Ystyried adroddiad
y Swyddog Monitro (ynghlwm).
Cofnod:
Cyflwynwyd –
(1) Adroddiad y Swyddog Monitro yn gofyn i’r pwyllgor ystyried a
phenderfynu ar geisiadau gan y Cynghorydd Dilwyn Morgan, Aelod Y Bala ar Gyngor
Gwynedd am oddefeb mewn cysylltiad ag ad-drefnu ysgolion yn nalgylch Ysgol y
Berwyn, Y Bala.
(2) Cais pellach a dderbyniwyd, ar ôl paratoi’r adroddiad, gan y
Cynghorydd Elwyn Edwards, Aelod Llandderfel ar Gyngor Gwynedd am oddefeb mewn
perthynas â’r un mater.
Cyn ystyried y ceisiadau, rhoddodd y Swyddog
Monitro amlinelliad o’r broses trefniadaeth ysgolion yn y dalgylch.
(1) Cais y Cynghorydd Dilwyn Morgan
Nododd y Swyddog Monitro:-
·
Bod
gan y Cynghorydd fuddiant yn y mater oherwydd bod ŵyr iddo’n ddisgybl yn Ysgol Bro Tegid.
·
Y bu
i’r Cynghorydd hefyd nodi ar ei ffurflen ei fod yn Llywodraethwr Ysgol y
Berwyn, ond na fyddai hynny’n ei rwystro rhag cymryd rhan mewn trafodaethau gan
fod y Cod Ymddygiad yn rhoi caniatâd penodol i lywodraethwyr a benodwyd gan y
Cyngor i gymryd rhan, heblaw lle bydd ceisiadau am ganiatâd (e.e. cynllunio) yn
cael eu trafod.
·
Bod y
Cynghorydd yn gofyn am oddefeb gyffredinol, oherwydd ei rôl fel aelod lleol, i gymryd rhan mewn unrhyw gyfarfod lle
byddai gwahoddiad iddo roi sylwadau a mynegi barn ei etholwyr.
·
Na
chredai’r Cynghorydd y byddai ei gyfranogiad yn niweidio hyder y cyhoedd.
Cyfeiriwyd at
benderfyniadau blaenorol mewn achosion tebyg ble caniatawyd goddefebau i
aelodau â buddiant gymryd rhan yn y trafodaethau lleol yn unig ac awgrymwyd y
dylid ymlynu at y cynsail a sefydlwyd eisoes fel bod y pwyllgor yn gyson yn ei
benderfyniadau.
PENDERFYNWYD caniatáu’r cais am oddefeb i’r
Cynghorydd Dilwyn Morgan siarad, ond nid i bleidleisio, mewn cyfarfodydd dan
nawdd y Cyngor ynglŷn ag ad-drefnu ysgolion yn nalgylch Ysgol y
Berwyn, Y Bala sy’n cael eu
cynnal yn yr ardal, ond na chaiff siarad, na bod yn bresennol na phleidleisio
mewn cyfarfod o’r Cyngor, Cabinet nac unrhyw un o’i bwyllgorau a’i bod yn
ofynnol iddo ddatgan yn glir ymhob cyfarfod y mae’n cymryd rhan ynddo ei fod
wedi cael goddefeb, gan egluro union natur y cyfyngiadau arno, a bod hynny’n
cael ei nodi yng nghofnodion y cyfryw gyfarfodydd.
(2) Cais y Cynghorydd Elwyn Edwards
Nododd y Swyddog Monitro:-
·
Bod
gan y Cynghorydd fuddiant yn y mater oherwydd bod wyrion ac wyres iddo’n ddisgyblion yn Ysgol y Berwyn.
·
Y
caniatawyd goddefeb yn Nhachwedd 2009 i’r Cynghorydd gyfrannu i drafodaethau yn
y Panel Adolygu Dalgylch, ond gan fod natur y trafodaethau lleol wedi newid ers
y dyddiau hynny, yr argymhellid diweddaru’r oddefeb honno i adlewyrchu’r
sefyllfa bresennol.
·
Bod
cais presennol y Cynghorydd yn gofyn yn benodol am oddefeb i arwyddo deiseb yn
galw am statws cymunedol i Ysgol newydd Gydol Oes y Berwyn ac i gasglu enwau
arni.
Wrth ystyried y cais nodwyd mai cais i
weithredu mewn capasiti fel aelod o’r Cyngor oedd gerbron, ble ‘roedd Cod
Ymddygiad Aelodau Cyngor Gwynedd yn weithredol.
Nodwyd hefyd fod gwybodaeth am union natur y gweithredu yn brin yn y
cais. ‘Roedd y pwyllgor o’r farn y
byddai trefnu deiseb i’w chyflwyno gan aelod o Gyngor Gwynedd i’r Cabinet yn
gallu cynrychioli ymgais i ddylanwadu ar y penderfyniad oedd i’w wneud ynghylch
yr ysgol.
‘Roedd y pwyllgor yn cydnabod pwysigrwydd
mewnbwn gan aelodau i drafodaethau lleol o’r math yma, ac wedi caniatáu
goddefebau i’w galluogi i gymryd rhan mewn trafodaethau a chyfarfodydd lleol,
er bod ganddynt fuddiant sy’n rhagfarnu.
Serch hynny, ‘roedd y pwyllgor o’r farn y byddai cyflwyno deiseb yn
uniongyrchol i’r rhai oedd yn gwneud y penderfyniad yn y modd yma, yn mynd y tu
hwnt i’r hyn yr oedd yn fodlon ei ganiatáu.
Byddai hyder y cyhoedd yn y broses yn cael ei niweidio petai aelodau â buddiannau sy’n rhagfarnu yn cael y cyfle i
geisio dylanwadu fel hyn.
‘Roedd arwyddo deiseb yn fater y teimlai’r
pwyllgor allai ddod o fewn yr un categori o ddylanwad, ond ‘roedd o’r farn na
fyddai arwyddo deiseb yn y cyd-destun yma yn debygol o niweidio ffydd y cyhoedd
yn y broses.
PENDERFYNWYD
(a) Caniatáu’r
cais am oddefeb i’r Cynghorydd Elwyn Edwards siarad, ond nid i bleidleisio,
mewn cyfarfodydd dan nawdd y Cyngor ynglŷn ag ad-drefnu
ysgolion yn nalgylch Ysgol y Berwyn, Y Bala
sy’n cael eu cynnal yn yr ardal, ond na chaiff siarad, na bod yn bresennol na
phleidleisio mewn cyfarfod o’r Cyngor, Cabinet nac unrhyw un o’i bwyllgorau a’i
bod yn ofynnol iddo ddatgan yn glir ymhob cyfarfod y mae’n cymryd rhan ynddo ei
fod wedi cael goddefeb, gan egluro union natur y cyfyngiadau arno, a bod
hynny’n cael ei nodi yng nghofnodion y cyfryw gyfarfodydd.
(b) Gwrthod
goddefeb i’r Cynghorydd drefnu’r ddeiseb oherwydd bod y
pwyllgor o’r farn y byddai trefnu deiseb i’w chyflwyno fel aelod o Gyngor
Gwynedd i’r Cabinet yn gallu cynrychioli ymgais i ddylanwadu ar y penderfyniad
oedd i’w wneud ynghylch yr ysgol ac y byddai hyder y cyhoedd yn y broses yn
cael ei niweidio petai aelod â
buddiant sy’n rhagfarnu yn cael y cyfle i geisio dylanwadu fel hyn.
(c) Caniatáu
goddefeb i’r Cynghorydd arwyddo’r ddeiseb oherwydd bod y pwyllgor o’r farn na
fyddai arwyddo deiseb yn y cyd-destun yma yn debygol o niweidio ffydd y cyhoedd
yn y broses.
Nododd y Swyddog
Monitro y bwriadai gynnal trafodaeth gyda’r ddau gynghorydd ynglŷn â’u
union hawliau yn sgil y penderfyniadau uchod.
Dogfennau ategol: