw’r modd y mae’r asesiad iaith wedi ei dderbyn gan yr Uned Polisi Cynllunio ar y Cyd  yn adlewyrchiad teg. Rhaid ystyried yr elfen yma ymhellach o ran pwyso a mesur y wybodaeth yn fanwl.

·         Bethesda bellach yn bentre’ o dan fygythiad, ar gwr dinas sydd wedi ei Saesnegeiddio

·         Nid yw adeiladu 69 o dai ar y safle yn dderbyniol

·         Dilyn y cyngor sydd wedi ei dderbyn

·         Rhaid i Lywodraeth Cymru ystyried y materion ieithyddol yn hytrach na throsglwyddo penderfyniad i arolygydd sydd heb unrhyw sylw dros yr iaith.

 

          Gwrthod – rhesymau

Mae’r bwriad yn cael ei ystyried yn annerbyniol ar sail diffyg gwybodaeth digonol a derbyniol a gyflwynwyd mewn perthynas â’r gallu i asesu yn drylwyr yr effaith ar rywogaethau wedi eu gwarchod sef gweithgaredd ystlumod ynghyd ag asesiad o’r coed ar gyfer clwydfannau. Yn yr un modd ni chyflwynwyd asesiad digonol a derbyniol o’r coed o safbwynt effaith y datblygiad arfaethedig ar y coed hyn gyda rhai ohonynt gyda Gorchymyn Gwarchod Coed arnynt. O ganlyniad, ystyrir fod y bwriad yn groes i ofynion Polisi Strategol 1, polisïau A1, A3, B19, B20 a B23 o Gynllun Datblygu Unedol Gwynedd, cyngor a roddir ym mharagraffau 4.4.1 a 4.4.2 o Nodyn Cyngor Technegol 5: Cynllunio a Chadwraeth Natur a pharagraff 5.5.3 o Bolisi Cynllunio Cymru gan na ystyrir fod gwybodaeth ddigonol na dderbyniol  wedi cael ei ddarparu er mwyn gallu asesu effaith y datblygiad yn llawn.

Dogfennau ategol: