skip to main content

Agenda item

Cyflwyno adroddiad yr Aelod Cabinet Adnoddau  (ynghlwm).

Cofnod:

Cyflwynodd yr Aelod Cabinet Adnoddau:-

 

·         Adroddiad yn argymell cyllideb i’r Cyngor ei chymeradwyo ar gyfer 2017/18.

·         Atodiad yn manylu ar faterion i’w hystyried wrth sefydlu’r gyllideb, ynghyd â’r strategaeth tymor-canol.

·         Penderfyniad drafft y Dreth Cyngor yn seiliedig ar argymhelliad y Cabinet i’r Cyngor (ar sail cynnydd o 2.8%) ynghyd â thablau yn dangos lefel y Dreth Cyngor a’r cynnydd fesul cymuned.

 

Nododd yr Aelod Cabinet fod y drefn o sefydlu Strategaeth Ariannol y Cyngor wedi bod yn drefn gynhwysol o gydweithio a diolchodd i’r Prif Weithredwr, yr Uned Ymchwil, y Pennaeth Cyllid a staff yr Adran Gyllid am eu cydweithrediad dros y 5 mlynedd ddiwethaf.

 

Yn ystod y drafodaeth, nodwyd:-

 

·         Bod y Cyngor wedi cymeradwyo gwario arian dan eitemau 6 a 7 uchod, ond yn penderfynu codi arian yma.  Atebodd y Pennaeth Cyllid fod y penderfyniadau hynny yn golygu symud ymlaen â materion oedd eisoes yn y gyllideb.

·         Bod arbedion effeithlonrwydd yn golygu lleihad yn nifer y staff sy’n golygu na all cynghorwyr gael gafael ar neb i basio cwynion ymlaen.  Mewn ymateb, nododd yr Aelod Cabinet nad oedd arbedion effeithlonrwydd yn doriadau a bod modd cynnal gwasanaeth yn fwy effeithiol heb dorri staff.  Ychwanegodd y Pennaeth Cyllid, yn sgil yr arbedion effeithlonrwydd a’r toriadau a gymeradwywyd eisoes, ei bod yn rhesymol cynhyrchu tua £1m o arbedion effeithlonrwydd pellach er mwyn cadw’r dreth ar y lefel sy’n cael ei argymell ac na fyddai’r arbedion effeithlonrwydd hyn yn cael effaith ar y trethdalwyr.

·         Bod y penderfyniad i wneud i ffwrdd â’r swyddog anabledd wedi cael effaith.

·         Bod trethdalwyr Môn a Cheredigion yn talu llai na threthdalwyr Gwynedd, ac er y croesawid y ffaith bod Gwynedd wedi derbyn y setliad gorau yng Nghymru eleni, ‘roedd hon yn sir dlawd iawn a byddai’r codiad yn anodd iawn i bobl sydd eisoes yn cael anhawster cael deupen llinyn ynghyd. 

·         Y byddai cyfyngu’r cynnydd yn y dreth i 1.5% yn dod â Gwynedd yn agosach at Fôn a chymdogion eraill.  Nodwyd hefyd bod lefel chwyddiant yn is na 2% erbyn hyn.

·         Bod pwysau hefyd ar gynghorau cymuned a thref a’r Awdurdod Heddlu i godi eu trethi a bod cynnydd o 2.8% yn rhesymol iawn.

·         Bod y toriadau o £4.3m yn y maes addysg yn taro’r sector cynradd sy’n golygu bod plant yn symud i fyny i’r uwchradd heb gyrraedd y safon ddisgwyliedig a bod hynny, yn ei dro, yn golygu mwy o waith gyda llai o adnoddau.

·         Bod pobl yn gweld eu hunain yn talu mwy am lai o wasanaethau.

·         Bod y dreth ar dŷ Band D yng Ngwynedd yn ddrutach na thŷ Band D yng Nghaerdydd a Gwynedd oedd y 6ed uchaf yn 2016.

·         Y byddai 2% yn unig o godiad yn y dreth yn golygu lleihad o £13 y flwyddyn i drigolion Band D ac £1.47m o incwm yn lle £2.06m.  Byddai gan y Cyngor £5m o falansau ar ddiwedd Mawrth a gellid defnyddio £0.5m o’r balansau hynny i falansio’r gyllideb.  Mewn ymateb, eglurodd y Prif Weithredwr fod angen cynnydd o 2.8% i gyfarch y bwlch ac y byddai ariannu o falansau am eleni yn golygu y byddai’n rhaid dod o hyd i £0.5m o arbedion ychwanegol y flwyddyn nesaf ar ben y £1m sydd eisoes wedi’i ddarganfod.

 

Cynigiwyd ac eiliwyd gwelliant i gynyddu’r dreth cyngor 2% gan ddefnyddio £0.5m o falansau i bontio’r bwlch a bod yr arbedion ychwanegol angenrheidiol yn cael eu darganfod y flwyddyn nesaf.

 

Nododd y Pennaeth Cyllid y byddai’r gwelliant yn golygu ariannu bwlch parhaol allan o falansau un-tro, ac felly’n groes i egwyddorion cynllunio ariannol cryf, a barn Swyddfa Archwilio Cymru ar hynny, fel y’i cyflwynwyd yn rhan 8.6 o’r adroddiad.

 

Yn ystod y drafodaeth ar y gwelliant, nodwyd:-

 

·         Bod cynghorau cymuned yn codi trethi ychwanegol er mwyn gwneud iawn am fethiant y Cyngor hwn i ddarparu’r gwasanaethau maent eu hangen a bod cynnydd o 2.8% yn dyblu’r gosb ar ein cymunedau. 

·         Y byddai’n well cadw at gynnydd o 2% yn unig nes y bydd yn hysbys faint o doriadau mae’r cymunedau yn mynd i’w hwynebu a faint o dreth y bydd yn rhaid i gynghorau cymuned ei godi i wneud iawn am y toriadau hynny.

·         Y croesawyd penderfyniad y Cabinet i gymeradwyo £275,000 tuag at adfer y swyddfeydd addysg yn yr ardaloedd, ond siom oedd deall bod disgwyl i’r Adran Addysg ganfod arbedion erbyn 2020 i wneud iawn am hynny.

·         Bod y penderfyniad i rewi unrhyw doriad ar ysgolion uwchradd i’w groesawu, ond dylid sicrhau bod yr ysgolion yn cael ad-daliad o’r cyfraniad o £1,000 a wnaed gan bob un ohonynt o’u cyllidebau tua 8-9 mlynedd yn ôl i gadw Ysgol Syr Hugh Owen, Caernarfon â’i phen uwchben y dŵr.

·         Y pryderid am y bobl hynny sydd ar gyflogau isel, ond yn anghymwys am fudd-dal, a holwyd a fyddai methiant pobl o’r fath i dalu’r dreth gyngor yn fwy costus i’r Cyngor yn y pen draw.

·         Nad ar lawr y Cyngor oedd y lle i gyflwyno cyllideb wahanol a bod peryg’ meddwl bod rhaid cynnig llai o gynnydd na’r hyn sy’n cael ei argymell.

·         O gymeradwyo’r argymhelliad, gellid dweud wrth bobl na fydd rhagor o doriadau ac y bydd yna chwystrelliad o arian i gynorthwyo ysgolion uwchradd.  Byddai’r cynnydd o 2.8% hefyd yn rhoi’r Cyngor mewn sefyllfa i warchod gwasanaethau a sicrhau buddsoddiad i’r gwasanaethau yn ogystal.

·         Y dylid cadw at y strategaeth a pheidio rhoi penderfyniad anodd i rywun arall y flwyddyn nesaf.

·         Bod cynnig tynnu allan o falansau yn dôn gron bob blwyddyn ac na ellid parhau i dynnu £0.5m bob blwyddyn o falansau.

·         Nad oedd yn deg cymharu sefyllfa Gwynedd gyda Môn a Chaerdydd gan fod angen mwy o bobl i wneud yr un gwaith yng Ngwynedd oherwydd y demograffi.

·         Bod defnyddio balansau i ariannu cyllideb refeniw yn creu problem ar gyfer y dyfodol.

·         Bod lleihau’r cynyddu’r yn y dreth yn golygu toriadau mewn meysydd fel addysg a gwasanaethau cymdeithasol, sy’n cael ardrawiad ar yr hen a’r ifanc.

·         Nad yw cynyddu’r dreth yn effeithio ar y tlotaf o fewn cymdeithas gan nad ydynt yn talu’r dreth beth bynnag, ond mae torri’r gwasanaethau yn cael effaith sylweddol ar y bobl hynny.

·         Nad oedd pob cyngor cymuned yn cynyddu lefel y dreth.

·         Y byddai’n well codi’r dreth 2.8% yn awr na gorfod gwneud cynnydd llawer uwch ymhellach ymlaen.

·         Bod y bwlch rhwng y tlawd a’r cyfoethog yn cynyddu ac nad oedd y dreth treth cyngor yn helpu.

·         Bod y gwelliant yn galluogi i’r Cyngor edrych ar y sefyllfa gyda llygaid newydd y flwyddyn nesaf.

·         Bod angen gweithio’n galed i gadw’r dreth i lawr.

 

Cyn pleidleisio ar y gwelliant, esboniodd y Prif Weithredwr beth oedd goblygiadau’r hynny, gan nodi:-

 

·         Bod arbedion effeithlonrwydd ychwanegol o £2.96m ar drac i’w cyflawni yn 2018/19, yn unol â gofynion y strategaeth tymor canolig, ond bod dal angen darganfod £3.7m arall ar gyfer 2018/19.

·         Petai angen i’r Cyngor newydd ddarganfod yr arian hynny, byddai’n rhaid iddynt fynd yn ôl at y rhestr toriadau, ac fel esiampl o’r pris o beidio cynyddu’r dreth gyngor yn ddigonol eleni, cyfeiriodd at y 4 eitem nesaf ar y rhestr fyddai’n creu £0.5m o doriadau, sef cau Neuadd Dwyfor, lleihau 10% ar y gyllideb cludiant cyhoeddus, cau 8 canolfan ailgylchu a chau 2 ganolfan hamdden (neu gellid dewis 4 eitem is ar y rhestr, ond gwaeth ym marn pobl Gwynedd).

·         Petai’r llywodraeth yn torri grant y Cyngor yn fwy na’r disgwyl erbyn 2018/19, yn ôl y rhagolwg gwaethaf, byddai angen darganfod £7.3m o arbedion, sef £3.6m yn fwy o arbedion y flwyddyn nesaf.  Byddai tynnu £0.5m pellach allan o’r lefel balansau a adroddir yn yr adroddiad yn ei gwneud yn anodd prynu amser i gwrdd â’r sefyllfa waethaf wrth osod cyllideb 2018/19, gan greu risg sylweddol uwch y flwyddyn nesaf.

 

Pleidleisiwyd ar y gwelliant i gynyddu’r dreth gyngor 2% ac fe ddisgynnodd.

 

Pleidleisiwyd ar y cynnig gwreiddiol i gynyddu’r dreth gyngor 2.8% ac fe gariodd.

 

PENDERFYNWYD

1.         Sefydlu cyllideb o £231,299,720 ar gyfer 2017/18, i’w ariannu drwy Grant Llywodraeth o £168,963,540 a £62,336,180 o incwm o’r Dreth Cyngor gyda chynnydd o 2.8%.

2.         Sefydlu rhaglen gyfalaf o £12.015m yn 2017/18 a £6.410m yn 2018/19 i’w ariannu o’r ffynonellau a nodir yng nghymal 9.3 o’r adroddiad.

3.       Nodi fod yr Aelod Cabinet dros Adnoddau, drwy daflen benderfyniad dyddiedig 22 Tachwedd 2016, wedi cymeradwyo cyfrifiad y symiau a ganlyn ar gyfer y flwyddyn 2017/18 yn unol â’r rheoliadau a luniwyd dan Adran 33 (5) o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992 (“Y Ddeddf”):-

 

(a) 50,232.22 yw’r swm a gyfrifwyd fel Sylfaen drethiannol Gwynedd yn unol â’r Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Cyfrifo Sylfaen y Dreth Cyngor) (Cymru) 1995 fel y’i diwygiwyd fel ei sylfaen Dreth Cyngor am y flwyddyn.

 

(b) Rhan o ardal y Cyngor – Sylfaen drethiannol Cymuned –

 

Aberdaron

     521.73

 

Llanddeiniolen

   1,797.37

Aberdyfi

     915.28

Llandderfel

     484.05

Abergwyngregyn

     116.25

Llanegryn

     155.92

Abermaw (Barmouth)

   1,089.22

Llanelltyd

     277.33

Arthog

     603.52

Llanengan

   1,955.12

Y Bala

     759.58

Llanfair

     306.45

Bangor

   3,752.56

Llanfihangel y Pennant

     207.70

Beddgelert

     314.22

Llanfrothen

     215.74

Betws Garmon

     132.87

Llangelynnin

     392.62

Bethesda

   1,656.05

Llangywer

     135.09

Bontnewydd

     433.54

Llanllechid

     334.49

Botwnnog

     430.29

Llanllyfni

   1,385.04

Brithdir a Llanfachreth

     403.86

Llannor

     897.86

Bryncrug

     333.65

Llanrug

   1,128.07

Buan

     221.19

Llanuwchllyn

     306.73

Caernarfon

   3,467.91

Llanwnda

     766.22

Clynnog Fawr

     440.58

Llanycil

     195.26

Corris

     291.48

Llanystumdwy

     856.31

Cricieth

     916.60

Maentwrog

     272.30

Dolbenmaen

     585.70

Mawddwy

     333.19

Dolgellau

   1,190.95

Nefyn

   1,380.07

Dyffryn Ardudwy

     773.53

Pennal

     216.03

Y Felinheli

   1,122.95

Penrhyndeudraeth

     760.14

Ffestiniog

   1,687.96

Pentir

   1,067.54

Y Ganllwyd

       78.91

Pistyll

     243.50

Harlech

     747.37

Porthmadog

   1,947.97

Llanaelhaearn

     429.82

Pwllheli

   1,713.23

Llanbedr

     313.90

Talsarnau

     306.91

Llanbedrog

     677.91

Trawsfynydd

     499.78

Llanberis

     769.47

Tudweiliog

     444.98

Llandwrog

     996.86

Tywyn

   1,552.99

Llandygai

     964.62

 

Waunfawr

     555.89

 

sef y symiau a gyfrifwyd fel symiau Sylfaen y Dreth Gyngor ar gyfer y flwyddyn ar gyfer tai annedd yn y rhannau hynny o’i ardal lle bo un eitem arbennig neu fwy’n berthnasol.

 

4.       Bod y symiau a ganlyn yn cael eu pennu yn awr gan y Cyngor ar gyfer y flwyddyn 2017/18 yn unol ag Adrannau 32 i 36 o’r Ddeddf:-

 

(a) £347,986,230 

Sef cyfanswm y symiau y mae’r Cyngor yn eu hamcangyfrif ar gyfer yr eitemau a nodwyd yn Adran 32(2)(a) i (e) o’r Ddeddf (gwariant gros).

 

(b) £114,986,280

Sef cyfanswm y symiau y mae’r Cyngor yn eu hamcangyfrif ar gyfer yr eitemau a nodwyd yn Adran 32(3)(a) i (c) o’r Ddeddf (incwm).

 

(c) £232,999,950

Sef y swm sy’n cyfateb i’r gwahaniaeth rhwng cyfanswm 3(a) uchod a chyfanswm 3(b) uchod, a gyfrifwyd gan y Cyngor, yn unol ag Adran 32(4) o’r Ddeddf, fel ei ofynion cyllideb ar gyfer y flwyddyn (cyllideb net).

 

(ch) £168,668,537

Sef cyfanswm y symiau y mae’r Cyngor yn amcangyfrif y byddant yn daladwy yn ystod y flwyddyn i’w gronfa ar gyfer cyfan o’r Dreth Annomestig Genedlaethol a Grant Cynnal Refeniw, llai amcangyfrif o’r gost i’r Cyngor o ryddhad dewisol o’r dreth annomestig a ganiateir.

 

(d) £1,280.68

Sef y swm yn 3(c) uchod llai’r swm yn 3(ch) uchod, y cyfan wedi ei rannu gan y swm a nodir yn 2(a) uchod, a gyfrifwyd gan y Cyngor yn unol ag Adran 33(1) o’r Ddeddf, sef swm sylfaenol ei Dreth Cyngor am y flwyddyn (treth Cyngor Gwynedd a threth cyfartalog cynghorau cymuned).

 

(dd) £1,995,230

Sef cyfanswm yr holl eitemau arbennig y cyfeirir atynt yn Adran 34(1) o’r Ddeddf (praeseptau’r cynghorau cymuned).

 

(e) £1,240.96

Sef y swm yn 3(d) uchod llai’r canlyniad a geir wrth rannu’r swm yn 3(dd) uchod â’r swm yn 2(a) uchod, a gyfrifwyd gan y Cyngor, yn unol ag Adran 34(2) fel  swm sylfaenol ei Dreth Cyngor am y flwyddyn ar gyfer tai annedd yn y rhannau hynny o’i ardal lle nad oes unrhyw eitem arbennig yn berthnasol (Band D ar gyfer treth Cyngor Gwynedd yn unig).

 

(f) Ar gyfer rhannau o ardal y Cyngor –

 

Aberdaron

 1,265.88

 

Llanddeiniolen

 1,252.09

Aberdyfi

 1,275.39

Llandderfel

 1,263.68

Abergwyngregyn

 1,262.47

Llanegryn

 1,273.03

Abermaw (Barmouth)

 1,288.70

Llanelltyd

 1,268.00

Arthog

 1,256.29

Llanengan

 1,266.53

Y Bala

 1,269.92

Llanfair

 1,270.33

Bangor

 1,336.01

Llanfihangel y Pennant

 1,292.74

Beddgelert

 1,268.65

Llanfrothen

 1,267.84

Betws Garmon

 1,260.53

Llangelynnin

 1,260.83

Bethesda

 1,276.28

Llangywer

 1,270.57

Bontnewydd

 1,276.71

Llanllechid

 1,263.38

Botwnnog

 1,252.58

Llanllyfni

 1,270.10

Brithdir a Llanfachreth

 1,255.82

Llannor

 1,257.84

Bryncrug

 1,276.93

Llanrug

 1,268.44

Buan

 1,257.91

Llanuwchllyn

 1,273.56

Caernarfon

 1,298.20

Llanwnda

 1,271.24

Clynnog Fawr

 1,268.20

Llanycil

 1,261.45

Corris

 1,265.91

Llanystumdwy

 1,258.48

Cricieth

 1,278.05

Maentwrog

 1,262.75

Dolbenmaen

 1,258.03

Mawddwy

 1,264.97

Dolgellau

 1,286.30

Nefyn

 1,284.86

Dyffryn Ardudwy

 1,279.41

Pennal

 1,268.73

Y Felinheli

 1,272.13

Penrhyndeudraeth

 1,285.69

Ffestiniog

 1,329.82

Pentir

 1,282.18

Y Ganllwyd

 1,275.18

Pistyll

 1,275.87

Harlech

 1,265.71

Porthmadog

 1,269.53

Llanaelhaearn

 1,299.12

Pwllheli

 1,282.99

Llanbedr

 1,286.18

Talsarnau

 1,289.83

Llanbedrog

 1,266.04

Trawsfynydd

 1,272.97

Llanberis

 1,266.95

Tudweiliog

 1,254.44

Llandwrog

 1,282.09

Tywyn

 1,296.34

Llandygai

 1,262.32

 

Waunfawr

 1,262.55

 

sef y symiau a geir trwy ychwanegu symiau’r eitem neu eitemau arbennig sy’n berthnasol i dai annedd yn y rhannau hynny o ardal y Cyngor y cyfeiriwyd atynt uchod, at y swm a geir yn 3(e) uchod wedi’u rhannu ym mhob achos gan y swm yn 2(b) uchod, a gyfrifwyd gan y Cyngor yn unol ag Adran 34(3) o’r Ddeddf, fel symiau sylfaenol ei Dreth Gyngor am y flwyddyn ar gyfer tai annedd yn y rhannau hynny o’i ardal lle bo un eitem arbennig neu fwy’n berthnasol.

 

(ff) Ar gyfer rhannau o ardal y Cyngor, y ffigyrau a nodir yn Atodiad 1, sef y symiau a geir trwy luosi’r symiau yn 3(f) uchod â’r rhif sydd yn ôl y cyfrannau a nodir yn Adran 5 (1) o’r Ddeddf, yn berthnasol i dai annedd a restrir mewn band prisio arbennig wedi’i rannu â’r rhif sydd yn ôl y cyfrannau hynny’n berthnasol i dai a restrir ym mand prisio D, a gyfrifir gan y Cyngor, yn unol ag Adran 36(1) o’r Ddeddf, yn symiau sydd i’w hystyried ar gyfer y flwyddyn ar gyfer y categorïau o dai annedd a restrir yn y gwahanol fandiau prisio.

 

5.       Nodi ar gyfer y flwyddyn 2017/18 fod Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru wedi nodi’r symiau a ganlyn mewn praesept a roddwyd i’r Cyngor, yn unol ag Adran 40 o’r Ddeddf ar gyfer pob un o’r categorïau o dai annedd a ddangosir isod:

 

 

Band A

Band B

Band C

Band D

Band E

Band F

Band G

Band H

Band

I

 

166.14

193.83

221.52

249.21

304.59

359.97

415.35

498.42

581.49

 

6.       Wedi pennu’r cyfanswm ym mhob achos o’r symiau 3(ff) a 4 uchod, bod y Cyngor, yn unol ag Adran 30(2) o’r Ddeddf trwy hyn, yn pennu’r symiau a nodir yn Atodiad 2 ar gyfer y Dreth Gyngor yn y flwyddyn 2017/18 ar gyfer pob categori o dai annedd a ddangosir yn yr Atodiad.

 

Dogfennau ategol: