Adeiladu adeilad
newydd i gynhyrchu hufen ia, siop/caffi hufen ia a chynnyrch lleol, adnodd
addysgiadol, newidiadau i fynedfa, gwaith allanol cysylltiedig a mynedfa
amaethyddol newydd
AELOD LLEOL: Cynghorydd Sian Wyn Hughes
Cofnod:
Adeiladu adeilad newydd i gynhyrchu hufen ia, siop/caffi hufen ia a
chynnyrch lleol, adnodd addysgiadol, newidiadau i fynedfa, gwaith allanol
cysylltiedig â mynedfa amaethyddol newydd
(a) Ymhelaethodd y Rheolwr Rheolaeth Datblygu ar gefndir y cais, gan nodi ei
fod yn gais llawn ar gyfer adeiladu adeilad newydd i gynhyrchu hufen ia
fyddai’n cynnwys siop/caffi ac adnodd addysgiadol. Fel rhan o’r cais bydd angen
gwneud newidiadau i’r fynedfa a thynnu clawdd ffin a gwaith allanol
cysylltiedig yn ogystal â chreu mynedfa amaethyddol newydd i’r cae. Byddai’r
adeilad unllawr yn mesur oddeutu 325m² gyda
gorffeniad bocs proffil lliw llwyd i ymdebygu sied amaethyddol. Byddai’r
defnydd arfaethedig yn ddefnydd cymysg manwerthu, bwyd a diwydiant ysgafn.
Nodwyd bod yr eiddo wedi ei leoli ar gyrion pentref Edern, gyfochrog a’r
ffordd sirol dosbarth 2 ac o fewn y parth 30 milltir yr awr. Eisteddai’r safle
tu allan i ffin datblygu pentref Edern ac o fewn Ardal Gwarchod y Tirlun sef pellter o ddau gae i ffwrdd - caiff
y safle ei ystyried yn safle cefn gwlad. Amlygwyd bod y cais yn ail gyflwyniad
o gais a wrthodwyd yn ddirprwyedig yn 2015 (rhif C15/0409/42/LL) ar gyfer yr un
bwriad. Yr unig newid o ran y cynlluniau yw bod mwy o dirlunio wedi ei ddangos
ar y terfynau.
Adroddwyd bod yr ymgeisydd yn ffermwr llaeth ar fferm Bryn Rhydd, sy’n
fferm ystâd Cefn Amwlch, sydd gerllaw safle’r cais
a'i fod wedi ehangu ei fenter i sefydlu busnes cynhyrchu Hufen Ia ‘Glasu’ gan
ddefnyddio cynnyrch ei fferm. Y bwriad oedd codi adeilad pwrpasol i gynhyrchu’r
hufen ia o fewn cyrraedd hwylus i’r fferm a hynny ar dir o fewn perchnogaeth yr
ymgeisydd ac nid ar dir yr ystâd.
Disgrifiwyd golygfeydd agored a di-rwystr dros y caeau i gyfeiriad arfordir
yr AHNE ac ystyriwyd y byddai’r bwriad yn sefyll allan fel nodwedd weledol
anghyffredin yn y lleoliad hwn. Byddai’r gosodiad arfaethedig yn anghyson ac yn
ffurfio perthynas ar wahân Yn ychwanegol, amlygwyd bod y safle wedi ei leoli ar
ei ben ei hun ac oddeutu 850m i ffwrdd o adeiladau’r fferm bresennol, a thros
200m i ffwrdd o’r adeilad agosaf ar yr un ochr i’r ffordd a safle’r cais. Yn yr
achos yma, nodwyd nad oedd lleoliad tai presennol gyferbyn a’r ffordd yma yn
ddigonol i leddfu edrychiad gweledol y bwriad ac fe ystyriwyd fod y ffordd sy’n
arwain drwy’r pentref yn creu ffin ffisegol bendant
rhwng y tai a safle’r cais. Derbyniwyd 3 gwrthwynebiad i’r cais yn datgan
pryder am y bwriad ar sail pryderon am ddiogelwch ffyrdd a pharcio. Ystyriwyd y
byddai gweithgarwch busnes o’r safle yn debygol o beri aflonyddwch i’r
preswylwyr cyfagos.
Nodwyd nad oedd yr ymgeisydd wedi cyflwyno tystiolaeth ddigonol i ddangos
bod ystyriaeth ddigonol wedi ei roi i safleoedd eraill, nac asesiadau o unedau
na safleoedd presennol y gellid eu defnyddio yn yr ardal. Er bod polisïau a
gynhwysir o fewn y CDUG yn gyffredinol yn cefnogi ceisiadau ar gyfer busnesau
bach cefn gwlad; mae’n ofynnol bod unrhyw gynnig yn cydymffurfio gyda meini
prawf polisïau penodol, er mwyn sicrhau fod y safleoedd a gynhigir yn gwbl
addas cyn y gellid eu caniatáu.
Mynegwyd mai sail yr argymhelliad i wrthod y cais oedd lleoliad anaddas o
fewn cefn gwlad a'i effaith weledol.
Eglurwyd bod polisïau’r CDUG yn sicrhau y dylai datblygu busnesau o fewn cefn
gwlad fod yn atodol i ddefnydd presennol ac ar safleoedd sydd eisoes wedi eu
datblygu ac sydd yn agos iawn i adeiladau presennol, er mwyn sicrhau gwarchod
cefn gwlad agored. Ystyriwyd felly bod y cynnig yn groes i bolisïau’r CDUG ac
felly nad oedd dewis ond argymell gwrthod
y cais.
(b) Yn manteisio ar yr hawl i siarad
nododd yr Aelod Lleol (a oedd yn aelod
o’r Pwyllgor Cynllunio hwn) ei bod yn
gefnogol i’r cais am y rhesymau canlynol:
·
Bod yr ymgeisydd wedi llwyddo
mewn busnes o wneud hufen ia a bellach eisiau ehangu ei fenter
·
Bod maint y cyfarpar presennol
yn annigonol ar gyfer y busnes o ddarparu Hufen Ia ar gyfer busnesau lleol
·
Bod gan y busnes siop
lwyddiannus ym Mhwllheli
·
Bod y fenter yn creu gwaith yn
lleol
·
Yn adnodd pwysig i Edern a
Gogledd Llŷn sydd yn cael ei chydnabod fel ardal ddifreintiedig
·
Yr adnodd addysgiadol sydd
ynghlwm a'r cais i’w groesawu
·
Y cwmni yn cydweithio gyda
chwmnïau bach, artisan drwy werthu eu cynnyrch yn
lleol
·
Gwagle yn y farchnad o’r math
yma yn Llŷn – lleihau ‘food miles’
·
Defnyddio llefrith y fferm
a llefrith arbennig Llaethdy Llŷn
gerllaw
·
Croesawu nad oedd gan yr Adran
Trafnidiaeth wrthwynebiad
·
Bod yr ymgeisydd yn berchen ar
y tir (ond nid yn berchen ar dir y safle presennol) ac felly yn gyfyngedig i ddefnyddio tir ac
adeiladau Ystâd Cefn Amwlch
·
Nid yw'r safle yn ynysig - tai
gerllaw i’r llecyn ac ni fyddai yn creu effaith weledol ar y tai oherwydd tirlunio a chloddiau uchel presennol
·
Os yn llwyddiannus, yr
ymgeisydd yn barod i gydweithio gyda swyddogion cynllunio
·
Rhan fwyaf o drigolion cyfagos
yn ystyried y fenter yn un cyffrous fydd yn dod a bywyd yn ôl i’r pentref
·
Ffin datblygu Edern wedi ei
gynyddu i godi tŷ annedd gerllaw y cais. Ni fyddai'r safle yn edrych allan
o le
·
Adeilad newydd yn gweddu'r
tirlun
·
Dim lle o fewn ystad busnes leol
·
Ni fuasai yn amharu dim ar siop
y pentref - perchennog y siop yn gefnogol i’r fenter ac eisoes yn gwerthu Hufen
Ia Glasu
·
Oriau agor yn rhesymol
·
Argymell ystyried caniatáu y
cais a chefnogi mentrau bach cefn gwlad
(c) Pwysleisiodd Uwch Reolwr Cynllunio ac Amgylchedd bod yr Adran Cynllunio yn
cydnabod gwaith a llwyddiant y busnes lleol yma a'u bod yn gwbl gefnogol i'r
math yma o ddatblygiad. Yng nghyd-destun ystyriaethau cynlluniau, eglurwyd bod
y cais dan sylw yn groes i bolisïau sylfaenol oherwydd y lleoliad sydd yn cael
ei gynnig, ac o ganlyniad, bod yr argymhelliad i wrthod yn un cadarn.
Awgrymwyd, gan mai materion lleoliad oedd y brif ystyriaeth, trefnu ymweliad
safle cyn gwneud penderfyniad
(ch) Cynigwyd ac eiliwyd i gynnal ymweliad safle.
(d) Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn â diffyg gwybodaeth am y
rhesymau cefnogi yn dilyn o’r cyfnod ymgynghori, amlygodd y Rheolwr Rheolaeth
Datblygu mai ‘cefnogi’ yn unig oedd y sylw ac nad oedd gwybodaeth a rhesymau
dros y gefnogaeth wedi eu cynnig.
PENDERFYNWYD cynnal ymweliad safle
Dogfennau ategol: