(i) Penderfyniad Y Cabinet 13 Rhagfyr 2016 OO
(gweler tud. 5
ar y ddolen isod)
(ii)
Adrodd ar waith ymchwil i gyllideb a chynnydd diffyg ariannol Ysgol
Tywyn OO
(iii) Diweddariad
Cytundebau Lefel Gwasanaeth 2017/18 i 2019/20 OO
Cofnod:
(i)
Penderfyniad y Cabinet 13 Rhagfyr 2016
Atgoffwyd y Fforwm gan yr Uwch Reolwr
Gwasanaeth Adnoddau yn deillio o drafodaethau
yn y cyfarfod diwethaf o fwriad yr Aelod Cabinet i gyflwyno pryder y sector uwchradd o leihad niferoedd disgyblion yn disgyn
yn 2017/18 ond yn cynyddu yn
y ddwy flynedd ganlynol. Gwnaed cais i’r Aelod
Cabinet Addysg a fyddai modd ystyried cynllun
pontio i gynorthwyo ysgolion mewn sefyllfaoedd
ariannol anodd ac fel bod ysgolion unigol yn osgoi
diswyddo ac ail benodi
staff mewn cyfnod cymharol fyr.
Tynnwyd sylw’r Fforwm gan yr Uwch
Reolwr Gwasanaeth Adnoddau Addysg o benderfyniad y Cabinet yn ei gyfarfod ar
13 Rhagfyr 2016 fel a ganlyn:
(i)
Fod y Cabinet yn comisiynu cynllun i’w osod yn
ein Cynllun Strategol ar gyfer 2017/18 i asesu ble ddylai’r
llinell warchodaeth fod ar gyfer
y Sector Uwchradd er mwyn defnyddio’r wybodaeth hwnnw wrth sefydlu cyllideb
2018/19;
(ii)
Gan dderbyn fod yna
drafodaethau wedi cychwyn gyda rhanddeiliaid
ar asesu’r broblem, y dylid tanlinellu’r angen i’r Cyngor newydd ystyried canlyniadau’r trafodaethau hynny yn fuan yn
oes y Cyngor er mwyn sefydlu datrysiad
hir dymor cynaliadwy ar gyfer
y sector Uwchradd;
(iii)
Er mwyn prynu amser
i hynny ddigwydd, ein bod yn gofyn
i’r Aelod Cabinet dros Adnoddau geisio
pontio am ddwy flynedd y £298,990 y mae disgwyl i’r sector Uwchradd ei ddarganfod
i’w ariannu o falansau;
(iv)
Er mwyn osgoi gwastraffu
adnoddau drwy ddiswyddo ac ail gyflogi, fod gofyn i’r
Aelod cabinet dros Adnoddau hefyd ystyried cynnwys yn ei gyllideb
ar gyfer 2017/18 arian pontio i’r
ysgolion hynny fyddai’n colli arian oherwydd lleihad yn y niferoedd
plant gan ystyried hefyd y defnydd o falansau ysgolion unigol mewn unrhyw
gynllun a gynigir.
Mewn ymateb, nodwyd werthfawrogiad gan y sector uwchradd o’r penderfyniad
a’r gweithrediad uchod a fydd o gymorth i ysgolion unigol.
Penderfynwyd: Derbyn a nodi’r uchod.
(ii)
Adrodd ar waith ymchwil i gyllideb a chynnydd
diffyg ariannol Ysgol Tywyn
Tynnwyd sylw’r Fforwm gan yr Uwch Reolwr Gwasanaeth Adnoddau Addysg at
benderfyniad y Cyngor fel amlinellir ym mhwynt 2.1 (i) er mwyn asesu y llinell
warchodaeth. I’r perwyl hwn, nodwyd bod
gwaith wedi ei gomisiynu ar sefyllfaoedd cyllidol Ysgol y Berwyn ac Ysgol
Uwchradd Tywyn.
Penderfynwyd: Derbyn a nodi’r uchod.
(iii)
Diweddariad Cytundebau Lefel Gwasaneth
2017/18 i 2019/20
Adroddodd yr Uwch
Reolwr Gwasanaeth Addysg bod y gwasanaethau i gyd wedi cyflwyno Cytundebau
Lefel Gwasanaeth ar gyfer 2017/18 ond nodwyd ymhellach bod 2 wasanaeth wedi
gofyn am ymestyn y gwasanaeth am flwyddyn oherwydd sefydliad y Swyddfeydd Ardal
a phenodiad y Swyddogion Busnes Ardal (sef CLG Uned Gefnogi Addysg (cynradd) a
CLG Personél, Cyflogau a chefnogaeth Gyfreithiol).
Yng nghyd-destun
cytundeb hefo cwmni CYNNAL, roedd y Gwasanaeth Addysg wedi llwyddo i gael
gostyngiad yn y pris a bydd dyranidau ysgolion yn
cael ei lleihau i adlewyrchu’r gostyngiad hwn. Nodwyd na fyddai unrhyw effaith
ariannol ar ysgolion.
O safbwynt CLG Cynnal
Tiroedd, dymunir ymestyn y gytundeb bresennol am flwyddyn er mwyn caniatáu i
gwasanaeth adnabod anghenion ysgolion unigol.
Nododd Pennaeth y
gobeithir y byddai’r gwasanaeth uchod yn ymweld â phob safle i drafod yr anghenion.
Mewn ymateb i ymholiad ynglyn â’r gwasanaethau i Ysgol
Bro Idris, esboniwyd bod y Gwasanaeth Addysg mewn trafodaethau gyda’r Pennaeth
ar hyn o bryd.
Penderfynwyd: Derbyn a
nodi’r uchod.