skip to main content

Agenda item

Codi tri ty annedd deulawr ar wahan a datblygiadau cysylltiedig

 

AELOD LLEOL:        Cynghorydd Elfed Williams

 

Dolen i’r dogfennau cefndir perthnasol

Cofnod:

Codi tri ty annedd deulawr ar wahân a datblygiadau cysylltiedig.     

 

(a)  Ymhelaethodd y Swyddog Rheolaeth Datblygu ar gefndir y cais gan nodi bod y cais hwn wedi bod gerbron y Pwyllgor Cynllunio dwywaith yn barod gydag ymweliad safle wedi’i gynnal.   Esboniwyd y bwriad i godi tri thŷ ar safle tir llwyd o fewn ffin ddatblygu Clwt y Bont. Defnyddiwyd y safle yn y gorffennol fel safle parcio yn bennaf ar gyfer y Swyddfa Bost dros y ffordd (sydd yn awr ar gau). Ymddengys i’r safle cael ei greu trwy fewnlenwi deunydd yn y gorffennol i greu platfform gwastad oddeutu 60m x 30m gyda llethrau serth yn disgyn o’r tir ar dair ochr.

 

Cyfeiriwyd at faterion yn ymwneud a mwynderau fel y gwelir ym mharagraffau 5.11 i 5.23 o’r adroddiad lle ystyrir materion megis yr effaith weledol, yr effaith ar breifatrwydd, pryderon ynghylch tir ansefydlog a materion bioamrywiaeth a daethpwyd i’r casgliad bod y datblygiad a gynigir yn dderbyniol o safbwynt y materion hyn yn ddarostyngedig i’r amodau a gynigir yn Rhan 7 yr adroddiad.

 

O ystyried fod hwn yn safle tir llwyd, o fewn y ffin ddatblygu nodwyd bod yr egwyddor o ddatblygu'r safle'n cael ei gefnogi gan y Cynllun Datblygu Unedol. Fodd bynnag mae Polisi CH4 yn datgan y dylid sicrhau bod cyfran o’r unedau a fwriedir eu hadeiladu o fewn pentrefi yn rhai fforddiadwy oni bai na fyddai’n briodol darparu tai fforddiadwy ar y safle. Gwelir cyfeiriad manwl o’r mater ym mharagraffau 5.1 i 5.8 o’r adroddiad.

 

Darparwyd Cyfrifiadau Hyfywdra gyda’r cais sy’n dangos na fyddai’r cynllun yn hyfyw gydag elfen fforddiadwy yn rhan ohono. Nodwyd bod Uned Eiddo’r Cyngor wedi cytuno bod y costau adeiladu a gyflwynwyd yn rhai rhesymol a bod yr Uned Polisi Cynllunio ar y Cyd wedi defnyddio’r fethodoleg safonol y maen nhw, a chynghorau eraill, yn ei ddefnyddio at ddibenion asesu hyfywdra cynigion ac yn cytuno na fyddai’r cynllun yn hyfyw petai gofyn i un o’r tai fod yn uned fforddiadwy.

 

Yn dilyn y drafodaeth yn y Pwyllgor diwethaf cadarnhaodd yr Uned Polisi eu cyfrifiadau ac maent yn credu, wrth ystyried y dystiolaeth sydd gerbron, na fyddai’n rhesymol gwrthod y cais ar sail y diffyg darpariaeth fforddiadwy.  Nodwyd bwysigrwydd, oherwydd cyfyngiadau’r safle o safbwynt mynediad priffyrdd, nad yw’n bosibl datblygu’r safle i’w lawn botensial, mae’n safle ddigon mawr i gynnwys o bosib pump neu chwech uned ac yr adeg honno mae’n sicr y byddai elfen fforddiadwy yn dod yn fwy hyfyw. Ond o ystyried cyfyngiadau’r safle ac yng ngolwg y dystiolaeth sydd gerbron, ni chredir bod cyfiawnhad gofyn i un o’r tai fod yn fforddiadwy ar gynllun o’r raddfa hon. Ystyrir bod y  datblygiad a gynigir yn dderbyniol mewn egwyddor a gan nad ydyw’n debygol o achosi effaith andwyol annerbyniol ar fwynderau y dylid caniatáu’r cais.

 

(b)Gwrthwynebwyd y cais gan yr aelod lleol (nad oedd yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn) am y rhesymau canlynol:

 

·         Nad oedd prisiau’r tai yn fforddiadwy i bobl leol o ystyried cyflogau isel yr ardal

·         Nad oedd cyfeiriad am gost prynu’r safle

·         Pryder am ddwysedd adeiladu’r safle

·         Bod ffigyrau ac astudiaethau manwl am brisiau tai ond eto cyfeirir ym mharagraff 5.6 nad oedd yn bosib cael gwybodaeth benodol ar gyfer ardal Clwt y Bont a Deiniolen a chwestiynwyd felly sut y gellir asesu’r cais yn llawn

·         Bod sgrap yn cynnwys hen geir, bysiau, a.y.b. wedi eu claddu ar y tir ac y byddai’n rhaid i unrhyw ddarpar ddatblygwr orfod tyllu i lawr a thynnu tunelli o rwbel oddi yno

·         Y byddai’r  gwaith adeiladu yn cael effaith ar fwynderau trigolion cyfagos i’r safle

·         Y byddai traffig cynyddol ar lon gul a phryderwyd am ddiogelwch plant yn enwedig nad oedd llefydd addas i loriau droi 

·         Aflonyddwch yn cynnwys sŵn, llwch a thywyllu tai'r trigolion

·         Tra bo’r Adran Gynllunio yn datgan na ddylid ystyried effeithiau negyddol ar drigolion tra bo’r adeiladu yn digwydd, teimlai’r aelod os yw’r Cyngor yma o ddifri yn ei ymgyrch i weithredu egwyddorion Ffordd Gwynedd dylai pob penderfyniad gael ei wneud gyda thrigolion Gwynedd yn ganolog  i bopeth, yn hyn o beth felly'r unig benderfyniad ydoedd gwrthod y cais

·         Bod safleoedd eisoes wedi derbyn caniatadau yng Nghlwt y Bont sydd yn ymateb i anghenion Deiniolen a Chlwt y Bont 

 

         (c) Mewn ymateb i’r sylwadau uchod, esboniodd yr Uwch Reolwr Gwasanaeth Cynllunio y             gohiriwyd cymryd  penderfyniad ar y cais yn flaenorol er mwyn derbyn mwy o fanylion        ynglyn a thai fforddiadwy a chyfeiriwyd at y paragraffau penodol yn yr adroddiad.         Cydnabuwyd bod trigolion yn ymwybodol o hanes y safle a bod y costau datblygu yn        adlewyrchu’r math yma o safle.  Cadarnhawyd bod y cais wedi ei wirio gan Uned Eiddo ac            Uned Polisi ar y cyd y Cyngor ac nad oedd cyfiawnhad yn yr achos yma i fynnu tai          fforddiadwy. Yn ogystal, roedd tystiolaeth bod angen tai cyffredinol ac felly dim tystiolaeth i             wrthod y cais.  Derbyniwyd y sylw bod angen ystyried mwynderau preswyl  y trigolion ac fe            gaiff hyn ei gyfarch yn amod 6 o’r caniatâd cynllunio i ddatblygu’r safle a bod y cais yn      cydymffurfio gyda’r polisiau perthnasol.

 

         (ch) Cynigwyd ac eilwyd i ganiatáu’r cais.

 

(a)   Nodwyd y pwyntiau canlynol yn erbyn caniatau’r cais : 

 

·         Ffordd yn gul

·         Effeithio ar fwynderau’r ardal

·         Tai fforddiadwy

 

         (dd)  Nodwyd y pwyntiau canlynol o blaid y cais:

 

·         Nad oedd y Cyngor Cymuned yn gwrthwynebu’r cais

·         Nad oedd gwrthwynebiad o Adran Trafnidiaeth y Cyngor mewn perthynas â chynnydd yn y traffig

           

(b)   Mewn ymateb i ymholiadau ychwanegol gan Aelodau unigol, nododd yr Uwch Reolwr Gwasanaeth Cynllunio:

 

·         bod natur rwystredig rhwydwaith ffyrdd yn gyfyngedig i ddwysedd y tai a dyna’r rheswm pam na ellir cael rhagor o dai ar y safle

·         byddai amodau o fewn y caniatâd i gyfarch pryderon cynnydd y traffig

·         byddai amod ynglyn a’r dull adeiladu ac y gellir cynnig amod archwiliad o’r safle yng nghyd-destun llygredd y tir

·         o safbwynt diogelwch, byddai’r gwaith adeiladu yn cael ei gyfarch o fewn rheoliadau adeiladu

 

         Penderfynwyd: Caniatáu yn unol â’r  amodau canlynol:

 

1.         Amser

2.         Cydymffurfio gyda chynlluniau

3.         Toeau llechi

4.         Rhaid cyflwyno a chytuno manylion y deunyddiau allanol

5.         Amod Dwr Cymru

6.         Rhaid cyflwyno a chytuno “Cynllun Dulliau Adeiladu” (Construction Method Statement) a fydd yn cynnwys

·           Manylion unrhyw waith peirianyddol yn ymwneud a newid lefelau tir

·           Cynlluniau ar gyfer yr ymdriniaeth o ffiniau’r safle

·           Cynllun gwaredu llysiau’r dial

·           Cynllun tirlunio a phlannu coed gan gynnwys manylion rheolaeth y nodweddion hyn yn yr hirdymor

7.         Rhaid cyflwyno a chytuno archwiliad desg i asesu’r risg o lygredd. Pe byddai’r archwiliad desg yn dangos fod angen gweithrediad pellach, bydd angen cytuno unrhyw fesurau rhagofalus ac/neu adferol cyn dechrau’r datblygiad. 

8.         Dim gwaith clirio’r safle yn ystod y tymor nythu adar

9.         Amodau priffyrdd

10.       Rhaid codi ffens briodol o amgylch gardd y tŷ de ddwyreiniol.

11.       Tynnu hawliau datblygiad a ganiateir.

        

 

 

 

Dogfennau ategol: