Ystyried yr adroddiad
Cofnod:
Cyflwynwyd
adroddiad, i ennyn trafodaeth ar flaenoriaethau Strategaeth Partneriaeth Tai
Gwynedd 2013 – 2017. Nodwyd rôl y cymdeithasau tai i gyflawni’r blaenoriaethau
hyn ynghyd a sut bydd rhai materion yn cael eu cyfarch wrth adolygu'r
Strategaeth ar gyfer y cyfnod 2017 -
2021.
Amlygodd y Rheolwr
Strategol Tai bod Cymdeithasau Tai yn darparu mwy na chartrefi a bod yr
adroddiad yn cyfeirio at yr hyn sydd wedi ei gwblhau ynghyd a’r prif
lwyddiannau dros gyfnod y strategaeth. Ymddengys buddion ychwanegol megis
cyfleoedd gwaith a chyfleoedd i bobl
symud ymlaen yn y farchnad dai. Er hynny, eu prif bwyslais yw adeiladu
datblygiadau o’r newydd sydd yn cael eu hariannu drwy grantiau gan Lywodraeth
Cymru. Amlygwyd bod Llywodraeth Cymru
wedi gosod targed cyflenwad o 20,000 o unedau erbyn diwedd y Llywodraeth nesaf
sydd yn rhoi pwyslais a brys ar
Gynghorau a Chymdeithasau Tai i ymateb. Y Cyngor sydd yn penderfynu
blaenoriaethau strategol y datblygiadau hyn drwy gydweithio a chyfeirio’r Cymdeithasau Tai i ardaloedd lle targedir
ardaloedd gwahanol wedi eu rhannu yn ôl yr angen. Bydd y broses yn adnabod
darpar denantiaid drwy'r Polisi Gosod a’r Tîm
Opsiynau Tai. Cyfeiriwyd at Rôl y Wardeiniaid Ynni sydd yn dyngedfennol o ran
cyflwyno a hyrwyddo cynlluniau. Nodwyd bod nifer o Bartneriaid y Bartneriaeth
yn cyfrannu tuag ar y rôl yma - enghraifft o gynlluniau ynni yw ‘Nyth’ a
‘Cartrefi Clud’.
Ynghyd â
datblygiadau newydd, eglurwyd bod y Bartneriaeth yn canolbwyntio ar faterion
digartrefedd a’r Ddeddf Tai drwy
gydweithio gyda Chymdeithasau Tai a Thîm Cefnogi Pobl i ddarparu gwasanaethau i
drigolion mwyaf bregus ein cymdeithas. Nodwyd, wrth adolygu’r strategaeth y
bydd angen i’r partneriaid, fel darparwyr a hyrwyddwyr, fod yn ganolog i
sicrhau bod y berthynas yn parhau.
Yn
ystod y drafodaeth ddilynol, amlygwyd y sylwadau canlynol:
·
Bod rhai ardaloedd yn parhau i weld angen
·
Beth yw gweledigaeth y Cymdeithasau Tai?
·
Rhaid gwneud mwy i gadw pobl yn lleol - angen hyder
yn y drefn gosod
·
Pam adeiladu o’r newydd? - angen edrych ar y
sefyllfa o dai ar werth a thai gwag
·
Treth llofftydd gwag yn gost ychwanegol i’r tenant
·
Bod adeiladu o’r newydd yn gallu creu geto tu allan i gymunedau lle gwelir pobl yn symud o ganol
pentrefi i fyw ar y cyrion.
·
Angen cynlluniau sydd yn cynnwys mwy o fyngalos
·
Rhaid edrych yn fanwl ar y tymor hir o ran
addasrwydd tai - rhaid cael gweledigaeth tymor hir
Cydnabuwyd bod y
sefyllfa yn heriol gydag anawsterau a
thrafferthion sylweddol i wneud yr hyn sydd yn bosib gyda’r adnoddau sydd ar
gael. Amlygwyd bod y Strategaeth yn gadarn - y capasiti i weithredu ac ariannu'r cynlluniau sydd yn heriol
Mewn ymateb i'r
pryder am y drefn gosod, cydnabuwyd bod pwyslais wedi bod yn y gorffennol i
osod o fewn amserlen dynn, ond bellach bod cydnabyddiaeth i edrych ar gael y tenant cywir i’r lleoliad
cywir. Derbyniwyd yr awgrym i gysylltu gyda’r Aelod Lleol mewn ardaloedd lle
mae rhestri gwan neu sefyllfa, lle efallai, ceir rhybudd ymlaen llaw am dy
gwag. Nodwyd bod cynnal adolygiad i waith y Tîm Opsiynau Tai
(sydd wedi ei sefydlu ers 2012) yn cael ei gwblhau
Cartrefi Clud -
mewn ymateb i sylw amlygwyd bod gofynion y cynllun yn cyfyngu'r nifer o dai.
Adroddwyd bod pob cynllun yn wahanol gyda meini prawf gwahanol ac amserlen dynn
i gyflwyno cais. Mynegwyd pryder am ddiffyg adnodd o fewn yr uned a bod
cydweithio a chefnogaeth y Cymdeithasau Tai wedi bod yn fanteisiol i geisio gwybodaeth. Ategwyd, bod y canllawiau cenedlaethol
yn rhwystr ac awgrymwyd cysylltu gyda’r Cynulliad i adrodd nad oedd y drefn yn
arwain at gynllunio effeithiol.
Mewn ymateb i
sylw, ac awydd i adeiladu mwy o fyngalos ar gyfer pobl hŷn, amlygwyd bod y
Strategaeth Letya Pobl Hŷn yn edrych ar y
sefyllfa sy’n gyffredin ar draws
y Sir. Nodwyd bod y diwydiant adeiladu a datblygwyr yn ymddangos yn ystyfnig
gan nad yw adeiladu byngalo yn gost effeithiol. Nodwyd bod pedair ardal wedi ei
hadnabod o fewn y Strategaeth Letya Pobl Hŷn a bod angen gwneud gwaith i geisio datrysiadau a chynnal sgwrs am ddyheadau teuluoedd.
Adroddwyd bod Tai
Gofal Ychwanegol wedi rhyddhau 16 uned ar gyfer teuluoedd ym Mangor yn dilyn gwaith i hwyluso a helpu unigolion i symud.
Wedi cwblhau Hafod y Gest ym Mhorthmadog, bydd angen
edrych ar yr opsiynau nesaf gan ystyried modelau gwahanol ar gyfer cymunedau
llai sydd yn cynnig yr un cyfleoedd i bobl hŷn.
Penderfynwyd derbyn yr adroddiad gan groesawu'r cyfle i gynnal trafodaeth
gychwynnol ynglŷn â chyfeiriad y Strategaeth a chynnig y sylwadau isod:
-
Fforddiadwyedd - pwysleisio bod
angen ymateb i’r argyfwng fforddiadwyedd tai - i’r
Bartneriaeth edrych ar ddulliau a ffyrdd gwahanol o wneud gwahaniaeth ac ymateb i’r her drwy sicrhau tai
fforddiadwy i bobl leol
-
Ceisio addasrwydd
stoc tai i sicrhau balans
o ran y ddarpariaeth
-
Adnabod cyfleoedd, o leiaf mewn ardaloedd lle mae
rhestri gwan, i gysylltu gyda’r Aelod Lleol i drafod y sefyllfa ynghyd â
theilwra dulliau marchnata
-
Ystyried y posibiliadau i brynu tai sydd ar werth
neu yn wag yn ogystal ac adeiladu o’r newydd er mwyn osgoi'r posibilrwydd o
greu cymunedau an-hyfyw. Awgrym i drafod newid y
pwyslais ac addasu'r trefniant sybsidi yn y tymor hir
gyda Llywodraeth Cymru
-
Gan y bydd y
Cyngor Llawn yn ystyried gweithredu Premiwm Ail Dai / Tai Gwag bod posib o ddenu
incwm i’w glustnodi ar gyfer tai cymdeithasol, fforddiadwy – bydd angen i’r
Bartneriaeth gynnal deialog o benderfyniad y Cyngor ar sut i weithredu hyn.
Dogfennau ategol: