Cais ôl-wethredol i gadw pontwn o fewn y cei.
AELOD LLEOL: Cynghorydd Gareth Wyn Griffith
Cofnod:
Cais ôl-weithredol
i gadw pontŵn o fewn y cei
(a) Ymhelaethodd y
Rheolwr Rheolaeth Datblygu ar gefndir y cais gan nodi mai cais ôl-weithredol
oedd gerbron i gadw pontŵn o fewn y cei wedi ei leoli ar wal ogleddol yr
harbwr ac wedi ei gysylltu mewn 3 lleoliad a fyddai’n gadael i’r pontŵn
godi gyda’r llanw. Nodwyd bod y safle yn
rhan o’r marina presennol gyda wal yr harbwr wedi ei restru fel adeilad
rhestredig Gradd II.
Tynnwyd sylw at y gwrthwynebiadau ac yr adroddiad peiriannyddol a oedd yn datgan na fyddai gosod y pontwn yn debygol o gael unrhyw effaith andwyol o safbwynt
strwythur peiriannyddol yr harbwr.
Yn dilyn
penderfyniad y pwyllgor ym mis Medi 2016 rhoddwyd cyfle i’r gwrthwynebwyr gael
amser i ddarparu a chyflwyno adroddiad peirianyddol eu hunain, ac nid yw’n
ymddangos o’r adroddiad hwnnw fod cyflwr y wal mewn cyflwr drwg nag ychwaith o
dan unrhyw fygythiad gan y pontwn. O fewn casgliad yr adroddiad awgrymir gosod
amod i fonitro’r wal yn rheolaidd fel mesuriadau lliniaru teg. Yn ogystal derbyniwyd barn Ymgynghoriaeth Gwynedd ar yr adroddiad a chadarnhawyd fod yr adroddiad wedi ei gwblhau
gan gwmni cydnabyddedig ac fod yr argymhellion yn deg. Ni ystyrir felly fod
cynnwys yr adroddiad newydd gan y gwrthwynebwyr wedi cyflwyno tystiolaeth
newydd ac felly nid yw’r argymhelliad wedi newid o’r argymhellion blaenorol.
Eglurwyd fod y
cais bellach yn destun apel am ddiffyg penderfyniad
ac er mwyn galluogi swyddogion i ymdrin â’r apel gofynnwyd i’r Pwyllgor gadarnhau ei safiad ynglyn a’r cais ac i awdurdodi swyddogion i gyflwyno
achos yr apel
ar ran y Cyngor. Argymhellwyd bod y
Pwyllgor yn dirprwyo’r hawl i swyddogion i ymdrin â’r
apel am ddiffyg penderfyniad ac i gadarmhau
mai barn y Pwyllgor fyddai argymell caniatáu’r
cais gydag amod a nodyn i fonitro cyflwr y wal.
(b) Ar ran
trigolion yr ardal, gwrthwynebai’r aelod lleol (nad oedd yn aelod o’r Pwyllgor
Cynllunio hwn) y cais ac fe nodwyd y prif bwyntiau canlynol:
·
Pwysigrwydd bod aelodau’r Pwyllgor yn ymwybodol o holl gynnwys yr
adroddiad peiriannyddol
·
Bod amryw o bobl yn
gwrthwynebu’r cais
·
Bod y wal dros 100 mlwydd oed ac ni wyddys beth yw cyflwr
y wal
·
Er y cyflwynwyd
gwahanol adroddiadau ni theimlwyd bod arolwg iawn wedi
ei wneud o’r wal
·
Nad oedd trigolion yr ardal yn gwrthwynebu’r pontwns i gyd ond yn gwrthwynebu’r math yma sydd yn cael ei
gysylltu hefo bracedi i’r wal
·
Derbyniwyd e-bost gan asiant
yr ymgeisydd yn datgan y byddai’n
fodlon tynnu’r pontwn yn ystod
y gaeaf o 1 Tachwedd i 1 Mawrth ac yn ogystal
yn barod i ymgymryd ag ymchwiliad gweledol blynyddol
·
Dylid sicrhau
bod yr amod yn datgan monitro
rheolaidd
·
Pryderwyd am ddiogelwch y cyhoedd pe byddai unrhyw
drafferth gyda’r pontwn
(c) Mewn ymateb,
cydnabyddai'r Uwch Reolwr Gwasanaeth Cynllunio pryderon yr aelod a’r trigolion
lleol ond tynnwyd sylw bod y cais yn nwylo’r Arolygaeth Cynllunio. Atgoffwyd
bod y cais i mewn ers dros 12 mis ac wedi cael ei ohirio sawl gwaith i dderbyn
adroddiadau. Yn deillio o’r holl
adroddiadau, mynegwyd nad oedd sylw yn datgan
bod y datblygiad yn mynd i waethygu'r sefyllfa o safbwynt hygrededd
strwythurol wal yr harbwr. Pwysleisiwyd wrth y Pwyllgor i ymdrin â’r cais yn seiliedig ar gynnwys y dystiolaeth oedd
gerbron.
(ch) Cynigwyd ac
eiliwyd i gynnig argymhelliad y swyddogion cynllunio.
(d) Yn ystod y drafodaeth
ddilynol, amlygwyd y pryderon canlynol:
·
Y dylai unrhyw ddatblygiad fod yn gynaliadwy a bod yn
rhaid i’r datblygiad weithio ond yn yr achos hwn ni wyddys faint fyddai oes y
wal
·
Teimlwyd bod y Pwyllgor ar dir
sigledig gyda’r cais o ystyried cynnwys adroddiad ARUP
·
Nododd sawl
Aelod nad oeddynt wedi eu
hargyhoeddi y byddai’r datblygiad yn gynaliadwy
·
Pryderwyd am ddiogelwch y cyhoedd
(dd) Mewn
ymateb i bryderon amlygwyd uchod, esboniodd yr Uwch Reolwr Gwasanaeth Cynllunio bod yr adroddiadau yn datgan na
fyddai’n debygol y byddai effaith ychwanegol ar strwythur y wal yn sgil y pontwn. Nodwyd
ymhellach, y derbyniwyd cadarnhad y byddai’r ymgeisydd yn tynnu’r pontwn dros gyfnod y gaeaf.
(a)
Tra’n deall y pryderon, eglurodd yr Uwch Gyfreithiwr bod cyfrifoldebau sifil tu allan i’r drefn
gynllunio yn syrthio ar y tir feddianwyr a bod y Pwyllgor yn gwneud
penderfyniadau ar ochr cynllunio yn seiliedig ar y dystiolaeth sydd
gerbron. Tra bo’r adroddiadau yn
arwynebol, ‘roedd tystiolaeth gerbron yn datgan nad oes effaith i’w weld ar hyn
o bryd ac ychwanegwyd ni ellir darogan be all ddigwydd mewn blynyddoedd.
Penderfynwyd: Dirprwyo’r hawl i swyddogion i
ymdrin â’r apel am ddiffyg
penderfyniad ac i gadarmhau mai barn y Pwyllgor
fyddai argymell caniatáu’r cais yn unol â’r cynlluniau a gyflwynwyd a nodyn i fonitro cyflwr y wal
yn rheolaidd.
Dogfennau ategol: