Cyflwyno adroddiad Arweinydd y Cyngor (ynghlwm).
Cofnod:
Cyflwynodd yr Arweinydd adroddiad yn gwahodd y Cyngor i ystyried ac
addasu sylwadau drafft a baratowyd fel sail i ymateb y Cyngor i brif gynigion a
chwestiynau Papur Gwyn Llywodraeth Cymru ar ddiwygio llywodraeth leol.
Yn ystod y drafodaeth, nodwyd:-
·
Bod
morâl yn isel yn y cynghorau cymuned o ganlyniad i orfod derbyn mwy o
gyfrifoldebau gan y Cyngor hwn. Atebodd
yr Arweinydd fod y Papur Gwyn yn cyfeirio at yr angen i ymateb i’r newid yn
sefyllfa cynghorau tref a chymuned ac i wneud gwaith pellach er mwyn gweld pa
strwythur o gynghorau cymuned fydd ei angen i’r dyfodol er mwyn bod yn addas i
ymdopi â’r cyd-destun newydd.
·
Bod
y Papur Gwyn yn rhoi popeth i bawb, ond o fynd dan yr wyneb, gwelir arwyddion cryf o ganoli gwasanaethau i ranbarth Gogledd Cymru. Mae’r cwestiynau sydd wedi’u gosod yn ymwneud
â phethau ymylol sy’n hawdd eu hateb, ond dylid gofyn beth yw pwrpas awdurdod
lleol a lle mae’r egwyddor ddemocrataidd a’r atebolrwydd o fynd â phethau oddi
wrth y cynghorau i ryw gorff rhanbarthol?
Hefyd, mae yna ddryswch partneriaethau ar draws y Gogledd sydd bron yn
amhosib’ i’w ddeall. Pwy sy’n gyfrifol
am wneud penderfyniadau yn lle a phryd a phwy sydd yn eu craffu? Mae’n beryg’ na fydd gan Gyngor Gwynedd fawr
i’w wneud ymhen 10 mlynedd. Byd popeth
wedi mynd i rywle arall a beth fydd effaith hynny ar ein polisi iaith?
·
Bod
angen gwneud sylwadau cyffredinol cryf yn mynegi
pryder ynglŷn â’r daith sy’n cychwyn yma i
ganoli gwasanaethau i lefel rhanbarth Gogledd Cymru. Mae hefyd yn mynd yn groes i’r Byrddau
Gwasanaethau Lleol sydd wedi’u sefydlu gan ddeddfwriaeth arall a beth fydd rôl
rheini wedyn? Mae perygl dyblygu gwaith
ac mae’r sefyllfa’n ddryslyd iawn.
·
Os gwahardd Aelodau Cynulliad rhag sefyll fel
cynghorwyr, rhagdybir na fyddai’n bosib’ i gynghorwyr sefyll fel Aelodau
Cynulliad chwaith. Gwelwyd unigolion yn
gwasanaethu fel cynghorwyr tra’n Aelodau Cynulliad yn y gorffennol ac nid
penodiad i’r ddwy swydd yn atal unigolyn rhag cyflawni’r gwaith yn llawn.
·
Nid yw’r Papur yn cyfarch y rheol 6 mis ac mae angen
tynhau ar hynny.
·
Mae’r
ddogfen yn codi amheuaeth ynglŷn â gweithredu rhanbarthol. Mae sôn am Gwe yma, er enghraifft, a gwerth
hynny ar ddiwedd y dydd. Mae sôn yma am
rôl cynghorwyr a chwestiynwyd a fyddai symud i fodel rhanbarthol yn ei gwneud
yn fwy anodd ymgysylltu gyda’r cyhoedd.
Mae sôn y dylai cynghorau eu hunain benderfynu ar eu trefn bwyllgorau eu
hunain, ac mae hynny i’w ganmol. Mewn
ymateb, nododd yr Arweinydd iddo ddadlau dros ad-drefnu ar sail llinellau
cadarn, ond nad oedd yn rhannu'r un brwdfrydedd dros ad-drefnu sy’n ymddangos
yn llac ac yn niwlog gyda diffyg atebolrwydd.
Nododd hefyd ei bod yn rhyfedd fod materion fel trefn bwyllgorau a
system bleidleisio yn ddewisol o fewn deddfwriaeth.
·
Bod deddfwriaeth niwlog, sydd ddim yn plethu at ei
gilydd yn ei gwneud yn fwy anodd gweithredu fel cynghorydd ac i’r cyhoedd
ddeall pwy sy’n gyfrifol. Mae pwyllgorau
rhanbarthol yn bell i ffwrdd oddi wrth y cyhoedd. Nid yw’r holl beth yn cyd-blethu. Mae’r holl argymhellion gwahanol wedi eu rhoi
at ei gilydd yn flêr ac yn llac.
·
Y man cychwyn ddylai fod y cwestiwn o rôl
llywodraeth leol yn yr unfed ganrif ar hugain ac nid oes neb yn edrych ar
hynny.
·
Bod yr holl bwerau wedi eu dwyn oddi ar lywodraeth
leol gan adael y cynghorau gyda llawer o gyfrifoldebau, ond fawr ddim
pwerau. Petai’r pwerau yma’n cael eu trosglwyddo yn ôl, ni fyddai’n rhaid i
gynghorau feddwl am rannu gwasanaethau oherwydd byddai digon o bwrpas i’w
bodolaeth. Hefyd, mae tueddiad i gredu
bod yr ateb i’w gael ar y brig, yn hytrach nag ar y gwaelod.
·
Bod cynghorwyr yn gwasanaethu ar gyrff rhanbarthol
fel aelodau o’r bwrdd, yn hytrach nag fel aelodau o Gyngor Gwynedd, ac yn
gwneud penderfyniadau ar ran y bwrdd.
Nid democratiaeth yw hynny.
·
Nad yw’r Papur Gwyn yn cyfarch y sefyllfa lle mae
unigolion yn twyllo’r etholwyr drwy newid pleidiau ar ôl cael eu hethol ar y
Cyngor. Atebodd yr Arweinydd fod y Papur
Gwyn, at ei gilydd, yn ymwneud â strwythurau llywodraeth leol, yn hytrach na’r
drefn o ethol neu delerau gwasanaethu cynghorwyr, ond y gellid cynnwys sylw o’r
fath os mai dyna’r dymuniad.
PENDERFYNWYD derbyn y sylwadau drafft
fel sail i ymateb y Cyngor i’r Papur Gwyn – Llywodraeth Leol – Cadernid ac
Adnewyddiad.
Dogfennau ategol: