Ystyried adroddiad yr Arweinydd
(ynghlwm).
Cofnod:
Cyflwynodd yr Arweinydd adroddiad yn gofyn am:-
·
Gadarnhad ffurfiol am 2017/18 o’r penderfyniadau
blaenorol i beidio caniatáu disgownt i ail gartrefi a pheidio caniatáu disgownt
ar eiddo gwag.
·
Gadarnhad ffurfiol am 2018/19 i beidio caniatáu
disgownt i ail gartrefi a pheidio caniatáu disgownt ar eiddo gwag, ac yn gofyn
i’r Cyngor benderfynu os am godi Treth Cyngor ychwanegol ar yr eiddo yma.
Cyfeiriwyd at argymhellion y Cabinet i’r Cyngor (paragraff 7 o’r
adroddiad) oedd yn cynnwys argymhelliad i godi premiwm o 50% ar ail gartrefi ac
eiddo gwag ar gyfer blwyddyn ariannol 2018/19.
Cynigiwyd ac eiliwyd gwelliant i dderbyn argymhellion y Cabinet gyda
chymal ychwanegol yn nodi mai bwriad y Cyngor fydd defnyddio canran o’r arian a
dderbynnir o godi premiwm i ddarparu tai ar gyfer pobl ifanc yn ein cymunedau.
Yn ystod y
drafodaeth, mynegodd sawl aelod eu cefnogaeth i’r argymhellion, a nodwyd y
sylwadau a ganlyn:-
·
Pwysigrwydd uchafu’r incwm a dod â thai gweigion yn
ôl i ddefnydd.
·
Pryder bod y cyd-destun deddfwriaethol yn caniatáu i
bobl drosglwyddo tai preifat i fod yn unedau hunan-ddarpar sy’n talu treth
busnes a’r angen i blismona mwy a pharhau i lobïo Llywodraeth Cymru ar hynny.
·
Bod angen sicrhau nad yw’r Cyngor yn ysgwyddo’r gost
o gasglu gwastraff o eiddo sydd wedi trosglwyddo i fod yn dai busnes.
·
Bod y Cyngor hwn yn awyddus i gyfrannu at nod
Llywodraeth Cymru o greu 20,000 o dai fforddiadwy.
·
Na ddylid cosbi pobl sy’n berchen ar dai, ond yn
methu fforddio eu gwneud i fyny i’w gosod.
·
Bod yna 2000 o bobl ar y rhestr aros am dai yng
Ngwynedd a llawer mwy na hynny angen tŷ, ond ddim yn gweld diben mynd ar y
rhestr hyd yn oed.
·
Na chredid bod tystiolaeth i ddangos y byddai
cyflwyno premiwm yn cael effaith ar y diwydiant twristiaeth, a bod angen
atgyfnerthu’r neges gadarnhaol bod Gwynedd yn lle da ar gyfer ymwelwyr.
·
Os nad yw ymwelwyr yn dymuno talu’r dreth
ychwanegol, efallai y gallent ystyried aros mewn gwestai neu gefnogi busnesau
gwely a brecwast lleol.
·
Y gellid sefydlu cwmni hyd braich i brynu tai ar y
farchnad agored er mwyn eu gosod i bobl leol.
·
Y dylid mynd ati, drwy’r pwyllgor craffu perthnasol
a’r Aelodau Cabinet, i ffurfio grŵp i roi ystyriaeth dros y flwyddyn nesaf
i’r hyn y dymunir ei gyflawni a sut orau i wneud hynny, nid yn unig yn y maes
tai, ond yn y maes economi a gwasanaethau eraill hefyd.
·
Mai anghydbwysedd economaidd sydd wrth wraidd hyn i
gyd a bod gan y Cyngor bellach gyfle i ddefnyddio ei rym trethiant i wneud peth
iawn am y sefyllfa.
Nododd rhai
aelodau y byddent yn gefnogol i godi premiwm o 100% a galwyd hefyd am gyflwyno
deddfwriaeth sy’n gofyn am hawl cynllunio i droi tŷ yn dŷ haf.
Nododd aelodau
eraill bod perchnogion tai gwyliau yn cyfrannu i’r economi yn lleol a bod
ganddynt bryder y gallai codi unrhyw bremiwm ar ail gartrefi greu’r argraff nad
yw’r Cyngor yn croesawu ymwelwyr i’r sir.
Galwyd am bleidlais gofrestredig ar y gwelliant a
phleidleisiodd mwy na chwarter yr aelodau o blaid hynny.
Yn unol â’r Rheolau Gweithdrefn, cofnodwyd y bleidlais ganlynol ar y
gwelliant a nodir isod:-
O blaid y gwelliant: (45) Y Cynghorwyr:- Craig ab Iago, Annwen Daniels, Anwen Davies,
Lesley Day, Dyfed Edwards, Elwyn Edwards, Trevor Edwards, Thomas Ellis, Alan
Jones Evans, Aled Evans, Dylan Fernley, Simon Glyn, Gareth Wyn Griffith, Selwyn
Griffiths, Alwyn Gruffydd, Chris Hughes, John Brynmor Hughes, Jason Humphreys,
Aeron M.Jones, Anne Lloyd Jones, Charles W. Jones, Dyfrig Jones, Elin Walker
Jones, Eric Merfyn Jones, John Wynn Jones, Dilwyn Lloyd, Dafydd Meurig, Dilwyn
Morgan, Edgar Wyn Owen, Michael Sol Owen, W.Roy Owen, Gareth A.Roberts, John
Pughe Roberts, W. Gareth Roberts, Mair Rowlands, Gareth Thomas, Glyn Thomas,
Ioan Thomas, Hefin Underwood, Ann Williams, Eirwyn Williams, Elfed Williams,
Hefin Williams, John Wyn Williams ac Owain Williams.
Atal: (3) Y Cynghorwyr:- Eryl Jones-Williams, Beth Lawton a Dewi Owen.
Yn erbyn: (1) Y Cynghorydd Mike Stevens.
PENDERFYNWYD
(a) Ar gyfer Blwyddyn Ariannol 2017/18:-
(1) Bod Cyngor Gwynedd yn caniatáu DIM disgownt ar gyfer 2017/18 yn unol ag Adran 12 o
Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992 i’r ddau ddosbarth o ail gartrefi
(dosbarthau A a B) fel a ddiffinnir yn Rheoliadau Treth Cyngor (Dosbarthau
Rhagnodedig o Anheddau) (Cymru) 1998.
(2) Bod Cyngor Gwynedd yn caniatáu DIM disgownt yn 2017/18 yng nghyswllt
eiddo gwag (dosbarth C).
(b) Ar gyfer Blwyddyn Ariannol 2018/19:-
(3) Bod Cyngor
Gwynedd yn caniatáu DIM disgownt ar gyfer 2018/19 ar ail gartrefi dosbarth A,
yn unol ag Adran 12 o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992.
(4) Bod Cyngor
Gwynedd yn caniatáu DIM disgownt ac yn CODI PREMIWM O 50% ar ail gartrefi
dosbarth B ar gyfer 2018/19, yn unol ag Adran 12B o Ddeddf Cyllid Llywodraeth
Leol 1992.
(5) Bod Cyngor
Gwynedd yn caniatáu DIM disgownt ac yn CODI PREMIWM O 50% ar gartrefi sydd wedi
bod yn wag am 12 mis neu fwy ar gyfer 2018/19, yn unol ag Adran 12A o Ddeddf
Cyllid Llywodraeth Leol 1992.
(6) Mai bwriad y Cyngor fydd defnyddio canran o’r
arian a dderbynnir o godi premiwm i ddarparu tai ar gyfer pobl ifanc yn ein
cymunedau.
Dogfennau ategol: