Cais diwygiedig i C16/0314/08/LL ar gyfer codi 9 ty sy'n cynnwys 3 ty farchnad agored a 6 ty fforddiadwy ynghyd a gwaith draenio, gwaith tir a creu mynedfeydd.
AELOD LLEOL: Cynghorydd
Gareth Thomas
Cofnod:
Cadeiriwyd y drafodaeth ar y cais hwn gan
yr Is-gadeirydd.
Cais diwygiedig i C16/0314/08/LL ar gyfer codi 9 tŷ
sy'n cynnwys 3 tŷ farchnad agored a 6 tŷ fforddiadwy ynghyd â gwaith draenio, gwaith tir a chreu
mynedfeydd.
(a)
Ymhelaethodd y Rheolwr
Rheolaeth Datblygu ar gefndir y cais, gan nodi bod y 6 tŷ fforddiadwy ar dir sydd y tu
allan ond yn ymylu a’r
ffin datblygu tra bod y 3 tŷ marchnad agored yn bennaf o fewn
y ffin.
Nodwyd bod nifer o’r gwrthwynebiadau
a dderbyniwyd yn cyfeirio at bryderon yn ymwneud a’r
ffordd gyfagos ag effaith y datblygiad ar ddiogelwch y ffordd a symudiadau ar ei hyd. Cydnabyddir
fod y ffordd yn gul mewn
mannau ond o ystyried fod rhan
o’r safle wedi ei ddefnyddio
yn y gorffennol fel gwaith argraffu
masnachol ni ystyrir y byddai effaith ychwanegol annerbyniol yn deillio o’r bwriad.
Adroddwyd yn dilyn derbyn
sylwadau gan yr Uned Drafnidiaeth
y diwygiwyd y cais i ddarparu trefn
newydd i fynedfeydd y tai marchnad agored gan gynnwys
darparu troedffordd newydd ar hyd
blaen y safle a threfniant mewnol y stad. O ganlyniad, roedd yr Uned
Drafnidiaeth yn fodlon gyda’r hyn
a gynigir.
Derbyniwyd cadarnhad gan yr
Uned Strategol Tai bod y wybodaeth a gyflwynwyd yn gyson gyda’r
wybodaeth i law am yr angen lleol
am unedau fforddiadwy. Credir fod y cymysgedd
o dai a gynigir yn briodol ar
gyfer diwallu galw cyffredinol am dai fforddiadwy.
Nodwyd y byddai angen sicrhau
bod unedau a oedd yn diwallu gwahanol
ddeiliadaeth (h.y. tai marchnad agored a thai fforddiadwy) yn cael eu
datblygu ar y cyd ac nad oes
posibilrwydd mai dim ond y tai marchnad agored fydd yn
cael eu datblygu.
Yn yr achos
yma, roedd Cartrefi Cymunedol Gwynedd (CCG) yn bartneriaid yn y cynllun ac fel sydd yn
arferol mewn achosion ble nad
ydyw Cymdeithas Tai yn berchen y tir
neu’n ymgeisydd (pan yr ystyrir y cais),
mi fyddai angen llunio Cytundeb 106 safonol i sicrhau
fod y tai yn cael eu trosglwyddo
i’r Gymdeithas i sicrhau fod
yr unedau yn dod ar
gael i ddiwallu
angen lleol.
Tynnwyd sylw y derbyniwyd cadarnhad gan yr
Uned Bolisi Cynllunio ar y Cyd ynglŷn â chasgliadau’r asesiad ieithyddol a gyflwynwyd gan ddatgan: “Ar
y cyfan, ni chredir fod natur
na graddfa’r datblygiad arfaethedig yn debygol o gael
effaith andwyol ar yr iaith
Gymraeg. Mae’r cais yn golygu
bydd 6 o’r 9 tŷ arfaethedig yn rai fforddiadwy, fe ddylai ddiwallu
anghenion lleol ar gyfer tai a helpu cadw’r boblogaeth
bresennol yn y gymuned”.
Roedd
y datblygiad yn cydymffurfio gyda’r CDUG am y rhesymau a roddwyd
yn yr adroddiad.
(b)
Yn manteisio ar yr
hawl i siarad nododd asiant yr
ymgeisydd y prif bwyntiau canlynol:-
·
Ei fod yn ddatblygiad tai cymysg gyda 3 tŷ marchnad agored a 6 tŷ fforddiadwy ar gyfer CCG;
·
Bod y tai marchnad agored wedi eu
lleoli tu fewn i’r ffin
datblygu a’r tai fforddiadwy ar safle eithriedig wrth ymyl y ffin;
·
Bod prinder tai fforddiadwy yng Ngwynedd ac fe fyddai’r bwriad yn cynorthwyo’r Cyngor i gyrraedd
eu targedau o ran darparu tai fforddiadwy;
·
Nid yw darparu tir ar
gyfer tai fforddiadwy yn hawdd ac er
bod safleoedd posib eraill ym Mhenrhyndeudraeth
nid ydynt yn cael eu
rhyddhau neu eu cynnig ar
gyfer tai fforddiadwy;
·
Bod problem llifogydd ym Mhorthmadog yn golygu ni
ellir darparu tai yno ac felly mae Penrhyndeudraeth wedi ei glustnodi gan
y Cyngor ar gyfer tai ychwanegol yn y dyfodol;
·
Bod yr
angen am dai fforddiadwy wedi ei brofi ac fe
dderbyniwyd ymholiadau gan bobl leol
ar gyfer y tai marchnad agored;
·
Y byddai’n
gyfle i wella
edrychiad y safle hyll hwn;
·
Y gwneir
gwaith i ledu’r lôn.
(c) Gwrthwynebwyd y cais gan yr aelod
lleol (nad oedd yn
aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn) a gwnaed y prif bwyntiau canlynol ganddo:-
·
Bod or-ddatblygu
yn ardal safle’r cais;
·
Bod y tai marchnad agored yn
rhannol o fewn y ffin datblygu gyda 1 tŷ rhannol tu allan;
·
Ei bryder o ran mynediad gan
nad oedd lle i droi car yng nghwrtil y tai marchnad agored;
·
Bod y lôn yn gul, prysur ac yn
weledol gyfyng;
·
Y cyfeirir at greu mynedfa
newydd i’r tŷ presennol ond ni chyflwynwyd cynlluniau;
·
Bod y datganiad ieithyddol a
gyflwynwyd yn eithriadol o wan;
·
Pryder y caniateir i symud y
ffin datblygu ychydig ac effaith y tai ychwanegol o Borthmadog.
(ch) Mewn ymateb i sylwadau’r
aelod lleol, nododd yr Uwch Reolwr Gwasanaeth Cynllunio bod y gwrthwynebiadau yng nghyswllt effaith
ar fwynderau preswyl, y lon gul a phryderon trafnidiaeth ac fe ddylid ystyried cynnal ymweliad safle.
Mewn ymateb i
sylw gan aelod, nododd y Rheolwr Rheolaeth Datblygu bod 2 o’r tai marchnad agored yn gyfan gwbl
o fewn y ffin a bod y mwyafrif o’r tŷ
marchnad agored tu mewn i’r
ffin datblygu felly ystyrir ei fod
tu mewn i’r
ffin.
Nododd aelodau eu pryderon os
trosglwyddir y 6 tŷ fforddiadwy i gymdeithas
tai na fyddai polisi gosod y gymdeithas tai yn lleol i’r ardal
benodol. Mewn ymateb, nododd yr Uwch Gyfreithiwr
pan fod cymdeithas dai yn bartner
efo datblygwr bod y Cyngor yn ymgymryd
ac ymddiried yn y cymdeithasau y byddent yn gweithredu yn
unol â’u polisi gosod. Ychwanegwyd
y gellir gofyn i’r Uned Strategol
Tai am fwy o wybodaeth.
Cynigwyd ac eiliwyd i ohirio’r cais er mwyn cynnal ymweliad safle ac i
dderbyn mwy o wybodaeth am bolisi gosod CCG a chadarnhad gan yr Uned Strategol
Tai am yr angen.
Awgrymodd aelod y dylid ystyried rhoi amod gosod
lleol ar y tai fforddiadwy fel y rhoddwyd ar ganiatâd
stad Bryn Garmon, Abersoch lle'r oedd rhaid i
unrhyw denant fod yn byw
llai na chwe
milltir o’r safle.
Nododd aelod
y dylid ail-edrych ar y fynedfa.
PENDERFYNWYD gohirio’r cais.
Dogfennau ategol: