skip to main content

Agenda item

Cais i drosi cyfleusterau cyheddous di-ddefnydd i dy annedd, i gynnwys  codi uchder y to presennol a newidiadau allanol.

 

AELOD LLEOL:   Cynghorydd Gethin Glyn Williams

 

Dolen i'r dogfennau cefndir perthnasol

 

 

 

Cofnod:

Cais i drosi cyfleusterau cyhoeddus diddefnydd i dy annedd, i gynnwys codi uchder y to presennol a newidiadau allanol.

 

(a)  Ymhelaethodd y Swyddog Rheolaeth Datblygu ar gefndir y cais gan nodi’r bwriad i drosi cyn cyfleusterau cyhoeddus diddefnydd i dy annedd wedi ei leoli ynghanol tref arfordirol Abermaw gyda’r ysgol gynradd i’r dwyrain o’r safle.  Saif cae chwarae’r ysgol ar derfyn cefn a gogleddol safle’r cais.  Ceir palmant a ffordd sirol ddi-ddosbarth i orllewin y safle gyda’r promenâd a thraeth ar draws y ffordd.  Defnyddiwyd yr adeilad fel toiledau cyhoeddus cyn eu cau yn 1997 a’u gwerthu gan y Cyngor yng Ngorffennaf 2015.  Ceir cymysgedd o ddefnyddiau tir yn lleol sydd yn cynnwys tai preswyl, gwestai a’r ysgol gynradd.  Nodwyd bod y safle o fewn ffin datblygu tref Abermaw ac o fewn Tirwedd o Ddiddordeb Hanesyddol Eithriadol Mawddach.  Derbyniwyd sawl ymateb i’r ymgynghoriad gyda’r cynnig yn bodloni gofynion trafnidiaeth, Dwr Cymru a Chyfoeth Naturiol Cymru. Fe godwyd nifer o wrthwynebiadau gan y cyhoedd gan gynnwys ystyriaethau megis agosatrwydd yr adeilad at gae chwarae’r ysgol, diffyg tir mwynderol o amgylch yr adeilad, bod yr adeilad yn anaddas i’w drosi a bod safon y dyluniad yn annerbyniol ynghyd a materion eraill a’u trafodir yn yr adroddiad. ‘Roedd hefyd gohebiaeth yn croesawu’r datblygiad fel gwelliant i gyflwr blêr presennol y safle.

 

O safbwynt y penderfyniad cynllunio, nodwyd pwysigrwydd i gofio bod y bwriad yn ymwneud a throsi adeilad presennol i annedd o fewn ffin ddatblygu Canolfan Leol fel y’i diffinnir gan y Cynllun Datblygu Unedol. Tynnwyd sylw at bolisi CH11 o’r Cynllun sy’n ymwneud yn benodol a chynigion i drosi adeiladau o fewn ffiniau datblygu ar gyfer defnydd preswyl.  Rhoddwyd ystyriaeth i feini prawf y polisi hwnnw yn yr adroddiad ac fe gredir bod y cynnig yn cwrdd â phob un o’r meini prawf hynny. Nodwyd bod polisi C4 hefyd yn gefnogol i addasu adeiladau gweigion at ddefnyddiau priodol newydd.

 

O safbwynt mwynderol, mae’r safle’n sefyll ar ben ei hun,  ac o bellter digonol oddi wrth unrhyw eiddo preswyl eraill i beidio â chael effaith uniongyrchol arnynt. Ystyrir yn ogystal y byddai adfer ac ail ddefnyddio’r adeilad yn cynnig y cyfle i’w dacluso a’i atal rhag dirywio ymhellach a thrwy hynny fe ellir gwarchod a gwella ansawdd a chyflwr y safle ac amddiffyn mwynderau gweledol yr ardal yn gyffredinol.

Nodwyd bod hwn yn gais i ail-ddatblygu adeilad sydd o fewn ffin ddatblygu at ddefnydd sy’n briodol ar gyfer y lleoliad ac felly argymhellwyd i gymeradwyo’r cais gydag amodau fel y rhestrir yn yr adroddiad.

 

(b)   Yn manteisio ar yr hawl i siarad, nododd y gwrthwynebydd ar ran corff llywodraethol a rhieni Ysgol y Traeth eu bod yn gwrthwynebu’r cais yn seiliedig ar:

 

1.    Mwynderau - byddai newid yr adeilad yn amharu ar fwynderau plant i chwarae gan fod cefn yr adeilad yn ffinio hefo maes chwarae’r Ysgol

2.    Dyluniadnad oedd y cynnig yn parchu’r ardal o ran ei raddfa gan y byddai’n uwch na’r adeilad presennol ac allan o gymeriad

3.    Deunyddiaunad yw’r cynnig yn gwarchod cymeriad gweledol yr ardal gan bo’r ymgeisydd yn defnyddio dur ac nid llechi gleision ar y to o ystyried bod yr Ysgol, gwesty a thai cyfagos hefo toeau llechi o ansawdd uchel

4.    Ail-gartrefi – bod y cais yn arwain at gynnydd yn y nifer o ail-gartrefi mewn cymuned lle maent eisoes yn ffurfio cyfran uchel o’r stoc dai

5.    Risg o Lifogydd – bod Cyfoeth Naturiol Cymru wedi dynodi’r ardal yn fregus uchel o ran llifogydd a chyfeiriwyd at yr effaith difrifol o lifogydd 2014 yn ardal Abermaw

             

(c)  Yn manteisio ar yr hawl i siarad, nododd yr ymgeisydd y prif bwyntiau canlynol:

 

·         Bod cynnwys llythyr ei Phensaer yn lliniaru mwyafrif o’r pryderon

·         Ei bod yn gweithio dros Gymru gyfan a’r prif fwriad ydoedd prynu’r eiddo iddi fyw ynddo ac nad oedd bwriad i wneud elw ohono

·         Ei bod wedi cynnal trafodaethau helaeth gyda’r Adran Gynllunio wrth ddatblygu’r cynlluniau er mwyn sicrhau bod yr holl faterion cynllunio wedi derbyn sylw llawn

·         Bod y deunyddiau i’w defnyddio ar yr adeilad wedi eu hawgrymu gan yr Adran Gynllunio, fel rhan o’r broses gynllunio

·         Ei bod wedi cysylltu gyda Phennaeth Ysgol y Traeth ac yn barod i barhau gydag unrhyw drafodaethau pellach

·         Ei bod wedi ymrwymo i brynu trwydded parcio fel rhan o Gynllun Parcio’r Cyngor er mwyn sicrhau unrhyw bryderon parcio 

·         Ei bod yn ymwybodol bod yr eiddo yn cefnu ar gaeau chwarae, fel roedd y Cyngor ar adeg gwerthu’r eiddo a dyna pam nodwyd gan y Cyngor nad oedd modd rhoi ffenestri mwy o faint yng nghefn yr eiddo, a’i bod wedi ffocysu’r dyluniad i gydweddu gyda’r ardal leol

·         Ni dderbyniwyd gwrthwynebiad gan y Cyngor Tref na Chyfoeth Naturiol Cymru mewn perthynas â llifogydd ond fe wnaed newidiadau bychan i’r dyluniad drwy godi lefel y llawr

·         Tra’n cydnabod bod yr adeilad yn fach roedd yn ddigon o faint ar gyfer ty un llofft

·         Dymunir trawsnewid adeilad diddefnydd ac yn ddolur llygaid yn dy annedd rhag iddo fynd i gyflwr gwaeth a dirywiad pellach

·         Ei bod yn fwy na bodlon cwrdd â thrigolion lleol i sicrhau bod pawb yn hapus gyda’r gwaith adeiladu a’i bod  yn dymuno bod yn rhan o’r gymuned 

        

(ch)    Mewn ymateb i bryderon amlygwyd gan y gwrthwynebydd, nododd y Rheolwr Rheolaeth Datblygu eu bod wedi derbyn ystyriaeth lawn ac wedi eu nodi yng nghynnwys yr adroddiad.  Nodwyd ymhellach bod y bwriad arfaethedig yn gwneud defnydd da o’r adeilad. 

 

(d)          Cynigwyd ac eilwyd i ganiatáu’r cais.

 

  (dd)        Mewn ymateb i sylwadau wnaed gan Aelodau unigol, nododd y Rheolwr Rheolaeth Datblygu:

 

·         O safbwynt pryder ynglyn a llifogydd, bod lefel llawr yr eiddo i fod o faint penodol ac y byddai hyn yn destun amod priodol. Nid oedd gwrthwynebiad gan Cyfoeth Naturiol Cymru.

·         Na fyddai’r adeilad yn gallu dygymod gyda tho llechi a’r bwriad ydoedd ei gadw mor debyg i’r hyn sydd ar yr eiddo’n barod

 

            Penderfynwyd:                      Caniatáu yn unol a’r amodau canlynol:

 

1.            Cychwyn y datblygiad o fewn 5 mlynedd o ddyddiad caniatáu

2 .           Unol a chynlluniau a gyflwynwyd;

3 .           Deunyddiau i’w cytuno yn ysgrifenedig cyn cychwyn datblygu;

4.            Lefel llawr gorffenedig y datblygiad ddim is na 6.53 Uwchlaw

               Seilnod Ordnans;

5.                        Dim ffenestri ar edrychiad cefn/gorllewinol yr adeilad, a dim i’w gosod yn y drychiad hwn yn y dyfodol;

6 .           Dim cynnydd net o ddŵr wyneb i gael ei waredu i’r garthffos

               gyhoeddus

7 .           Tynnu hawliau datblygu caniataol

 

 

Dogfennau ategol: