skip to main content

Agenda item

Cyflwyno adroddiad Cadeirydd y Pwyllgor Archwilio  (ynghlwm).

Cofnod:

Cyflwynwyd – adroddiad Cadeirydd y Pwyllgor Archwilio yn cyflwyno argymhellion y Pwyllgor Archwilio ar fodel craffu newydd ar gyfer Mai 2017.

 

Gosodwyd y cyd-destun gan y Dirprwy Arweinydd cyn i Is-gadeirydd y Pwyllgor Archwilio gyflwyno’r argymhelliad yn absenoldeb Cadeirydd y pwyllgor.

 

Awgrymwyd y dylid adrodd yn ôl i’r Cyngor llawn ymhen blwyddyn ar lwyddiannau / methiannau’r drefn graffu newydd, pa fodel bynnag sy’n cael ei fabwysiadu.

 

Cyflwynwyd y sylwadau a ganlyn o blaid Opsiwn 1 (model un prif bwyllgor craffu):-

 

·         Aelodaeth y pwyllgor yn cymryd y trosolwg ac yn sicrhau bod y materion craffu yn bethau sydd wir angen eu craffu.

·         Y pwyllgor yn cyfarfod i gyd-fynd â chyfarfodydd y Cabinet er mwyn dilyn trywydd penderfyniadau’r Cabinet ac yn trafod gyda’r Aelodau Cabinet.

·         Y pwyllgor yn gallu sicrhau bod yr ymchwiliadau wedi gwneud eu gwaith yn drylwyr.

·         Y balans o ran meysydd yn cael ei benderfynu gan y pwyllgor craffu felly gall roi pwyslais ar ba faterion mae’n dymuno.

·         Yn chwalu silos a’r sylw sydd ei angen yn cael ei roi i bob adran o’r Cyngor.

·         Cynghorwyr yn dod i ddeall yn well sut mae’r Cyngor yn gweithio yn ei gyfanrwydd.

 

Cyflwynwyd y sylwadau a ganlyn o blaid Opsiwn 2 (model tri phwyllgor craffu):-

 

·         Yn rhannu’r baich yn hytrach nag yn rhoi’r pwysau i gyd ar un prif bwyllgor craffu fydd hefyd yn atebol am yr holl ymchwiliadau craffu.

·         Yn gwahanu’r meysydd Addysg a Gwasanaethau Cymdeithasol sydd gyda’i gilydd yn gyfrifol am 80% o wariant y Cyngor.

·         Yn haws sicrhau craffu o werth drwy gael gwell gafael ar bynciau.

·         Y model un pwyllgor craffu yn ddim mwy na chabinet cysgodol heb y cyfrifoldeb.

·         Yn amhosib’ i un pwyllgor o 15 aelod roi trosolwg o bob dim ar draws y Cyngor.

 

Cynigiwyd ac eiliwyd gwelliant bod y Cyngor yn mabwysiadu model tri phwyllgor craffu.  Gan fod canlyniad y bleidlais ar y gwelliant yn gyfartal, defnyddiodd y Cadeirydd ei bleidlais fwrw o blaid y gwelliant.  O ganlyniad,’roedd y gwelliant wedi cario.

 

PENDERFYNWYD

1.       Symud i’r model tri phwyllgor craffu sy’n cael ei ddangos yn Atodiad 2 i’r adroddiad gyda’i fanteision ac anfanteision fel y model gorau ar gyfer y Cyngor newydd.

2.       Mabwysiadu argymhellion (a) i (f) ym mharagraffau 9.1 i 9.5 o’r adroddiad, sef:-

(a)     Sefydlu trefn o sesiynau trafod rheolaidd.

(b)     Bod y rhaglen waith am y flwyddyn yn cynnwys cyfran uwch eto o faterion sydd yn cael eu craffu ymlaen llaw.

(c)     Y dylid cael trefn lle mae Aelodau Cabinet yn gwahodd aelodau craffu atynt i wneud gwaith penodol ar ddatblygu polisïau.

(ch)   Bod y Tîm Arweinyddiaeth yn edrych yn rheolaidd gyda’r craffwyr ar Gofrestr Risg Gorfforaethol y Cyngor.

(d)     Bod mwy o bwyslais yn cael ei roi ar gyfiawnhau pam bod mater yn cael ei graffu.

(dd)  Cyflwyno syniad newydd o drefnGwyntyllu”.

(e)     Bod y peilot craffu perfformiad yn dod yn rhan o drefniadau rheolaidd y Cyngor.

(f)      Bod y Cyngor yn canfod yn fuan beth yw meysydd diddordeb a sgiliau aelodau unigol.

3.       Bod y Swyddog Monitro yn cyflwyno adroddiad i’r cyfarfod nesaf o’r Cyngor yn argymell addasiadau canlyniadol i’r Cyfansoddiad er gweithredu penderfyniad y Cyngor.

 

Dogfennau ategol: