Agenda item

Dymchwel estyniad cefn presennol ynghyd a chodi estyniad rhannol deulawr a rhannol unllawr ar gefn yr eiddo

 

AELOD LLEOL:        Cynghorydd  Lesley Day

 

Dolen i’r dogfennau cefndir perthnasol

Cofnod:

Dymchwel estyniad cefn presennol ynghyd a chodi estyniad rhannol deulawr a rhannol unllawr ar gefn yr eiddo.

 

(a)              Adroddodd y Rheolwr Rheolaeth Datblygu bod y cais gerbron yn destun  yr un safle a’r cais blaenorol yn eitem 3 ond y tro hwn yn gais adeilad rhestredig i ddymchwel rhan o estyniad deulawr cefn presennol ynghyd a’r adeilad allanol unllawr cefn, ac ymestyn y rhan deulawr presennol ac adeiladu estyniad unllawr newydd ar yr un safle, ynghyd a chodi ffens ar hyd ochr y tŷ. Nodwyd bod apêl wedi ei chofrestru oherwydd nad oedd penderfyniad wedi ei gymryd ynghylch yr adeilad rhestredig ac felly esboniwyd nad y Pwyllgor Cynllunio fyddai gyda’r hawl i wneud penderfyniad ffurfiol ond yn hytrach yr Arolygaeth Gynllunio.  Fodd bynnag, eglurwyd byddai’n ofynnol i’r Pwyllgor Cynllunio roi arweiniad i’r swyddogion cynllunio o ba fath o benderfyniad fyddent wedi ei gymryd pe byddai’r cais ger eu bron a hynny er mwyn gallu delio gyda’r apêl ar ran y Cyngor.  Yn dilyn derbyn cadarnhad y Pwyllgor fe fyddai’r swyddogion cynllunio wedyn yn darparu datganiad apel i’w gyflwyno i’r Arolygaeth Gynllunio.

 

Tynnwyd sylw bod manylion y cais yn debyg i’r cais blaenorol yn eitem 3 a chyfeiriwyd at gynnwys y disgrifiad o’r cais a’r ymatebion llawn o fewn yr adroddiad ger bron.

 

Ategwyd bod yr asiant wedi cyflwyno adroddiad peiriannyddol strwythurol yn hwyr i’r Adran Gynllunio ac yn sgil pryderon ynglŷn â chasgliadau’r adroddiad a diffyg eglurdeb llawn os oes modd cynnal neu gryfhau’r  waliau  heb orfod eu dymchwel ac os ydi’r adroddiad yn seiliedig ar gyflwr y waliau fel ag y maent yn bresennol neu ar gyflwr y waliau ar gyfer cynnal estyniad newydd.  O ganlyniad eglurwyd nad oedd y swyddogion cynllunio wedi eu hargyhoeddi bod yr ymateb yn lleddfu’r pryderon sydd yn cael eu nodi yn yr adroddiad yn llawn.  Fe fwriedir hefyd cyflwyno’r adroddiad peiriannyddol i’r Arolygaeth Gynllunio er mwyn ffurfio rhan o’r wybodaeth apel.

 

Nodwyd ymhellach bod yr egwyddor yn gallu bod yn dderbyniol ond ar hyn o bryd nad oedd y wybodaeth angenrheidiol yn dderbyniol  er mwyn dod i gasgliad bod yr holl fwriad yn dderbyniol. 

 

Er mwyn galluogi swyddogion i ymdrin â’r apel gofynnwyd i’r Pwyllgor gadarnhau ei safiad ynglyn a’r cais ac i awdurdodi swyddogion i gyflwyno achos  yr apel ar ran y Cyngor.  Argymhellwyd bod y Pwyllgor yn dirprwyo’r hawl i swyddogion i ymdrin â’r apel am ddiffyg penderfyniad ac ymdrin ag unrhyw wybodaeth a ddaw i law yn ystod yr apel ac i gadarnhau mai barn y Pwyllgor fyddai argymell gwrthod y cais oherwydd diffyg cyfiawnhad clir dros y gwaith dymchwel. 

                      

(b)   Nododd yr aelod lleol (nad oedd yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn) y prif bwyntiau canlynol:

 

·         Bod CADW wedi cydnabod bod Rhes Glandwr o bwysigrwydd cenedlaethol ac sydd wedi ei restru ym Mai 2013 ac wedi argymell mewn termau cadarn y dylai rhan o ward Garth gan gynnwys Rhes Glandwr gael ei glustnodi ar gyfer Statws Ardal Gadwraeth

·         Bod CADW wedi datgan bod y teras o ddiddordeb hanesyddol arbennig gyda’i gysylltiad â gweithgareddau’r môr a’r diwydiant llechi gogledd orllewin Cymru

·         Bod Rhes Glandwr wedi ei leoli o fewn treftadaeth y bae sef Safle Treftadaeth enwebedig lle mae Porth Penrhyn yn rhan ohono ac fe nodwyd bod Rhes Glandwr i’w weld yn glir oddi yno

·         Bod yn rhaid cymryd i ystyriaeth polisiau perthnasol Cyngor Gwynedd ynghylch adeiladau rhestredig a chyfeiriwyd at y polisiau hyn

·         Pryder bod dros oddeutu chwarter o 7 Rhes Glandwr yn cael eu dymchwel ac nad oedd unrhyw ffordd y gall dymchwel ac adeiladu estyniad ar ol-troed gwahanol yn cael ei weld fel gwelliant i’r teras

·         Dywed CADW bod y berthynas at risiau’r traeth yn rhan hanfodol o’i ddyluniad a ffurfwedd

·         Bod y mynediad i’r blaendraeth yn dyddio o gyfnod cyn 1948 ac yn rhan o gwrtil ac felly ddim yn gwneud synnwyr i’w gau

·         Bod arbenigwyr megis Cymdeithas Fictoraidd a Chymdeithas Henebion yn glir iawn yn ei safbwynt i wrthod dymchwel unrhyw ran o’r strwythur yn yr un modd a rhai o drigolion ward y Garth gan gynnwys gweddill trigolion Rhes Glandwr

·         Pryderwyd am osod cynsail i ganiatáu’r cais sy’n adeilad rhestredig ac mewn perygl o wneud holl adeiladau rhestredig yn fregus

·         Erfyniwyd i’r Pwyllgor Cynllunio wrthod y caniatâd

 

(c)  Cynigwyd, eiliwyd a phleidleisiwyd o blaid argymhelliad y swyddogion

  

Penderfynwyd:  Dirprwyo’r hawl i swyddogion  i ymdrin â’r apêl am ddiffyg penderfyniad ac ymdrin ag unrhyw wybodaeth ddaw i law yn ystod yr apêl ac i gadarnhau mai barn y Cyngor ar hyn o bryd fyddai i argymell gwrthod y cais oherwydd ni chyflwynwyd gwybodaeth gadarn i gyfiawnhau’r gwaith dymchwel a pham na all yr adeilad rhestredig presennol gael ei addasu yn ei ffurf bresennol yn unol â’r cyngor a geir yng Nghylchlythyr y Swyddfa Gymreig 61/96 Cynllunio a’r Amgylchedd Hanesyddol: Adeiladau Hanesyddol ac Ardaloedd Cadwraeth.

 

 

Dogfennau ategol: