Agenda item

Cais diwygiedig - adeiladu pwll nofio awyr agored, ystafell beiriannau i'r pwll nofio ynghyd a strwythyr cegin haf yn cynnwys popty pizza a bbq gyda echdynnydd mecanyddol, terasau, thirlunio a ffens derfyn

 

AELOD LLEOL:        Cynghorydd R H Wyn Williams

 

Dolen i’r dogfennau cefndir perthnasol

 

Cofnod:

Cais diwygiedig - adeiladu pwll nofio awyr agored, ystafell beiriannau i’r pwll nofio ynghyd a strwythur cegin haf yn cynnwys popty Pizza a bbq gydag echdynnydd mecanyddol, terasau, thirlunio a ffens derfyn.

 

(a)              Ymhelaethodd y Rheolwr Rheolaeth Datblygu ar gefndir y cais gan nodi bod cais blaenorol wedi ei wrthod a chyflwynwyd cais diwygiedig ar gyfer adeiladu pwll nofio awyr agored, ystafell beiriannau i’r pwll nofio, pwmp gwres ynghyd a strwythur cegin haf yn cynnwys popty “pizza a bbq” a gwaith tirlunio yng nghefn yr ardd.  Nodwyd bod y safle ar lain cornel gyda thai preswyl cyfagos a’i fod o fewn ffin ddatblygu Abersoch.

 

Tynnwyd sylw at y ffurflen sylwadau hwyr yn nodi bod cynllun diwygiedig wedi ei dderbyn sy’n dangos gwelliannau priffyrdd i gornel Lon Engan na chyflwynwyd gyda’r cais yn wreiddiol mewn ymgais i wella gwelededd y ffordd ar gyfer holl ddefnyddwyr y ffordd ac nid yn unig yr eiddo hwn. Nodwyd bod yr ymatebion i’r ymgynghoriad wedi eu nodi yn yr adroddiad a thynnwyd sylw penodol at y gwrthwynebiadau sydd wedi eu derbyn.

 

Nodwyd bod y gardd yn eithaf helaeth ac ystyrir bod maint yr adeilad a gynigir yn dderbyniol o safbwynt maint y cwrtil yn ei gyfanrwydd.  Yn yr un modd, cadarnhawyd bod maint y pwll nofio yn dderbyniol.  Ni ystyrir y byddai unrhyw effaith ar yr AHNE gan y byddai’r datblygiadau wedi eu suddo i’r tirwedd.

 

Gwrthodwyd y cais blaenorol oherwydd pryderon mwynderau tai cyfagos ond ystyrir bod y cais diwygiedig yn welliant a’r pryderon wedi eu goresgyn. Derbyniwyd pryder gan gymdogion ynglyn a lleoliad y teras, y pwll nofio ac adeilad mor agos iddynt ond gan fod y rhain wedi eu lleoli ar hyd y ffin byddai’n anodd ei wrthod ar sail effaith ar fwynderau preswyl cyfagos a chyfeiriwyd at y manylion llawn ym mharagraffau 5.6 i 5.8 o’r adroddiad.   

 

Ystyrir bod y gwrthwynebiadau wedi derbyn ystyriaeth lawn a’r pryderon wedi eu goresgyn a bod y cais yn cydymffurfio a’r polisiau perthnasol ac felly argymhellwyd i’w ganiatáu yn unol ag amodau perthnasol  ynghyd ag amod ychwanegol gan yr Adran Briffyrdd er sicrhau gwella’r gwelededd.

 

(b)  Nododd yr aelod lleol (nad oedd yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn) y prif bwyntiau canlynol:

 

·         Yn dilyn derbyn y cynllun diwygiedig a’r newidiadau i wella gwelededd a diogelwch i’r gornel bod rhai o’r pryderon wedi eu goresgyn a hyderir y bydd y gwelliant hwn yn cael ei gwblhau’n fuan

·         Gofynnwyd a fyddai modd sicrhau bod y ffens derfyn yn un cadarn ac yn ogystal rhoi amod i gyfyngu defnydd o gerddoriaeth hyd at 11.00 p.m. er sicrhau mwynderau preswylwyr a chymdogion cyfagos

 

(c)  Mewn ymateb, esboniodd y Rheolwr Rheolaeth Datblygu nad oedd yn bosibl gosod amodau o’r math uchod ynglyn a defnydd cerddoriaeth oherwydd bod gan unigolion hawl i ddefnyddio gardd i gymdeithasu.  Pwysleisiwyd nad oedd y ty yn enfawr a phe byddai pryder o aflonyddwch / niwsans yn codi byddai modd ymdrin â’r pryder bryd hynny.  

 

            Penderfynwyd:                      Caniatáu yn unol â’r amodau canlynol:

 

1.         5 mlynedd

2.         Unol a’r cynlluniau

3.         Llechi

4.         Gorffeniad i gydweddu’r tŷ

5.         Tirlunio yn y tymor plannu nesaf

6.         Gwaith gwelliannau priffyrdd i’w cwblhau cyn dechrau ar unrhyw waith pellach sy’n destun y caniatâd hwn

7.         Unrhyw amodau Priffyrdd perthnasol sy’n seiliedig ar y cynllun diwygiedig

8.         Cytuno ar y math o ffens, yr amserlen ar gyfer ei gosod, a’i gadw felly wedi hynny

 

 

 

Dogfennau ategol: