Ystyried unrhyw gwestiynau y
rhoddwyd rhybudd priodol ohonynt o dan Adran 4.19 o’r Cyfansoddiad.
Cofnod:
(1) Cwestiwn gan y Cynghorydd Sion Jones
Gan fod y cwestiwn
gwreiddiol a dderbyniwyd gan yr aelod yn dyfynnu ffigurau anghywir o’r wasg,
gofynnodd y cwestiwn canlynol yn ei le:-
“Oes modd i’r
Aelod Cabinet ystyried strategaeth newydd gyda meysydd parcio yng Ngwynedd i’r dyfodol ac ystyried y busnesau sydd yma yng Ngwynedd, sy’n awyddus i weld cyflwyno parcio am ddim yn
ystod y dydd mewn ymgais i ddenu rhagor o fusnes?”
Ateb gan y Cynghorydd Dafydd Meurig, Aelod Cabinet
Cynllunio a Rheoleiddio
(Dosbarthwyd ateb
ysgrifenedig yr Aelod Cabinet i’r cwestiwn gwreiddiol i’r aelodau ymlaen llaw.)
“Yn amlwg, ‘rwyf
wedi cael cwestiwn gwahanol i’r cwestiwn a ofynnwyd gennych yn wreiddiol. Un peth am ffigurau anghywir yw lle mae
rhywun yn cael ffigurau anghywir mewn gwirionedd. Os ydi rhywun wedi eu cymryd o’r papur
newydd, yna mae neges yn y fan yna ynglŷn â pheidio credu pob dim ‘rydych
yn ei ddarllen yn y papurau newydd.
Mater o godi ffôn fyddai i wirio os ydi ffigurau yn gywir ai
peidio. Ond i ateb y cwestiwn oedd ar y
papur, ‘rydym wedi creu incwm o £390,000 o godi dirwyon parcio, sydd ddim yn
£1.4m. Wn i ddim os ydi’r aelod wedi
cael cyfle i ddarllen adroddiad Archwilydd Cyffredinol Cymru ar dreth a chynhyrchu
incwm mewn awdurdodau lleol gafodd ei gyhoeddi rhyw
3-4 wythnos yn ôl, ond mae’r Archwilydd yn canmol ac yn annog cynghorau i
feddwl yn strategol ynglŷn â sut maent yn codi arian ac mae’n rhywbeth
mae’r Adran Rheoleiddio wedi bod yn ei wneud ym maes meysydd parcio. O gymharu â gweddill Cymru, yn sicr nid ydym
ar y brig. Mae’r cyngor sy’n gwneud yr
incwm mwyaf o feysydd parcio yn codi rhywbeth fel £7m mewn blwyddyn o gymharu
ag £1.6m yma. Mae Cymru ar ei hôl hi yn
nhermau ffioedd meysydd parcio o gymharu â’r
Alban. Mae’r incwm parcio fesul mil o’r
boblogaeth yng Nghymru yn £17.31 o gymharu â’r Alban,
lle mae’n £19.22 ac yn Lloegr yn £39.65.
Felly, ni fyddwn yn cytuno ein bod wedi gor
godi ar ein hincwm ffioedd parcio.”
Cwestiwn atodol gan y Cynghorydd Sion Jones
“A fyddai’r Aelod
Cabinet yn ystyried cael grŵp llywio i edrych ar ba effaith fyddai’n gael
pe byddem yn cynnig parcio am ddim am awr neu ddwy bob diwrnod i hybu busnesau
yma yng Ngwynedd?”
Ateb gan y Cynghorydd Dafydd Meurig, Aelod Cabinet
Cynllunio a Rheoleiddio
“Ar bob
cyfri’. Mae ffioedd parcio yn fater
cyllidebol, sy’n fater i’r Cyngor llawn ac ‘rydym yn sôn am incwm o £1.6m. Yr unig le fedrwn ni wario hwnnw ydi ar
gynnal ein priffyrdd a phe byddem yn dod â’r ffioedd
parcio i lawr i ddim, byddai angen chwilio am yr £1.6m yna yn rhywle arall,
wrth reswm. ‘Rwy’n siŵr ein bod yn
cofio, ychydig o fisoedd yn ôl, i ni wneud penderfyniad yn y Cyngor yma
ynglŷn â’n blaenoriaethau ac fe gofiwch y rhestr
hir o doriadau oedd o’n blaenau, ac os edrychwch chi ar yr £1.6m yma, petaem ni’n codi dim byd o gwbl ar feysydd parcio, y nesaf ar y
rhestr, mi gredaf, oedd cau Neuadd Dwyfor.
Ac os ydym yn mynd i lawr y rhestr ymhellach, i £1.6m, mae yna o gwmpas
11-12 o lefydd lle byddai’n rhaid i ni dorri.
Rhif 59 oedd cau tair canolfan hamdden.
Rhif 65 oedd dileu pedair swydd gweithiwr cymdeithasol. Rhif 72 oedd cau Pont Abermaw. Rhif 76 oedd dileu’r llyfrgell deithiol. Rhif 78 oedd cau Pont yr Aber. Felly byddai’n rhaid i ni fynd cyn belled â hynny i chwilio am y bwlch o £1.6m. Mater i’r Cyngor fyddai hyn yn ei
drafodaethau cyllidebol, ond os oes yna ddarn o waith i’w wneud i edrych ar yr
effaith y byddai parcio di-dâl yn gael ar draws y sir, ni allaf weld unrhyw
wrthwynebiad i edrych i mewn i hynny.”
(2) Cwestiwn gan y Cynghorydd Elfed Williams
“Gyda Chlybiau Ieuenctid Gwynedd wedi cael gohiriad
o flwyddyn, ydi hi’n bosib’ gwneud
yr un peth gyda Llyfrgelloedd y Sir?”
Ateb gan y Cynghorydd Ioan Thomas, Aelod Cabinet
Tai, Gofal Cwsmer a Llyfrgelloedd, Amddifadedd a Chydraddoldeb
(Dosbarthwyd ateb
ysgrifenedig yr Aelod Cabinet i’r aelodau ymlaen llaw.)
“Mae’r adran
Economi a Chymuned yn gyfrifol am y Gwasanaeth Llyfrgelloedd a’r Gwasanaeth
Ieuenctid. Y Cynghorydd Mair Rowlands
sy’n gyfrifol am y Gwasanaeth Ieuenctid.
Mae’n deg dweud bod y ddau faes ar amserlen wahanol gyda goblygiadau
ariannol gwahanol. Mae’r darn cyntaf o’r
ateb ysgrifenedig yn sôn am lle ‘rydym arni gyda’r llyfrgelloedd, ac mae’r ail
ddarn yn sôn am lle ‘rydym arni gyda’r Gwasanaeth Ieuenctid. I grynhoi, nid oes unrhyw oblygiadau ariannol
i Gyngor Gwynedd o beidio newid patrwm y ddarpariaeth ieuenctid yn 2017. Ond byddai unrhyw oedi i raglen waith y
Gwasanaeth Llyfrgelloedd yn arwain at fwlch cyllidol ychwanegol fyddai’r Cyngor
yn gorfod ei ariannu. Ac ystyriwch y
rhestr ‘roedd y Cynghorydd Dafydd Meurig yn sôn amdani yn gynharach.”