Agenda item

Yn unol â’r Rhybudd o Gynnig a dderbyniwyd oddi wrtho dan Adran 4.20 o’r Cyfansoddiad, bydd y Cynghorydd Dyfed Edwards yn cynnig fel a ganlyn:-

 

Yn dilyn y Refferendwm diweddar ar aelodaeth o'r Undeb Ewropeaidd nodwn fel Cyngor fod pobl Gwynedd wedi pleidleisio yn glir i barhau yn aelodau o'r UE er i Gymru a gweddill gwledydd Prydain bleidleisio yn erbyn. Yn sgil y canlyniad yma, ail-ddatganwn fel Cyngor ein bod yn falch o fyw mewn cymdeithas amrywiol a goddefgar.

 

Nid oes gan hiliaeth, senoffobia a throseddau casineb unrhyw le yng Ngwynedd. Rydym fel Cyngor yn condemnio hiliaeth, senoffobia a throseddau casineb ac ni fyddwn yn caniatáu casineb i fod yn dderbyniol.

 

Byddwn yn gweithio i sicrhau bod cyrff a rhaglenni lleol yn cael y cymorth sydd angen  i ymladd ac atal hiliaeth a senoffobia.  Rydym hefyd yn rhoi sicrwydd i bawb sy'n byw yn yr ardal hon eu bod yn aelodau o'n cymuned werthfawr.”

 

Cofnod:

(b)     Cyflwynwyd y rhybudd o gynnig a ganlyn gan y Cynghorydd Dyfed Edwards o dan Adran 4.20 y Cyfansoddiad, ac fe’i eiliwyd:-

 

“Yn dilyn y Refferendwm diweddar ar aelodaeth o'r Undeb Ewropeaidd nodwn fel Cyngor fod pobl Gwynedd wedi pleidleisio yn glir i barhau yn aelodau o'r UE er i Gymru a gweddill gwledydd Prydain bleidleisio yn erbyn.  Yn sgil y canlyniad yma, ail-ddatganwn fel Cyngor ein bod yn falch o fyw mewn cymdeithas amrywiol a goddefgar.

 

Nid oes gan hiliaeth, senoffobia a throseddau casineb unrhyw le yng Ngwynedd. Rydym fel Cyngor yn condemnio hiliaeth, senoffobia a throseddau casineb ac ni fyddwn yn caniatáu casineb i fod yn dderbyniol.

 

Byddwn yn gweithio i sicrhau bod cyrff a rhaglenni lleol yn cael y cymorth sydd angen i ymladd ac atal hiliaeth a senoffobia.  Rydym hefyd yn rhoi sicrwydd i bawb sy'n byw yn yr ardal hon eu bod yn aelodau o'n cymuned werthfawr.”

 

Galwyd am bleidlais gofrestredig, ond ni phleidleisiodd chwarter yr aelodau oedd yn bresennol o blaid hynny.

 

Yn ystod y drafodaeth:-

 

·         Cyfeiriwyd at erthygl ddiweddar yn y wasg ynglŷn ag ymosodiad yn ystod oriau’r dydd ar ddynes mewn maes parcio archfarchnad ym Mangor.  Pwysleisiwyd bod y Cyngor hwn yn condemnio unrhyw fath o senoffobia neu droseddau yn erbyn y bobl hynny ‘rydym yn eu croesawu i’n cymuned a galwyd am roi pob cefnogaeth bosib’ i’r asiantaethau lleol a’r mudiadau trydydd sector sy’n cynorthwyo ffoaduriaid.

·         Nodwyd bod y cynnig yn awgrymu bod pawb a bleidleisiodd i adael yr Undeb Ewropeaidd yn euog o hiliaeth, senoffobia a throseddau casineb.  I’r gwrthwyneb, nodwyd bod y cynnig yn tynnu sylw at y ffaith bod rhai pobl wedi dehongli canlyniad y bleidlais fel modd i fynegi safbwyntiau hiliol.

 

Cynigiwyd ac eiliwyd gwelliant i ddiwygio’r cynnig drwy ddileu’r rhan gyntaf sy’n cyfeirio at ganlyniad y bleidlais a chychwyn gyda’r gair “Ail-ddatganwn”.

 

Nododd cynigydd y cynnig gwreiddiol fod y refferendwm a’r bleidlais i adael wedi esgor ar ymosodiadau ar bobl sydd wedi symud i mewn neu o dras wahanol gan fod rhai pobl wedi cymryd bod ganddynt bellach yr hawl i fod yn hiliol, lle nad oeddent cynt.  ‘Roedd y cynnig yn datgan bod canlyniad y refferendwm yng Ngwynedd o blaid parhau yn aelodau o gymuned Gwynedd, Cymru ac Ewrop, a mawr obeithiai y byddai’r mwyafrif yn dehongli’r cynnig felly.

 

Pleidleisiwyd ar y gwelliant, ac fe ddisgynnodd.

 

Cyfeiriwyd at ddau wall ffeithiol yn y cynnig, sef:-

 

·         ‘British Isles yn y Saesneg – nodwyd y dylid ei gywiro i ddarllen ‘UK’ gan fod Ynysoedd Prydain yn cynnwys Gweriniaeth Iwerddon.

·         Nad oedd yn wir i ddweud bod gweddill gwledydd Prydain wedi pleidleisio o blaid gadael yr Undeb Ewropeaidd gan i’r Alban a Gogledd Iwerddon bleidleisio i aros i mewn.

 

Cynigiwyd ac eiliwyd gwelliant pellach i gychwyn y cynnig gyda’r frawddeg ganlynol:-

 

“Tra bo Cyngor Gwynedd yn cydnabod ac yn parchu canlyniad refferendwm Ewrop, ‘rydym yn rhannu pryder bod lleiafrif bychan o bobl wedi cymryd y cyfle hwn i fynegi safbwyntiau hiliol yn ystod y dadleuon.  Ail-ddatganwn ....”

 

Pleidleisiwyd ar y gwelliant, ac fe ddisgynnodd.

 

Pleidleisiwyd ar y cynnig gwreiddiol (gyda’r cywiriadau a nodwyd), ac fe gariodd. 

 

PENDERFYNWYD yn dilyn y Refferendwm diweddar ar aelodaeth o'r Undeb Ewropeaidd nodwn fel Cyngor fod pobl Gwynedd wedi pleidleisio yn glir i barhau yn aelodau o'r UE, er i Gymru a rhai rhannau eraill o wledydd Prydain bleidleisio yn erbyn.  Yn sgil y canlyniad yma, ail-ddatganwn fel Cyngor ein bod yn falch o fyw mewn cymdeithas amrywiol a goddefgar.

 

Nid oes gan hiliaeth, senoffobia a throseddau casineb unrhyw le yng Ngwynedd. Rydym fel Cyngor yn condemnio hiliaeth, senoffobia a throseddau casineb ac ni fyddwn yn caniatáu casineb i fod yn dderbyniol.

 

Byddwn yn gweithio i sicrhau bod cyrff a rhaglenni lleol yn cael y cymorth sydd angen  i ymladd ac atal hiliaeth a senoffobia.  Rydym hefyd yn rhoi sicrwydd i bawb sy'n byw yn yr ardal hon eu bod yn aelodau o'n cymuned werthfawr.