skip to main content

Agenda item

Adeiladu adeilad newydd i gynhyrchu hufen ia, siop/caffi hufen ia a chynyrch lleol, adnodd addysgiadol, newidiadau i fynedfa, gwaith allanol cysylltiedig a mynedfa amaethyddol newydd

 

AELOD LLEOL:        Cynghorydd Sian Wyn Hughes

 

Dolen i'r dogfennau cefndir perthnasol

 

 

 

 

Cofnod:

Adeiladu adeilad newydd i gynhyrchu hufen ia, siop/caffi hufen ia a chynnyrch lleol, adnodd addysgiadol, newidiadau i fynedfa, gwaith allanol cysylltiedig â mynedfa amaethyddol newydd.

 

(a)     Ymhelaethodd y Rheolwr Rheolaeth Datblygu ar gefndir y cais, gan nodi y gohiriwyd y cais yng nghyfarfod y Pwyllgor a gynhaliwyd ar 7 Tachwedd 2016 er mwyn cynnal ymweliad safle. ‘Roedd rhai o’r aelodau wedi ymweld â’r safle cyn y cyfarfod. 

 

         Tynnwyd sylw at y sylwadau ychwanegol a dderbyniwyd.

 

         Nodwyd ni ystyrir bod dymuniad yr ymgeisydd i leoli’r busnes ar dir o fewn ei berchnogaeth mewn cyrraedd hwylus i’r fferm, yn ddigon i gyfiawnhau’r lleoliad. Nid oedd y Cyngor wedi ei argyhoeddi fod gwir angen sefydlu busnes cymysg o’r fath ar safle’r cais heb anghenion lleoli arbennig nac amgylchiadau eithriadol i gyfiawnhau caniatáu’r cais yng nghefn gwlad. Ychwanegwyd nad oedd yn ymddangos bod unrhyw ystyriaeth wedi ei roi i geisio darganfod adeilad/safle tir brown addas o fewn ffin y pentref neu mewn safle gwahanol. Nodwyd nad yw’r bwriad i godi adeilad busnes cymysg o’r fath ar dir gwyrdd yn cydymffurfio ac egwyddorion lleoli busnesau polisïau C1, CH37, D5, D7, D8, D13 na D30 o Gynllun Datblygu Unedol Gwynedd (CDUG).

 

         Credir y byddai adeiladu adeilad newydd mewn lleoliad ynysig a datgymalog o’r fath yn cael effaith andwyol ar ffurf a chymeriad y pentref a’r dirwedd, oedd wedi ei ddynodi’n Ardal Gwarchod y Dirwedd.

 

         Nodwyd nad oedd y buddion o ran twf economaidd, mentrau gwledig a chyflogaeth yn gorbwyso’r niwed sy’n debygol o gael ei achosi i gymeriad y dirwedd ac edrychiad yr ardal, a’r angen i sicrhau bod y datblygiad newydd wedi ei leoli mewn lle cynaliadwy. Ystyrir bod y bwriad yn groes i bolisïau’r CDUG ac nad oedd dewis ond i argymell gwrthod y cais.

        

(b)     Yn manteisio ar yr hawl i siarad nododd yr ymgeisydd y prif bwyntiau canlynol:-

·         Bod y cais a sylwadau ychwanegol yr asiant yn dangos pa mor bwysig oedd y cais i’r busnes hufen ia a busnes fferm presennol;

·         Bod prisiau llaeth yn ansefydlog a bod y datblygiad yma er mwyn datblygu’r busnes hufen ia ymhellach ac i gadw’r fferm yn hyfyw;

·         Bod y bwriad yn creu swyddi o safon i bobl leol;

·         Deall bod pryder o ran lleoliad ond nid oedd yn bosib lleoli’r cais ar y fferm;

·         Y byddai ysgolion yn elwa o ddefnyddio’r adnodd addysgiadol;

·         Y byddai’n darparu adnodd o safon i dwristiaid yn ogystal ac i bobl leol;

·         Eu bod yn barod i weithio efo’r Gwasanaeth Cynllunio i wneud y bwriad yn dderbyniol gydag amodau perthnasol;

·         Eu bod efo gweledigaeth glir ac yn frwdfrydig;

·         Bod llwyddiant a dyfodol Glasu, swyddi presennol, swyddi newydd a’u bywoliaeth o’r fferm yn dibynnu ar y penderfyniad felly gofynnir i ganiatáu’r cais.

 

(c)     Cefnogwyd y cais gan yr aelod lleol (oedd yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn) a gwnaed y prif bwyntiau canlynol ganddi:-

·         Y byddai’r bwriad yn sicrhau dyfodol i’r fferm deuluol;

·         Y byddai adeilad pwrpasol yn galluogi cynhyrchu a storio mwy o gynnyrch hufen ia;

·         Dim lle o fewn ystâd ddiwydiannol Nefyn a ni fyddai ystâd o’r fath yn addas ar gyfer y fenter a oedd yn cynnwys adnodd addysgiadol a thwristiaeth;

·         Nid oedd yn bosib lleoli’r cais ar y fferm;

·         Nid yw'r safle yn ynysig - tai gerllaw i’r llecyn ac roedd yr ymgeisydd yn barod i negodi o ran y tirlunio;

·         Yr adnodd addysgiadol unigryw sydd ynghlwm a'r cais i’w groesawu;

·         Ni fyddai’r bwriad yn creu cystadleuaeth efo’r siop bentref;

·         Bod y cwmni yn cydweithio gyda chwmnïau bach, artisan drwy werthu eu cynnyrch yn lleol;

·         Nid oedd lleoliad ar gyfer y busnes ar gael o fewn ffin datblygu’r pentref;

·         Y gellir gosod amod na fyddai’r adeilad i’w drosi i dŷ yn y dyfodol;

·         Dim ond 3 gwrthwynebiad a dderbyniwyd gyda 2 lythyr o gefnogaeth ac roedd Cyngor Tref Nefyn yn gefnogol i’r bwriad;

·         Nid oedd yr Uned Drafnidiaeth yn gwrthwynebu’r cais;

·         Bod y fenter yn creu gwaith yn lleol.

 

(ch)   Nododd yr Uwch Reolwr Gwasanaeth Cynllunio bod y Cyngor yn cefnogi mentrau busnes os yw lleoliad y cais yn dderbyniol. Nodwyd bod lleoliad y cais tu allan i’r ffin datblygu ac nid oedd y Cyngor wedi ei argyhoeddi bod cyfiawnhad o ran anghenion lleoli arbennig yng nghefn gwlad. Amlygwyd bod gosodiad mewnol yr adeilad yn dangos bod yr elfen cynhyrchu yn is-wasanaethol a ni ellir amodi i glymu’r hyn a werthir yn y siop/caffi felly ni fyddai rheolaeth o ran defnydd yn yr hir dymor. Nododd ei fwriad pe byddai’r Pwyllgor yn penderfynu caniatáu’r cais, i gyfeirio’r mater i gyfnod cnoi cil.

 

          Nododd y Swyddog Rheolaeth Datblygu Trafnidiaeth bod y bwriad i wahodd ysgolion a cholegau i ymweld â’r busnes ynghyd â’r elfen siop/caffi yn golygu na fyddai 8 man parcio yn ddigonol ac fe fyddai angen ail-ystyried y ddarpariaeth parcio.

 

(d)     Cynigwyd ac eiliwyd i wrthod y cais.

 

          Yn ystod y drafodaeth ddilynol nodwyd y prif sylwadau canlynol:

 

·         Bod angen edrych ar y cais o safbwynt gwrthrychol, roedd mwy na hanner yr adeilad yn siop ac ni fyddai rheolaeth yn y dyfodol o ran beth a werthir;

·         Bod y cais wedi ei leoli o fewn Ardal Gwarchod y Tirlun;

·         Pe caniateir fe osodir cynsail;

·         Byddai’n haws cefnogi’r cais heb yr elfen manwerthu gan fod busnesau yn gallu bod yn fyrhoedlog a ni ellir gosod amod o ran defnydd i’r dyfodol;

·         Bod y bwriad yn groes i 8 polisi o’r CDUG ac nid oedd y ddarpariaeth parcio yn ddigonol;

·         Ei fod yn gynllun da ond roedd y lleoliad ddim yn gywir;

·         Bod pwynt gwerthu unigryw arbennig i’r lleoliad a bod yr adnodd addysgiadol i’w groesawu;

·         Bod cysylltiad 3 phase trydanol ar y safle;

·         Os caniateir y gellir gosod amod tirlunio i’w wneud yn llai amlwg yn y dirwedd;

·         Bod cyfle i gefnogi pobl cefn gwlad;

·         Bod y fenter yn enghraifft ardderchog o adnabod bwlch yn y farchnad a’i wneud i safon uchel;

·         Ei fod yn bwysig cefnogi’r teulu a oedd yn gweithio’n galed i wneud y fenter yn llwyddiant. Yn adnodd i’r gymuned mae’n perthyn iddi a bod llwyddiant busnes yn dibynnu ar gefnogaeth leol a phenderfyniad y Pwyllgor i gefnogi;

·         Bod nifer o siediau amaethyddol yn yr ardal felly ni fyddai’r adeilad yn anghyffredin yn y lleoliad;

·         Nid oedd lle ar ystâd ddiwydiannol nac ychwaith adeilad addas arall ar gyfer y busnes;

·         Y dylid cefnogi teulu lleol a oedd yn creu cyflogaeth leol.

 

(dd)    Pleidleisiwyd ar y cynnig i wrthod y cais, fe ddisgynnodd y cynnig.

 

          Gwnaed, ac eiliwyd cynnig i ganiatáu’r cais oherwydd nad oedd lleoliad arall addas ar gael a bod modd rhoi cryn bwysau ar y budd economaidd. 

 

          Pleidleisiwyd ar y cynnig i ganiatáu’r cais ac fe gariwyd.

 

          PENDERFYNWYD yn groes i argymhelliad y swyddogion i ganiatáu’r cais.

 

          Rhesymau:

          Dim lleoliad arall addas ar gael.

          Fod modd rhoi cryn bwysau i’r budd economaidd.

 

Nododd yr Uwch Reolwr Gwasanaeth Cynllunio ei fwriad, yn unol â Rheolau Gweithdrefn y pwyllgor hwn, i gyfeirio’r cais i gyfnod cnoi cil gan ddod ag adroddiad pellach gerbron y pwyllgor yn amlygu’r risgiau ynghlwm â chaniatáu’r cais.

 

Dogfennau ategol: