skip to main content

Agenda item

Adeiladu estyniad deulawr i'r ochr ac adeiladu porth i'r blaen

 

AELOD LLEOL:        Cynghorydd Gruffydd Williams

 

Dolen i’r dogfennau cefndir perthnasol

Cofnod:

Adeiladu estyniad deulawr i’r ochr ac adeiladu porth i’r blaen.

 

(a)  Ymhelaethodd y Swyddog Rheolaeth Datblygu ar gefndir y cais gan nodi bod y cais ar gyfer codi estyniad deulawr ar ochr tŷ presennol gyda phorth ar ei flaen i gymryd lle estyniad unllawr to fflat a phorth presennol. Bwriedir dymchwel y strwythurau hyn a chodi estyniad newydd er mwyn darparu gofod byw ychwanegol. Byddai to’r estyniad wedi ei gamu i lawr o frig to'r tŷ ac wedi ei orffen gyda llechi naturiol.

 

Nodwyd bod y safle y tu allan i'r ffin ddatblygu ac mewn lleoliad agored ac amlwg ar draeth Nefyn ac o fewn yr Arfordir Treftadaeth a Thirwedd Hanesyddol Gofrestredig Llyn. Mae’r eiddo wedi ei gysylltu ar yr ochr ddeheuol gydag eiddo Hendafarn sy'n adeilad rhestredig Gradd II. Yn agos iawn ar yr ochr arall, sef yr ochr ogleddol, saif tŷ Hafod y Môr.

 

Tynnwyd sylw at y sylwadau a dderbyniwyd yn ystod y cyfnod ymgynghori  yn Rhan 4 yr adroddiad ac fe nodwyd bod y cyrff statudol yn fodlon gyda'r cynnig er y rhoddwyd peth ystyriaeth i faterion bioamrywiaeth a llifogydd. Fe dderbyniwyd gwrthwynebiadau gan y cyhoedd, megis :

·   Yr effaith weledol, yn enwedig ar yr adeilad rhestredig gyda'r defnydd o ddeunyddiau amhriodol fel ffenestri UPVC

·   Pryder am fynediad i gynnal a chadw talcen eiddo Hafod y Môr sydd gyfochrog

 

Tynnwyd sylw bod gan yr eiddo sy'n destun i'r cais gymeriad pensaernïol diddorol a nodweddion unigryw yn perthyn i’r prif wyneb. Ystyrir bod graddfa, maint, ffurf a dwysedd yr estyniad arfaethedig yn dderbyniol ac yn gweddu i’r eiddo presennol. O ystyried bod estyniad to fflat eisoes ar y safle, ni chredir y byddai codi estyniad deulawr yn ei le yn cael effaith arwyddocaol ar olygfeydd y cyhoedd o’r safle nac yn debygol o gael effaith andwyol ar gymeriad y tirweddau sydd wedi' eu dynodi.  

 

Nid oedd yn glir o’r cais beth a fwriedir fel gorffeniad allanol ar gyfer waliau'r estyniad ond o ystyried sensitifrwydd y safle, credir y dylid gosod amod er sicrhau gorffeniad priodol, megis rendr gwyn, yn y lleoliad hwn.

 

O safbwynt yr adeilad rhestredig sydd ynghlwm, ni fyddai’r estyniad yn cyffwrdd yr adeilad hwnnw nac yn golygu bod nodweddion hanesyddol pwysig yn cael eu colli. Fe fyddai'r dyluniad arfaethedig yn sicrhau bod yr estyniad yn ymddangos yn israddol i Glan y Môr, heb fod yn ymwthiol ar yr eiddo ei hun na’r adeilad rhestredig cysylltiol.

 

O safbwynt yr effaith ar fwynderau'r cymdogion yn Hafod y Môr, byddai’r estyniad newydd wedi ei godi mwy neu lai'n union ar ôl troed yr estyniad presennol felly ni chredir y byddai'r bwriad yn or-ddatblygiad o'r cwrtil. Nid oes unrhyw ffenestr ar dalcen Hafod y Môr ac felly nid oes pryder ynghylch preifatrwydd ychwaith. Er gwaetha sylwadau’r perchnogion nid yw materion yn ymwneud a threfniadau mynediad i gynnal a chadw eiddo preifat yn ystyriaethau cynllunio.

 

Wedi pwyso a mesur y bwriad yn erbyn polisïau'r cynllun datblygu, ystyrir fod yr estyniad deulawr arfaethedig yn dderbyniol ac argymhellwyd i  ganiatáu'r cais yn unol â'r adroddiad.

 

(b)   Yn manteisio ar yr hawl i siarad, nododd cynrychiolydd yr ymgeisydd y prif bwyntiau canlynol:

 

·         Bod yr ymgeisydd yn Gymraeg ac wedi prynu’r eiddo ar gyfer dychwelyd yn ol i’r ardal

·         Bod yr eiddo wedi bod yn wag ers nifer o flynyddoedd ac wedi dirywio a’u bod yn awyddus i’w adnewyddu yn fewnol ac allanol gan gynnwys to newydd ac estyniad bychan sydd yn llai na 10% o arwynebedd y llawr

·         Byddai’r estyniad yn gweddu gyda phensaerniaeth yr eiddo a’r eiddo gyferbyn

·         Bwrideir rhoi to llechi Cymreig ar yr estyniad a’r deunyddiau yn gweddu gyda’r eiddo

·         Bod trafodaethau wedi digwydd gyda’r Adran Gynllunio cyn cyflwyno’r cais er mwyn sicrhau cydymffurfiaeth gydag unrhyw awgrymiadau ac wedi eu cynnwys yn y cais

·         Bod bwriad i ddefnyddio busnesau lleol ar gyfer y gwaith adnewyddu

·         Bwriedir cynyddu’r bwlch rhwng Glan y Môr a Hafod y Môr i oddeutu 6”

·         Byddai’r gwelliannau o fudd i’r eiddo ac i eiddo cyfagos   

 

(c) Nododd yr aelod lleol (a oedd yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn) y prif bwyntiau canlynol:

 

·         Bod ganddo bryderon o safbwynt tir lithriad ond yn dilyn trafodaeth gyda’r swyddogion cynllunio roedd y pryder wedi ei liniaru bellach

·         Gofynnwyd a fyddai modd gosod amod ar gyfer cladio’r eiddo mewn carreg ac wedyn ei wyngalchu er mwyn iddo weddu’n well hefo gweddill y tai cyfagos

        

(a)  Mewn ymateb, esboniodd y Rheolwr Rheolaeth Datblygu y byddai’n anodd cladio’r eiddo gyda charreg ond gellir gosod amod i gytuno gyda’r ymgeisydd i ddefnyddio rendrad bras a fyddai’n ymdebygu i garreg. 

 

(dd) Cynigwyd ac eilwyd i ganiatáu’r cais yn amodol i ychwanegu amod ar orffeniad y rendr.

 

Penderfynwyd:                        Caniatáu yn unol â’r amodau canlynol:

 

1.            5 mlynedd

2.            Unol â’r cynlluniau

3.            Llechi i gydweddu

4.            Cytuno ar orffeniad rendr sy’n ymdebygu i garreg i flaen ac i ran o ochr yr estyniad

 

Nodyn: Copi o sylwadau CNC

 

 

Dogfennau ategol: