Dymchwel tŷ ac adeiladau allanol cysylltiedig ac adeiladu 2 annedd a datblygiad cysylltiedig.
AELOD LLEOL: Cynghorydd R.
H. Wyn Williams
Cofnod:
Dymchwel tŷ ac adeiladau
allanol cysylltiedig ac adeiladu 2 annedd a datblygiad cysylltiedig.
‘Roedd rhai o’r aelodau
wedi ymweld â’r safle cyn y cyfarfod.
(a) Ymhelaethodd y Rheolwr Cynllunio ar gefndir y cais,
gan nodi bod y safle wedi ei leoli mewn ardal breswyl tu fewn i ffin
ddatblygu Abersoch, gyda therfyn cwrtil blaen yr eiddo yn ffinio gyda ffordd
sirol dosbarth 1 yr A499. Roedd dynodiad yr AHNE dros y ffordd sirol gyfochrog,
adroddwyd y derbyniwyd sylwadau gan yr Uned AHNE ar fore’r pwyllgor yn nodi dim
gwrthwynebiad.
Nodwyd bod polisi CH4 o’r CDUG yn datgan mewn egwyddor y
caniateir cynigion i adeiladu tai newydd ar safleoedd a oedd heb eu dynodi ac
oedd o fewn ffiniau datblygu pentrefi. Datgan yr ymgeisydd bod tri asesiad
hyfywedd ar dri gwahanol werth wedi eu cyflwyno ar gyfer y tai bwriadedig ac ym mhob achos, roedd yr asesiad yn dangos na
fyddai’r datblygiad yn darparu adenillion digonol ar
gyfer creu tŷ fforddiadwy (un tŷ allan o’r pâr bwriadedig) neu swm cymunol tuag at ddatblygiadau tai
fforddiadwy eraill. Nodwyd bod y polisi yn gofyn am ‘gyfran o’r unedau ar bob
safle i fod yn rhai fforddiadwy’ a gan mai ond cynnydd o un uned ychwanegol
sydd yma mewn gwirionedd, ystyriwyd na fyddai’n briodol i ofyn fod yr un
tŷ sydd yn ychwanegol i fod yn dŷ fforddiadwy ar y safle ac ni
ystyriwyd y byddai caniatáu’r cais yn tanseilio amcanion cymal 1 o fewn y
polisi.
Tynnwyd
sylw bod safle’r cais o fewn ardal a nodweddir gan dai ar wahân, o amrywiaeth o
ddyluniadau a maint, nid oedd patrwm pendant na thema gyffredin i’r tai
presennol. Nodwyd bod y cynllun a gyflwynwyd yn dangos pâr o dai o ddyluniad
modern gyda nodweddion traddodiadol. Ystyriwyd fod y deunyddiau a ddefnyddir
i’w gweld yn yr ardal ac y byddai’r bwriad o ran y gorffeniadau yn addas i’r
safle. Nodwyd bod y safle yn ddigonol o faint ar gyfer y tai ac na fyddai’n
achosi gor-ddatblygiad o’r safle.
Cyfeiriwyd at y gwrthwynebiadau a dderbyniwyd a
nodwyd yn yr adroddiad.
Roedd yr ymgeisydd yn datgan bod yr asesiad
canlyniadau llifogydd presennol yn ateb pryderon Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) ynglŷn
â’r asesiad a gyflwynwyd gyda’r cais blaenorol ac yn
dangos bod modd rheoli canlyniadau llifogydd yn unol â Nodyn Cyngor Technegol
15: Datblygiad a Pherygl o Lifogydd (NCT 15) am oes y datblygiad. Roedd
dyluniad y cynllun wedi newid fel nad oedd lle byw ar lefel daear, byddai
uchder llawr gorffenedig y tŷ wedi ei godi i 5.5m AOD a byddai uchder
wyneb blaen gwrt yr eiddo wedi ei godi yn wastad gyda’r ffordd sirol er hwyluso
mynediad diogel mewn argyfwng o’r eiddo.
Nodwyd
yr ystyrir y datblygiad yn addas a derbyniol ar gyfer y safle
a’i fod yn cydymffurfio gyda’r polisïau a chanllawiau lleol a chenedlaethol a
nodwyd yn yr adroddiad.
(b) Gwnaed y prif bwyntiau canlynol
gan yr aelod lleol
(nad oedd
yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio
hwn):-
·
Angen bod yn hir ben pam fod
ceisiadau o’r math yn cael eu cyflwyno, sef oherwydd diffyg tir a chostau;
·
Nad oedd yn erbyn y cais,
roedd yn gyfaddawd gyda’r nifer o unedau i lawr o 3 i 2;
·
Ei fod yn rhagweld cynnydd yn
y nifer o geisiadau yn Abersoch gyda’r Pwyllgor wedi agor y drws i geisiadau
eraill drwy ganiatáu cais Anhywel;
·
Derbyn adroddiad CNC oherwydd
llifogydd yn medru amharu ar y safle. Roedd y llanw yn dod i fewn yn fwy ar hyd
y ffordd a oedd dros ffordd i’r safle.
(c) Cynigwyd
ac eiliwyd i ganiatáu’r cais.
Yn ystod y drafodaeth ddilynol nodwyd y prif sylwadau
canlynol:
·
Nad oedd y datblygiad yn addas i’w
leoliad gan nad oedd yn
gweddu gyda phensaernïaeth yr ardal. Anhapus bod yr adeiladau yn
effeithio ar yr AHNE;
·
Mai elw oedd y prif yrrwr
gyda chynnydd yn y nifer o dai haf. Sut y gellir atal
hyn?
·
Ddim yn gallu cefnogi dymchwel
tŷ er mwyn codi adeiladau
yn ei le o ystyried yr effaith
amgylcheddol ac yng nghyd-destun polisi C7 o’r CDUG ‘Datblygiadau Cynaliadwy’;
·
Pryder bod adeiladau eraill yn y cyffiniau
efo risg llifogi o ystyried bod CNC yn rhoi amod
ar y cais hwn na ddylid
byw ar y llawr isaf;
·
O ran cadwraeth ynni, fe fyddai’r
datblygiad yn fwy cynaliadwy na’r tŷ presennol;
·
Cydymdeimlo efo’r aelod lleol
o ran amharu ar bensaernïaeth pentrefol, roedd yn anodd
cyfiawnhau gwrthod ar y sail yma.
Mewn ymateb i’r sylwadau’r
uchod, nododd y swyddogion:
·
O ran datblygu’n gynaliadwy, a
oedd un tŷ yn gynaliadwy i’r safle? Roedd lle i fwy o unedau ar y safle ac
fe fyddai’r unedau newydd yn fwy cynaliadwy o ran eu gwneuthuriad. Fe fyddai’n
anodd gwrthod y cais ar y sail yma;
Bod CNC yn asesu datblygiadau newydd o ran risg
llifogydd ac ni ellir gweithredu hyn yn ôl-weithredol.
PENDERFYNWYD caniatáu’r cais.
Amodau:
1. Cychwyn o fewn 5 mlynedd.
2. Llechi a deunyddiau allanol
3. Cytuno ar ddefnydd y sgrin preifatrwydd a’u
cynnal wedi hynny
4. Unol â
chynlluniau
5. Amodau Dŵr Cymru.
6. Lefel
llawr gorffenedig i fod dim is na 5.50m
AOD a’r bwriad i fod yn unol ag adroddiad Asesiad Canlyniadau Llifogydd.
7. Cwblhau’r
llefydd parcio yn unol â'r cynllun a'u bod yn
weithredol cyn i’r eiddo gael ei feddiannu am y tro cyntaf.
8. Gwydr
afloyw i’r ffenestr ochr yn yr ystafell wely
9. Tynnu
hawliau caniataol parthed terfynau yn ôl.
10. Cytuno
manylion dull draenio a deunyddiau wynebu blaen gwrt y safle cyn dechrau’r
datblygiad.
Nodyn: copi o lythyr CNC
Dogfennau ategol: