Agenda item

Uwchraddio ac ehangu'r safle bresennol er mwyn darparu 12 llain gydag adeilad amwynder ar bob llain ar gyfer sipsiwn a theithwyr, creu lôn mynediad newydd o fewn y safle a chreu llecyn chwarae i blant.

 

AELOD LLEOL:        Cynghorydd Dafydd Meurig

 

Dolen i'r dogfennau cefndir perthnasol

Cofnod:

Uwchraddio ac ehangu'r safle presennol er mwyn darparu 12 llain gydag adeilad amwynder ar bob llain ar gyfer sipsiwn a theithwyr, creu lôn mynediad newydd o fewn y safle a chreu llecyn chwarae i blant.          

 

(a)     Ymhelaethodd yr Uwch Swyddog Rheolaeth Datblygu ar gefndir y cais, gan nodi yn hanesyddol roedd yr holl safle yn cael ei ddefnyddio ond ar hyn o bryd dim ond 5 llain a ddefnyddir yn bresennol ar dop y safle.

 

         Adroddwyd bod gwaith cefndirol ar gyfer paratoi'r Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd (Papur Testun 18) yn cydnabod bod angen am 10 llecyn parhaol ychwanegol i’r ddarpariaeth bresennol yng Ngwynedd. Roedd y safle presennol yn Llandygai yn llawn, a rhestr wrth gefn i sicrhau llain. Ystyriwyd bod angen amlwg ar gyfer lleiniau ychwanegol. Nodwyd bod gofyn statudol i bob Awdurdod Lleol yng Nghymru i adnabod anghenion sipsiwn a theithwyr yn eu hardaloedd a darparu’n briodol. Nodwyd y byddai’r bwriad yn sicrhau bod y safle yn darparu cyfleusterau yn unol efo deddfwriaeth ac arweiniad Llywodraeth Cymru.

 

         Tynnwyd sylw at y sylwadau ychwanegol a dderbyniwyd gan yr Uned Polisi Cynllunio ar y Cyd a oedd yn cyd-fynd a’r argymhelliad i ganiatáu efo amodau a’u hasesiad o’r Datganiad Ieithyddol a Chymunedol a gyflwynwyd.

 

(b)     Gwnaed y prif bwyntiau canlynol gan yr aelod lleol (nad oedd yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn):-

·         Bod y bwriad i uwchraddio’r safle i’w groesawu;

·         Y byddai’r adeiladau mwynderol yn fwy addas i bwrpas;

·         Bod yr angen wedi ei brofi ac na fyddai mwy o effaith na’r hyn yn bresennol;

·         Ei fod yn fodlon efo’r argymhelliad i ganiatáu efo amodau.

 

(c)     Cynigwyd ac eiliwyd i ganiatáu’r cais.

 

          Yn ystod y drafodaeth ddilynol nodwyd y prif sylwadau canlynol:

 

·         Bod wir angen uwchraddio’r safle;

·         A dderbyniwyd sylwadau gan Gymdeithas y Sipsiwn?

·         Bod damwain angheuol wedi bod yn y fynedfa, felly roedd angen sicrhau bod y fynedfa yn cael ei glirio i’w wneud yn ddiogel;

·         Bod angen yn lleol ar gyfer y ddarpariaeth;

·         Croesawu’r bwriad ond roedd angen ail-ystyried enw’r safle;

·         Llawer o broblemau yn hanesyddol ar y safle felly roedd yn hynod bwysig siarad efo’r trigolion a’r Cyngor Sipsiwn. A ymgynghorwyd efo trigolion Maesgeirchen?

·         Bod gwarchod lleiafrifoedd yn beth da;

·         A oedd protocol o ran y Pwyllgor yn penderfynu ar gais a gyflwynwyd gan y Cyngor?

·         Bod gwthio’r safle i gefn stad ddiwydiannol ddim yn gwneud cyfiawnder i ni fel Cyngor a’i fod ddim yn waraidd. Dylid wedi edrych am leoliad gwell;

·         A ellir gwneud rhywbeth i wella edrychiad y safle trwy dirweddu meddal?

 

          Mewn ymateb i’r sylwadau’r uchod, nododd y swyddogion:

·         Ni ymgynghorwyd efo Cymdeithas y Sipsiwn, fe ymgynghorwyd yn unol â’r gofynion statudol. Rhoddwyd rhybudd ar y safle ac roedd y Cyngor wedi cyfathrebu efo’r trigolion;

·         Y gellir gosod nodyn ar y caniatâd bod angen clirio a chadw llystyfiant i lawr yn y fynedfa;

·         Ni hysbysebwyd yn benodol ym Maesgeirchen, penderfynwyd hysbysebu yn y wasg oherwydd bod teimladau cryf yn gallu codi;

·         Yn hanesyddol roedd protocol o ran Pwyllgor Cynllunio yn delio efo cais a gyflwynwyd gan y Cyngor ond nid oedd yn weithredol bellach;

·         Bod bwriad codi wal terfyn newydd ac roedd cynllun tirweddu i wella’r golwg.

 

(ch)   Pleidleisiwyd ar y cynnig i ganiatáu’r cais ac fe gariodd.

 

Nododd y Cynghorydd Simon Glyn ei ddymuniad i gofnodi ei fod wedi pleidleisio yn erbyn y cynnig.          

 

         PENDERFYNWYD caniatáu’r cais.

 

         Amodau:

1.     Amser

2.     Cydymffurfio gyda chynlluniau

3.     Toeau llechi i'r adeiladau

4.     Amod Dŵr Cymru

5.     Rhaid cyflwyno a chytuno archwiliad desg i asesu’r risg o lygredd. Pe byddai’r archwiliad desg yn dangos fod angen gweithrediad pellach, bydd angen cytuno unrhyw fesurau rhagofalus ac/neu adferol cyn dechrau’r datblygiad. 

6.     Rhaid cwblhau'r datblygiad yn unol ag argymhellion yr adroddiad Asesiad Amgylcheddol Cam 1

7.     Cytuno ar orffeniad tirweddu meddal a chaled

 

Nodiadau

Dŵr Cymru

Cyfoeth Naturiol Cymru

Priffyrdd

Swyddog Tân

Angen clirio a chadw llystyfiant i lawr yn y fynedfa

Dogfennau ategol: