skip to main content

Agenda item

Adeiladu uned ddofednod rhydd a gwaith cysylltiedig

 

AELOD LLEOL:        Cynghorydd Gweno Glyn

 

Dolen i’r dogfennau cefndir perthnasol

 

Cofnod:

Adeiladu ddofednod rhydd a gwaith cysylltiedig.

 

(a)  Ymhelaethodd y Swyddog Rheolaeth Datblygu ar gefndir y cais hwn i greu uned ar gyfer dofednod rhydd h.y. “free range poultry unit”, ynghyd a gwaith cysylltiedig.  Byddai’r bwriad yn cynnwys codi sied a phedair storfa porthiant a chreu trac mynediad er cysylltu’r datblygiad gydag iard y fferm.   Byddai’r sied yn mesur 135 medr o hyd gyda’r uchder i grib y to yn 6.8 medr.  Fe fyddai 6 ffan yn ymwthio i fyny o'r to rhyw fetr yn ychwanegol. Fe fyddai gan y sied arwynebedd llawr o 2630 m2 a gall gadw hyd at 32,000 o ieir dodwy. Bwriedir i waliau allanol a tho’r sied fod yn shitiau bocs proffil o liw gwyrdd ‘juniper’ a byddai'r storfeydd porthiant yn mesur oddeutu 3 medr mewn diamedr ac yn 6.8 medr o uchder.   

 

Nodwyd y byddai gwaith cloddio a mewnlenwi yn cymryd lle er mwyn creu platfform gwastad ar gyfer yr adeilad a gosodir llawr caled o amgylch yr uned. Bwriedir plannu coed ar yr ochr ddwyreiniol fel sgrin.  Bwriedir defnyddio’r fynedfa ffordd bresennol ond bydd trac yn cael ei greu o’r adeiladau fferm at safle’r uned ddofednod.  Tynnwyd sylw at fanylion eraill ynghylch sut bydd yr uned yn gweithredu yn rhan 1 yr adroddiad.

 

Nodwyd bod y safle yng nghefn gwlad oddi fewn Ardal Gwarchod y Dirwedd a Thirwedd Hanesyddol Gofrestredig Llyn ac Enlli. Mae oddeutu 1km o’r AHNE. Byddai’r uned wedi ei lleoli tua 260 medr oddi wrth adeiladau fferm bresennol Crugeran ac mae’r tai annedd agosaf oddeutu 350 medr i ffwrdd yn Nhre’r Ddol.

 

Cyfeirwyd at yr ymatebion i'r ymgynghoriad yn rhan 4 yr adroddiad ac ni dderbyniwyd unrhyw wrthwynebiadau yn ystod y cyfnod ymgynghori er i'r Uned AHNE ddatgan pryder ynghylch yr effaith weledol o rai mannau yn yr AHNE. Derbyniwyd hefyd sawl gohebiaeth yn cefnogi'r cynllun gan y byddai'n hwb economaidd i'r gymuned leol.

 

Nodwyd bod polisïau'r cynllun datblygu'n gefnogol o godi adeiladau ar gyfer dibenion amaethyddol os ydynt yn rhesymol angenrheidiol. Yn yr achos hwn mae’r ymgeiswyr yn bartneriaeth deuluol sydd yn rhedeg fferm Crugeran, sy'n fferm 190 hectar sy'n canolbwyntio ar eidion, defaid a grawn.  Y bwriad yw arallgyfeirio i ddofednod rhydd a derbynnir bod diben amaethyddol dilys ar gyfer y datblygiad newydd. 

 

Fe fyddai’r adeilad yn cael ei leoli ar ben ei hun oddeutu 260 medr oddi wrth yr adeiladau presennol ar y daliad.  Fe fyddai hyn yn cyfrannu at fioddiogelwch y fferm trwy wahanu’r elfen ieir o weddill y fferm, ac mae'r lleoliad yn un llai amlwg yn weledol na safleoedd agosach at y fferm bresennol. Nodwyd bod  dyluniad y sied o fath amaethyddol cyffredin dim ond iddo fod yn sylweddol hirach. Wedi dweud hynny, o ystyried y dyluniad, deunyddiau a'r lliwiau arfaethedig ynghyd a ffurfiant y tir a'r bwriad i blannu sgrin o goed ni chredir bydd yn sefyll allan fel nodwedd estron yn y dirwedd. 

 

Tynnwyd sylw bod rhai tai yng nghyffiniau’r safle a thra bod potensial ar gyfer effeithiau niweidiol megis sŵn, arogleuon a llwch fe dderbyniwyd ymateb hwyr gan yr Uned Gwarchod y Cyhoedd yn cadarnhau, o dderbyn gwybodaeth ychwanegol briodol, y gellid rheoli’r materion hyn trwy amodau.

           

Cyfeiriwyd at faterion eraill o fewn yr adroddiad megis trafnidiaeth, bioamrywiaeth, archeoleg a llifogydd a chredir bod hwn yn ddatblygiad sy'n cwrdd â pholisïau'r cynllun datblygu.

 

Tynnwyd sylw at y sylwadau hwyr a dderbyniwyd ar y daflen a gyflwynwyd i’r Pwyllgor.   

 

Yn sgil hyn, gofynnwyd am yr hawl i weithredu ar y cais ac er mwyn i swyddogion allu ei ganiatáu wedi trafodaethau pellach gyda Gwarchod y Cyhoedd er sicrhau amodau priodol er mwyn rheoli unrhyw effeithiau niweidiol posib.

 

(c)Yn manteisio ar yr hawl i siarad, nododd yr ymgeisydd y prif bwyntiau canlynol:

 

·           Y byddai’r fenter yn creu 2 swydd llawn amser ychwanegol

·           Oherwydd bod y diwydiant amaethyddol wed bod mor ansefydlog yn y blynyddoedd diwethaf ar yr ochr farchnad, y byddai’r fenter yn lleihau’r risg i’r busnes ffermio deuluol presennol

·           Y byddai’r fenter newydd yn cryfhau’r busnes i oroesi unrhyw broblemau i’r dyfodol

·           Bod y fenter newydd yn un cyffrous i’r ardal

·           Y byddai’r teulu yn fodlon cyd-drafod gyda’r swyddogion perthnasol ynglyn ag amodau

 

(ch)  Cefnogwyd y cais gan yr aelod lleol (nad oedd yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn) am y rhesymau canlynol:

 

·         Yn croesawu mentergarwch a fyddai yn rhoi cyfleon i bobl leol

·         Er bod amheuaeth wedi codi ynglyn ag arogl, cadarnhawyd mai ffarm y teulu yw’r ty agosaf ac fel rhan o’r ffarm ceir busnes hunan arlwyo 5* yno ac felly fe fyddir yn sicrhau na fyddai risg o arogl  nac ychwaith i drigolion yr ardal 

·         Bod y teulu yn fwy na pharod i drafodaethau ynglyn ag amodau o safbwynt lliwiau'r biniau porthi, tyfiant, a.y.b. a fyddai’n lliniaru unrhyw bryderon a godwyd

·         Nad oedd unrhyw wrthwynebiadau gan y cyrff statudol

 

(d)Cynigwyd ac eilwyd i ganiatau’r cais gyda amodau perthnasol.

 

(dd)   Yn ystod y drafodaeth ddilynol, amlygwyd y pwyntiau canlynol gan Aelodau unigol:

 

·         Falch o weld teulu yn mentro ac yn creu cyfleon gwaith i bobl mewn ardal lle mae gwaith yn brin

·         Cefnogol i’r cais a’i weld yn gweddu i’r amgylchedd

·         Bod y cyfarpar yn fodern ac y byddai’n lliniaru unrhyw risg o arogl

·         Gofynnwyd a fyddai modd gosod amod i blannu coed wedi lled-aeddfedu i leihau effaith ar yr AHNE

 

         Penderfynwyd:             Caniatáu yn unol â’r amodau canlynol:

 

1.            Cychwyn o fewn 5 mlynedd.

2.            Unol a’r cynlluniau.

3.            To a waliau allanol yr uned dofednod i fod o liw gwyrdd tywyll.

4.            Cytuno lliw ar gyfer y biniau porthiant.

5.            Defnydd amaethyddol o’r adeilad yn unig.

6.            Cwblhau’r cynllun tirlunio yn unol gyda’r manylion a

               gyflwynwyd.

7.            Cytuno unrhyw gynllun goleuo.

8.            Lefelau sŵn neu unrhyw amod perthnasol arall sy’n ymateb i faterion a godwyd gan Gwarchod y Cyhoedd.

9.           Plannu coed wedi lled-aeddfedu fel rhan o’r tirlunio

 

 

Nodiadau-

1.                Yr angen i gael caniatâd i gwlfyrtio’r cwrs dŵr.

 

 

 

Dogfennau ategol: