Estyniad i adeilad
hamdden er mwyn ymestyn spa presennol gan gynnwys ystafelloedd triniaeth,
pyllau, lle bwyta ac ystafelloedd newid
AELOD LLEOL: Cynghorydd
R H Wyn Williams
Cofnod:
Estyniad i adeilad hamdden er mwyn ymestyn spa presennol gan gynnwys ystafelloedd triniaeth, pyllau,
lle bwyta ac ystafelloedd newid
(a)
Ymhelaethodd y Rheolwr
Rheolaeth Datblygu ar gefndir y cais gan
nodi mai cais llawn ydoedd ar gyfer adeiladu estyniad i adeilad hamdden er mwyn
ymestyn cyfleusterau spa presennol i ddarparu
ystafelloedd triniaeth, pyllau, lle bwyta ac ystafelloedd newid. Byddai’r
estyniad wedi ei leoli ar dalcen de gorllewinol yr adeilad presennol gyda rhan
to fflat yn y canol yn cysylltu i’r adeilad presennol a rhan to ‘hip’ llechi ar
y talcen.
Amlygwyd mai'r bwriad oedd ail-fuddsoddi a gwella ansawdd ac amrediad cyfleusterau o fewn
y gyrchfan i alluogi mwy o ddefnydd o’r cyfleuster tu allan i’r cyfnod gwyliau. Yng nghyd-destun mwynderau
gweledol, cydnabuwyd bod maint a graddfa'r arwynebedd llawr (oddeutu 771m²) yn
sylweddol, fodd bynnag ystyriwyd bod y maint yn gymesur a chyfleusterau hamdden
presennol y safle ac na fyddai’n or-ddatblygiad.
Gan mai golygfeydd lleol yn unig fydd o’r adeilad, oherwydd ei osodiad yn y
tirlun, ni ystyriwyd y byddai’r bwriad yn cael effaith ar y dirwedd a'r
golygfeydd. Er bod y bwriad wedi ei leoli o fewn Ardal o Harddwch
Naturiol Eithriadol ni ystyriwyd y byddai’r datblygiad yn achosi niwed
arwyddocaol i’r dirwedd a’r arfordir nac yn groes i ofynion polisi B8 CDUG. Er gwaethaf maint yr adeiladau
presennol, mae natur eu lleoliad o fewn tirffurf powlen ynghyd a’r tirlunio
presennol yn golygu nad yw’r adeiladau yn sefyll allan yn y tirlun ac ni
ystyriwyd y byddai’r estyniad yn amlwg ychwaith.
Ystyriwyd bod y bwriad, yn erbyn y polisïau a restrwyd yn yr adroddiad yn dderbyniol o agwedd polisïau ac felly yn
dderbyniol i’w ganiatáu gydag amodau
(b)
Yn manteisio ar ei hawl
i siarad, nododd Asiant ar
ran yr ymgeisydd y sylwadau canlynol:
·
Bod y datblygiad yn gam pellach o uwchraddio a buddsoddi ar y safle
·
Bod y cynllun yn cynnig
gwelliannau i’r parc ac i'r amgylchedd
·
Bwriad yw annog cyfnodau
gwyliau byr tu allan i’r prif dymor gwyliau
·
Ymgynghori a chydweithio da
wedi bod gyda’r swyddogion cynllunio
·
Nad oedd y cynllun yn creu effaith
ar y tirlun
·
Bydd y gwaith o uwchraddio yn sicrhau 17 swydd newydd – 5 llawn amser a 12 rhan amser
·
Os caniatáu, y gwaith i
ddechrau mor fuan â phosib - bwriad agor Haf 2017
·
Dim gwrthwynebiadau wedi eu derbyn
(c)
Gwnaed y prif bwyntiau canlynol gan yr aelod lleol (nad
oedd yn aelod
o’r Pwyllgor Cynllunio hwn):
·
Ei fod yn gefnogol i’r cais
oherwydd darpariaeth lleoliad
·
Croesawu sylwadau'r Uned ANHE
·
Ddiolchgar i swyddogion am
gydweithio gyda'r datblygwr
·
Adnodd ardderchog i’r ardal –
codi ansawdd
·
Trafodaethau cychwynnol am
gysylltiad lleol gyda’r ddarpariaeth yma o ran defnydd o’r adnodd yn ystod y
gaeaf
(ch) Cynigwyd
ac eiliwyd i ganiatáu y cais
(d)
Yn ystod y drafodaeth ddilynol nodwyd y sylwadau canlynol:
·
Awgrymu dwyn pwys ar yr ANHE i
neilltuo Abersoch allan o’r ANHE er mwyn i ddatblygiadau fel hyn gael rhwydd
hynt
·
Bod y safle tu allan i’r ffin
datblygu - os cais am dŷ byddai yn cael ei wrthod, ond gan ei fod ar gyfer
y diwydiant hamdden, y cais yn cael ei ganiatáu - tynnu sylw at yr angen i sicrhau cysondeb a
thegwch i bawb
·
Wrth ystyried effaith gweledol
rhaid sicrhau bod y sylwadau a gyflwyni’r mewn adroddiadau yn gyson a theg
PENDERFYNWYD caniatáu y cais
Amodau
1. 5 mlynedd
2. Unol
a’r Cynlluniau a chynllun tirlunio
3. Llechi
4. Gorffeniad
5. Plannu
yn y tymor plannu nesaf ar
ôl cwblhau’r datblygiad
6. Amod Dwr Cymru i gyflwyno Cynllun Draenio
Dogfennau ategol: