Agenda item

Ystyried adroddiad Uwch Reolwr Economi a Chymuned

Cofnod:

Cyflwynwyd adroddiad cychwynnol gan yr Aelod Cabinet, yn amlinellu effaith y toriadau a gymeradwywyd gan y Cyngor Llawn (Mawrth 2016) ar gyllidebau rheoli traethau Baner Las a Baner Werdd. Amlygwyd yr oblygiadau a ragwelwyd ond, gan nad oedd y toriadau wedi eu gweithredu yn llawn, roedd yn anodd rhoi adroddiad manwl ar yr effaith hyd yma. Er efallai yn gynamserol i drafod yr effaith yn y cyfnod trosiannol, derbyniwyd bod angen cynnal y drafodaeth a chadw llygad ar yr effaith bosib.

 

Mewn ymateb i’r adroddiad, gwnaed cais i ystyried sefyllfa Morfa Nefyn a Nefyn gan nad ydynt bellach yn cael gwarchodaeth. Nododd y Cynghorydd Lleol nad yw’r arbenigedd gan y Cyngor Cymuned i dderbyn y cyfrifoldeb ac amlygwyd bod y Cyngor Cymuned yn ystyried rhoi'r brydles yn ôl i’r Goron.

 

Yn ystod y drafodaeth ddilynol, amlygwyd y sylwadau canlynol ynglŷn â thraethau Morfa Nefyn a Nefyn:

·         Os na fydd y Cyngor Cymuned a Chyngor Gwynedd yn mynd i warchod y traethau yma, pwy fydd yn cymryd y cyfrifoldeb?

·         Rhaid dwyn perswâd ar Ystâd y Goron i dderbyn cyfrifoldeb

·         Pa drefniadau sydd mewn lle cyn gollwng cyfrifoldeb?

·         A oes modd cyflwyno cynlluniau amgen?

 

Mewn ymateb i’r sylwadau, derbyniwyd bod sefyllfa Morfa Nefyn a Nefyn yn anodd a bod angen cynnal trafodaethau gyda’r perchnogion tir i sicrhau rheolaeth mynediad i’r traeth. Nodwyd bod y Cyngor efallai wedi bod yn rhy awyddus yn y gorffennol i dderbyn cyfrifoldeb dros reolaeth y traethau, ond bellach yng nghyd-destun toriadau, amserol fyddai  cynnal trafodaethau gyda’r perchnogion tir ac amlygu iddynt y cyfrifoldeb a’r statws cyfreithiol sydd arnynt.

 

Petai Cyngor Tref Nefyn yn ildio eu prydles byddai eu cyfrifoldeb fel endid yn lleihau, a’r cyfrifoldeb yn disgyn ar Stad y Goron.

 

Amlygodd yr Uwch Reolwr y byddai yn cyfleu pryderon y Pwyllgor Craffu i Stad y Goron mewn cyfarfod ym mis Chwefror.

 

Amlygwyd y sylwadau canlynol am gynnwys yr adroddiad yn gyffredinol:

·                   Pryder am ddiogelwch y cyhoedd

·                   Angen rheolaeth dros fynediad peiriannau / cychod i’r traethau

·                   Y traethau yn un o brif asedau'r Sir ac felly rhaid eu gwarchod

·                   Baich y cyfrifoldeb ar y Cynghorau Cymuned

·                   Cyfrifoldeb moesol er nad yw yn statudol

·                   Beth yw cyfrifoldebau'r wardeniaid traeth

·                   A oes achubwyr bywyd yn cael eu cyflogi?

·                   Pwysig cynnwys gwirfoddolwyr mewn trefniadau gwarchod traethau

·                   Angen caniatáu i bobl leol gymryd rhan

·                   Beth yw dyfodol y Faner Las?

 

Mewn ymateb i’r sylwadau uchod pwysleisiodd yr Uwch Reolwr nad oedd y cynigion yn rai yr oedd yr Adran wedi  dymuno eu gweithredu, ond eu bod yn rhan o drefniadau Her Gwynedd. Eglurodd bod y sefyllfa yn un cymhleth iawn a bod y toriadau wedi eu  gweithredu o fewn amserlen dynn iawn a bod y ffactorau yn wahanol iawn i bob ardal. Mewn sefyllfaoedd lle nad oedd y trefniadau wedi eu cadarnhau, nodwyd bod rhai sefydliadau lleol yn dangos diddordeb ac felly posib ystyried modelau addas.

 

Mewn ymateb i sylw am ddyfodol y Faner Las, amlygwyd bod nifer o ffactorau allanol yn dylanwadu ar hyn megis ansawdd y dŵr sydd tu hwnt i reolaeth y Cyngor. Nodwyd bod gofynion cynyddol ar wneud cais ac nad oedd gwarant na sicrwydd o lwyddiant y ceisiadau o flwyddyn i flwyddyn. Amlygwyd bod ceisiadau yn cael eu cyflwyno yn y drefn arferol gyda’r gofynion cynyddol yn gwneud y sefyllfa yn anodd.

 

Cynigiwyd ac eiliwyd i dderbyn yr adroddiad fel adroddiad cychwynnol ac ail ymweld â’r sefyllfa wedi i’r toriadau eu gweithredu yn llawn

 

Cynigiwyd gwelliant i’r cynnig o dderbyn yr adroddiad cychwynnol, ond bod angen rhoi ystyriaeth bellach i draeth Morfa Nefyn a Nefyn

 

Cynigiwyd gwelliant pellach i’r cynnig o dderbyn yr adroddiad cychwynnol, ond bod pryder am draethau Morfa Nefyn a Nefyn. Gwnaed cais i’r Adran  drafod ar fyrder gyda’r Aelod Cabinet y  ffordd ymlaen cyn  y tymor gwyliau a chynnal adolygiad o’r traethau hyn.

 

PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad cychwynnol a cynigiwyd y sylwadau isod:

-       Bod pryder am draethau Morfa Nefyn a Nefyn

-       Cais i’r Aelod Cabinet drafod ar fyrder gyda’r Adran Economi, y sefyllfa unigryw yma cyn y tymor gwyliau

-       Derbyn adroddiad ar ddiwedd y tymor gwyliau o’r effeithiau yn llawn.

 

Dogfennau ategol: