Ystyried unrhyw gwestiynau y
rhoddwyd rhybudd priodol ohonynt o dan Adran 4.19 o’r Cyfansoddiad.
Cofnod:
“Pa elw / grantiau
mae Cyngor Gwynedd wedi ei dderbyn dros y 10 mlynedd ddiwethaf drwy Undeb Ewrop
ynghyd â grantiau eraill a dderbyniwyd trwy bartneriaeth / busnes yng Ngwynedd yn ystod y cyfnod 10 mlynedd?”
Ateb gan y Cynghorydd Mandy Williams-Davies, Aelod
Cabinet Economi a Chymuned
(Dosbarthwyd ateb
ysgrifenedig yr Aelod Cabinet i’r cwestiwn gwreiddiol i’r aelodau ymlaen llaw.)
“Ers 2007, mae
Cyngor Gwynedd wedi derbyn £48.5m o arian gan Gronfeydd yr Undeb Ewropeaidd
sydd wedi galluogi i gyfanswm o £89.6m gael ei fuddsoddi yn y sir. Hefyd, mae cyrff eraill allanol fel Prifysgol
Bangor, fel y gwelwch, yn cael arian sylweddol.
Mae’r cwestiwn ynghlwm â’r arian, ond ‘rwy’n
meddwl, o fynd o gwmpas fy ngwaith dydd i ddydd dros y 2 flynedd ddiwethaf, yr
hyn yr hoffwn dynnu sylw ato ydi’r hyn mae’r arian yma wedi ei alluogi, sef
cefnogi swyddi a chefnogi syniadau, a hyn, mi gredaf, sy’n bwysig i’w fesur
ynghlwm â’r arian.”
Cwestiwn atodol gan y Cynghorydd R.H.Wyn Williams
“Sut mae’r Cyngor
yn gweld y sail o golli cymaint o gymorth yn y dyfodol a lle a beth yw’r patrwm
at y dyfodol?”
Ateb gan y Cynghorydd Mandy Williams-Davies, Aelod
Cabinet Economi a Chymuned
“Mae hwn yn dipyn
o gwestiwn ac ni allaf ond ateb o’m profiad i o’r trafodaethau ‘rwyf wedi gael
yn rhinwedd fy swydd fel Aelod Cabinet.
‘Rwy’n gweld sawl cyfeiriad o newid, bod yna gydweithio hefo 6 sir ar
draws y Gogledd, ac mae hynny’n dda o beth, ond i fod
yn rhan o’r arian ‘rwy’n credu mai cyfeiriad llywodraeth San Steffan yw gwario
ar isadeiledd a diwydiannau penodol.
Mae’n rhaid i ni fod yn rhan o’r trafodaethau yna. Mae’n bwysig bod yn rhan o isadeiledd trydaneiddio Rheilffordd y Gogledd, ac ati. Ond hefyd mae yna dynfa i’r cydweithio yna
fynd ar draws yr ardaloedd dinesig, y Northern Powerhouse,
ac mae’r De yn gweithio gyda Bryste. Ac
mae yna dynfa yma sydd yn fy mhryderu braidd.
Mae’r prosiectau a welwch ar y rhestr yn brosiectau penodol i bwrpas
penodol sy’n hawdd eu mesur ac yn cael dylanwad da, mi gredaf. ‘Rydym eisoes wedi rhestru prosiectau sydd
wedi bod yn llwyddiannus yng Ngwynedd. Mae perygl ein bod yn colli’r prosiectau
bychain yma ar draul bod yn rhan o’r trafodaethau isadeiledd mawr a hynny yw fy
mhryder. Ymhellach ymlaen ar y rhaglen,
byddwn yn trafod ail-drefnu llywodraeth leol ac ‘rwy’n credu mai yna efallai
mae ein cyfraniad ni fel Cyngor, h.y. ein bod yn sicrhau bod unrhyw ad-drefniant
a chydweithio rhanbarthol yn sicrhau bod ein llais ni yna ar gyfer y pethau mân
a bychain sy’n gwneud gwir wahaniaeth i fywydau ac i gyfleoedd pobl ynghyd â’r isadeiledd.
Felly mae tipyn o waith o’n blaenau.
O bosib’ daw arian yn ôl yn gyfatebol i Gymru
ond mae’n rhaid gwneud yn siŵr bod y budd economaidd i ni, nid yn fudd i’r
rhanbarthau dinesig, ond yn fudd i fywydau pobl go iawn. Dyna pam bod angen economi gref, er mwyn cynnal cymunedau, ac ati, a rhaid gwneud yn
siŵr bod y gacen yn cael ei rhannu’n deg ar draws Cymru, ac nid i’r ardaloedd
ar y ffiniau dinesig. Felly mae cryn
waith i’w wneud, ond yn y fan honno mae’r her, mi gredaf.”