Dymchwel estyniad cefn presennol ynghyd a chodi estyniad rhannol deulawr a rhannol unllawr ar gefn yr eiddo, ynghyd a darparu drysau ffrenig a chodi ffens 1.8m newydd ger y hawl dramwy.
AELOD LLEOL: Cynghorydd Lesley Day
Cofnod:
Dymchwel estyniad
cefn presennol ynghyd a chodi estyniad rhannol ddeulawr a rhannol unllawr ar gefn yr eiddo, ynghyd a darparu drysau ffrenig a
chodi ffens 1.8m newydd ger yr hawl tramwy.
(a) Ymhelaethodd y Rheolwr Rheolaeth Datblygu ar gefndir y cais gan nodi bod yr
eiddo yn dy tri llawr ac yn dy pen o fewn rhesdai o
saith sydd wedi eu rhestru (Gradd II).
Nodwyd mai’r bwriad ydoedd dymchwel rhan o’r rhan cefn deulawr presennol
ac ail-godi rhannau newydd a bwriad i ddymchwel yr adeilad unllawr
ac ail godi estyniad unllawr yn ei le. Bu i’r Pwyllgor Cynllunio ymweld â’r safle ym mis Mehefin.
Nodwyd nad oedd addasiadau mewnol yn ffurfio rhan o’r cais a chyfeiriwyd
at y manylion llawn o fewn yr adroddiad gerbron y Pwyllgor. Cyfeiriwyd at
wybodaeth hwyr oedd wedi ei dderbyn gan yr asiant yn cyflwyno adroddiad gan
beiriannydd strwythurol er mwyn cyfiawnhau'r gwaith dymchwel.
Nodwyd bod y safle
o fewn ffiniau datblygu dinas Bangor gyda ffordd ddi-ddosbarth yn rhedeg
gerllaw a ffordd fynedfa i’r cefn gyda hawl tramwy drosto a hawl tramwy preifat
ar hyd blaen y teras ac ar hyd ochr y safle.
Ar sail y
wybodaeth ym mharagraffau 5.3 - 5.7 ni
ystyrir bod yr estyniad yn ormodol o ran maint, nac ei fod yn cael effaith
ormesol ar unrhyw eiddo cyfagos. Ni
ystyrir y byddai’r ffenestri newydd i’r llawr cyntaf yn yr estyniad yn achosi
unrhyw or-edrych i eiddo arall a’r bwriad o doeau
llechi a’r deunyddiau i’r waliau allanol yn dderbyniol.
Yn dilyn cyfnod
ymgynghori derbyniwyd sawl gwrthwynebiad ac fe ymatebwyd iddynt o fewn yr
adroddiad ac fel y nodir ym mharagraffau 5.12 - 5.14.
Ystyrir y byddai’r
egwyddor o ddymchwel ar y raddfa sy’n cael ei ddangos fel rhan o’r cais ac
wedyn ymestyn / ail-godi’r estyniad cefn yn dderbyniol o safbwynt polisïau
lleol a chenedlaethol ond oherwydd anghytundeb barn rhwng yr ymgynghorwyr
statudol a swyddogion ystyriwyd y byddai’n ddefnyddiol derbyn cyfiawnhad am y
gwaith a chadarnhad o resymau clir dros ddymchwel rhannau o’r adeilad.
Tynnwyd sylw bod
yr asiant wedi cyflwyno adroddiad gan beiriannydd strwythurol i gyfiawnhau’r
dymchwel ond ni ystyrir bod y dystiolaeth yn rhoi eglurhad digonol am gyflwr y
waliau a pham nad oes modd eu cynnal fel ag y maent. Felly, derbyniwyd dau set o wybodaeth wahanol
gan yr asiant - y cyntaf yn ymdrin â
materion cynaladwyedd ac egni a’r ail ar ffurf adroddiad peirianyddol ond nad oedd yn glir o’r
adroddiad a dderbyniwyd os yw’r waliau
yn berygl neu os mai ddim diogon da i gynnal yr estyniadau sydd yn cael eu
cynnig ydynt. Nid oedd y swyddogion
cynllunio felly wedi eu hargyhoeddi
yn llwyr fod y wybodaeth a gyflwynwyd yn rhoi cyfiawnhad digonol dros y
dymchwel.
Pe byddai’r
cyfiawnhad yn dderbyniol, ystyrir bod y maint, dyluniad a deunyddiau’r estyniad
newydd, gan gynnwys y ffens newydd yn dderbyniol ac yn unol â’r
polisiau perthnasol.
Fodd bynnag, ni ystyrir ei fod yn dderbyniol yn ei ffurf bresennol gan
nad oes gwybodaeth gadarn wedi ei gyflwyno i gyfiawnhau'r gwaith dymchwel a pham
na all yr adeilad rhestredig gael ei addasu fel y mae. Yn sgil hyn, argymhelliad y swyddogion
cynllunio ydoedd gwrthod y cais.
(b)
Yn manteisio
ar yr hawl
i siarad, nododd y gwrthwynebydd ei fod yn croesawu
argymhelliad yr Adran Cynllunio i wrthod y cais gan nodi’r
prif bwyntiau canlynol:
·
Bod Rhes Glandwr wedi cael ei
gydnabod o bwysigrwydd cenedlaethol trwy
gael ei ddynodi yn rhestredig (Gradd II) ac nad oedd rhestru yn golygu eiddo
crand ond adeiladau gostyngedig fel Rhes Glandwr i
sicrhau cynrychiolaeth gywir o hanes cenedlaethol
·
Bod Rhes Glandwr yn enghraifft
dda o gynrychioli amser neu gyfnod o gyfoeth cynyddol yn gysylltiedig gyda
masnachu morol a diwydiant llechi
·
Bod y teras yn gwneud
cyfraniad arwyddocaol i gymeriad Garth a gosodiad y Pier
·
Nad oedd angen nac unrhyw reswm i ddymchwel rhan o rif 7
gan fod y strwythur wedi bod ddigon mawr ers cenedlaethau
·
Ei fod yn bwysig i gadw blaen yr adeilad gan fo holl
eiddo Rhif 7 wedi cael ei restru nid y blaen yn unig
(c) Yn manteisio ar yr hawl i siarad, nododd asiant yr ymgeisydd y prif
bwyntiau canlynol:
·
Bod y bwriad arfaethedig yn helpu i greu
cartref priodol ar gyfer anghenion
y perchnogion ar gyfer y presennol a’r dyfodol
·
Bod cyflwr yr adeilad
allanol presennol yn ddifrifol ac yn bochio
·
Nid oes
sylfeini priodol ac nad yw’r waliau
yn ddiogel
·
Nid yw’r
estyniad yn addas i bwrpas heb wariant sylweddol
na ellir ei gyfiawnhau
·
Nad yw’r
bwriad yn golygu dymchwel sylweddol oddeutu 20% ac nid yw yn
effeithio ar ei gymeriad
·
Bod y bwriad yn cynnig
ateb addas, a’i fod yn
ddyluniad da sy’n gweddu i adeilad rhestredig a’r cyd-destun ehangach
·
Nad oedd
rhesymau cadarn i wrthod y cais ac erfyniwyd ar i’r
Pwyllgor fynegi cefnogaeth o blaid y bwriad i’r Arolygwr
Cynllunio
(ch)
Gwrthwynebwyd y cais gan yr aelod lleol (nad oedd yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio
hwn) ac roedd yn gefnogol i’w wrthod am y rhesymau canlynol:
·
Bod teuluoedd wedi cynnal eu cartrefi yn
ofalus ac maent yn gydnaws gyda’r dyluniad traddodiadol
·
Bod prif nodweddion y teras wedi aros
yn gyfan
·
Ers cyflwyno cais cynllunio gwreiddiol bod
CADW wedi cydnabod bod Rhes Glandwr o bwysigrwydd
cenedlaethol
·
Bod CADW hefyd wedi argymell
mewn termau cryf y dylid clustnodi rhannau o ward y
Garth gan gynnwys Rhes Glandwr ar
gyfer statws ardal gadwraeth
·
Bod y cynigion yn cynnwys newidiadau sylweddol i gefn yr
eiddo, gan gynnwys dymchwel cyfran sylweddol o’r eiddo a’i ddisodli gyda
strwythur mwy ar ol-troed mwy o faint a fyddai’n
ymestyn y tu hwnt i’r llinell bresennol talcen y teras
·
Bod cynigion i newid y llinell doeau
·
Nad oedd unrhyw gyfiawnhad cadarn ynghylch
y newidiadau a chyfeiriwyd at bolisïau penodol Cyngor Gwynedd a pholisïau
cenedlaethol yn hyn o beth
·
Byddai’r
bwriad yn effeithio’n andwyol ar gysondeb presennol
cefn pob un o’r 7 eiddo yn
y teras
·
Nad
oedd yr estyniad
arfaethedig yn cynnig gostyngiad derbyniol ac nad oedd yn gydnaws
a chynllun yr ardd ac roedd yr
Aelod o’r farn y byddai’n creu effaith niweidiol
i’r adeilad rhestredig
·
Byddai’r ffens yn ddolur llygaid ac yn
rhwystro’r golygfeydd a mynediad i risiau’r traeth sydd wedi eu lleoli ar
dalcen yr eiddo
·
Erfyniwyd
am gymeradwyaeth y Pwyllgor
i wrthod y cais
(d) Mewn ymateb i
sylwadau wnaed, nododd yr Uwch Reolwr Gwasanaeth Cynllunio bod y cais yn
dyddio’n ôl i 2013 a phryd hynny nid oedd yr eiddo wedi ei restru. Derbyniwyd sylwadau gan gyrff statudol i’r
cais rhestredig ac felly fod hyn yn hynod bwysig yng nghyd-destun y cais. Roedd o’r farn y
gall bod 20% o waith dymchwel ar adeilad rhestredig yn cael ei ystyried yn
sylweddol ac er derbyniwyd adroddiad hwyr gan beiriannydd strwythurol roedd y
swyddogion cynllunio, yn dilyn asesiad pellach, yn parhau o’r farn nad oedd y wybodaeth yn cyfiawnhau'r angen am y gwaith
dymchwel ar adeilad rhestredig.
(dd) Cynigiwyd ac eiliwyd i wrthod y cais.
(e) Nodwyd y pwyntiau canlynol o
blaid i wrthod y cais:
·
bod Rhes Glandwr yn rhan bwysig
o hanes Bangor ac yn sicr ar gyfer dynodiad safle byd-eang o ran diwydiant
llechi
·
bod y rhesdai i gyd yn
rhestredig a’u cefnau'r un mor bwysig â thu blaen yr adeiladau
·
pwysigrwydd i gadw strwythur yr adeiladau fel
ag y maent
·
bod rhaid cymryd sylw
o sylwadau a dderbyniwyd gan gyrff statudol
sy’n arbenigo yn y maes
(f) Nododd Aelod nad oedd yn gefnogol i wrthod y
cais oherwydd y risg nad oedd yr adeilad yn ddiogel y dylid ei ddymchwel a’i
ail-adeiladu ac felly’n anodd ei wrthod gan nad oedd
yn groes i’r polisi.
(ff) Mewn ymateb i
ymholiad ynglŷn â gohirio i dderbyn mwy o wybodaeth, esboniodd yr Uwch
Reolwr Gwasanaeth Cynllunio nad oedd
cynnwys yr adroddiad peiriannyddol yn
cyfiawnhau dymchwel ac felly nad oedd rheswm i’w ohirio unwaith eto.
Penderfynwyd: Gwrthod oherwydd ni chyflwynwyd
gwybodaeth gadarn i gyfiawnhau’r gwaith
a pham na all yr adeilad rhestredig presennol gael ei addasu yn ei ffurf
bresennol yn unol â’r cyngor a geir yng Nghylchlythyr
y Swyddfa Gymreig 61/96 Cynllunio a’r Amgylchedd Hanesyddol: Adeiladau
Hanesyddol ac Ardaloedd Cadwraeth a Phennod 6 a Pholisi Cynllunio Cymru.
Dogfennau ategol: