Agenda item
- Cyfarfod Pwyllgor Gwasanaethau Democratiaeth, Dydd Mawrth, 29ain Tachwedd, 2016 10.30 y.b. (Item 4.)
Derbyn sylwadau’r Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd mewn ymateb i’r ymgynghoriad.
Cofnod:
Cyflwynwyd – sylwadau o’r cyfarfod
a fynychwyd gan Gadeirydd y Pwyllgor Hwn a’r Pennaeth Gwasanaethau
Democrataidd gydag aelodau’r Panel Annibynnol. Nodwyd fod cynnydd
bychan o 0.75% yn y cyflog sylfaenol i aelodau etholedig
yn cael ei
fwriadau ar gyfer y flwyddyn nesaf ar ôl
etholiadau’r Cyngor. Golyga hynny gynnydd o £100 y flwyddyn. Gofynnwyd i’r pwyllgor am eu sylwadau.
Adroddwyd mai pwrpas yr
ad-daliad costau gofal oedd galluogi
pobl o drawstoriad o gefndiroedd a sefyllfaoedd i fod yn
aelodau etholedig trwy eu galluogi
i fynychu cyfarfodydd. Nodwyd na fu unrhyw hawliad am ad-daliad o gostau gofal yn ddiweddar
gan fod cyhoeddusrwydd
negyddol wedi deillio o gyhoeddi hawlio’r ad-daliadau gofal.
O ran cofnodi’r rheswm pam fod aelod wedi
bod yn absennol o gyfarfod, nodwyd mai’r bwriad oedd
er mwyn hysbysu
eraill mai er mwyn cofnodi
methu mynychu gan fod aelod
yn rhywle arall ar fusnes
y Cyngor.
Sylwadau yn codi o’r
drafodaeth:-
·
Beth oedd ymateb cynghorau eraill? Mewn ymateb
nododd yr Uwch Reolwr Democratiaeth
a Chyflawni fod barn gymysg ymysg yn
gyffredinol, gydag ambell gyngor yn
gwrthod y cynnig
·
Y dylid derbyn y cynnydd o ran egwyddor, er mwyn
hybu ymgeiswyr o wahanol gefndiroedd i sefyll mewn
etholiad
·
Ei fod yn bwysig gochel
rhag gorfod rhannu manylion am ad-daliadau costau gofal trwy gais
rhyddid gwybodaeth. Mewn ymateb nododd
yr Uwch Reolwr
Cefnogaeth Gorfforaethol nad oedd
manylion am yr ad-daliadau yn wybodaeth
oedd yn dod
o dan yr ‘hawl i wybodaeth’.
Gan y byddai gwirio fod yr
arian wedi
ei rannu yn briodol yn
cael ei wirio
yn y ffordd arferol.
·
Dylid cofnodi pan fo aelodau
yn absennol oherwydd eu bod ar fusnes y Cyngor,
ac y dylai sefydliadau fod yn ymwybodol
o gyfarfodydd sy’n cael eu trefnu
gan sefydliadau eraill a’r galwadau
hynny ar amser aelodau.
·
Na ddylai’r Panel dderbyn gwahoddiad i siarad gyda’r
Cyngor Llawn. Mewn ymateb nododd
yr Uwch Reolwr
Cefnogaeth Gorfforaethol mai eisiau clywed
lleisiau gwahanol oedd y Panel, ond nad oedd
hynny o reidrwydd yn gorfod digwydd
yn y Cyngor Llawn.
PENDERFYNWYD:
a) cefnogi’r cynnig
i gynyddu y lwfans sylfaenol o £13,300 i £13,400
b) er mwyn hyrwyddo
mwy o aelodau cymwys i hawlio
y cymorth costau gofal, cefnogwyd y dylid cyhoeddi cyfanswm a ad-dalwyd
gan yr awdurdod
yn ystod y flwyddyn, ond heb
briodoli’r taliadau i unrhyw aelod,
a gofyn i’r Panel hefyd ystyried sut i sicrhau
na fyddai ceisiadau rhyddid gwybodaeth yn y dyfodol yn golygu
y byddai’n rhaid i awdurdodau ryddhau
gwybodaeth am hawlio ad-daliadau costau gofal fesul unigolyn.
c) cefnogi’r trefniadau
newydd arfaethedig ar gyfer absenoldeb
oherwydd salwch gan ddeilydd uwch
gyflog.
ch) cefnogi’r argymhelliad i nodi’r rheswm am absenoldeb lle bo hynny yn
sgil aelod yn cynrychioli’r Cyngor mewn cyfarfod
arall, tra’n nodi y byddai’n rhaid i aelodau
unigol ddarparu’r wybodaeth eu hunain.
d) gwahodd y Panel i gyfarfod â’r
Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd
yn y dyfodol a nid y Cyngor llawn
Dogfennau ategol: