Agenda item

Ystyried cais Mr A

 

(copi arwahan i aelodau’r Is Bwyllgor yn unig)

Cofnod:

1.         CAIS AM DRWYDDED GYRRU CERBYD HACNI / HURIO PREIFAT  (MR A)

 

a)    Cyflwynodd y Swyddog  Trwyddedu adroddiad ysgrifenedig ar gais a dderbyniwyd gan Mr A am drwydded gyrru cerbyd hacni/hurio preifat o’r newydd.

 

b)    Ategwyd bod  datganiad o gollfarnau wedi ei gyflwyno a bod y datganiad yn nodi bod gan yr ymgeisydd gollfarn a oedd yn berthnasol i drwyddedu gyrwyr tacsi. Gofynnwyd i’r Pwyllgor ystyried y cais yn unol â’r cofnod DBS, ac yn unol â’r canllawiau ar droseddau a chollfarnau perthnasol.

 

c)    Gwahoddwyd yr ymgeisydd i ymhelaethu ar ei gais ac yn benodol y gollfarn o guro a ddigwyddodd yn 2011 gan nodi mai digwyddiad domestig ydoedd rhwng ei wraig ag ef.  Ni fu i’w wraig gymryd achos yn ei erbyn ond oherwydd bod y digwyddiad wedi ei weld ar deledu cylch gyfyng bu i Gwasanaeth Erlyn y Goron cymryd camau yn ei erbyn.  Cadarnhaodd wrth y Panel ei fod yn parhau i fyw gyda’i wraig ac wedi cael dau blentyn, ac un arall ar y ffordd ers y digwyddiad.

 

 

ch)  Cyflwynwyd neges e-bost i genfogi cais Mr A gan Arolygydd gyda’r Heddlu ac yn datgan ei fod wedi ei adnabod ers dros 20 mlynedd. Mynegodd bod Mr A yn berson disglair, huawdl a charedig.  Roedd ar bob achlysur yn berson call a bod y gollfarn flaenorol yn ddigwyddiad hollol allan o’i gymeriad. Ni fyddai ganddo unrhyw bryder i gynnig swydd i Mr A. ac yn dymuno llwyddiant iddo dderbyn trwydded ar gyfer gyrru tacsi.  

 

d)    Ymatebodd Mr A i nifer o gwestiynau gan Aelodau’r Panel a oedd yn cynnwys materion am ei waith, rhesymau pam y cyflwynwyd y cais, a.y.b.

 

 

(dd)    Ymneilltuodd yr ymgeisydd a’r Swyddog Trwyddedu o’r ystafell  tra bu i aelodau’r Is-bwyllgor drafod y cais.

 

(e)  Wrth gyrraedd eu penderfyniad, roedd yr Is-bwyllgor wedi ystyried  y ffactorau canlynol :

 

·         gofynionPolisi Trwyddedu ar gyfer Hurio Preifat a Cherbydau Hacni  Cyngor Gwynedd’

·         ffurflen gais yr ymgeisydd

·         adroddiad yr Adran Drwyddedu ynghyd a’r datganiad DBS

·         sylwadau llafar gan yr ymgeisydd

·         e-bost o gefnogaeth gan Arolygydd gyda’r Heddlu

·         bod gan yr ymgeisydd gollfarnau blaenorol :

 

-       bod y collfarnau am ddifrod troseddol o 1990 a 1991 wedi digwydd 26 a 25 mlynedd yn ol. 

-       Bod y gollfarn am yfed a gyrru yn 1998 wedi digwydd 16 mlynedd yn ol ynghyd a’r drosedd am guro wedi digwydd yn 2011, 51/2 mlynedd yn ol

-       Er bod y collfarnau uchod yn rhai difrifol bu iddynt ddigwydd flynyddoedd yn ol

 

O dan baragraffau 6.5 a 11.3 o’r polisi perthnasol, ac o ysytired bod dros 3 mlynedd wedi mynd heibio mewn perthynas  a phob euogfarn, nad oedd yr Is-bwyllgor yn ystyried euogfarnau hyn yn sail ddigonol dros wrthod y cais. 

 

 

PENDERFYNWYD  bod yr ymgeisydd  yn berson addas a phriodol ar gyfer trwydded gyrrwr cerbyd hacni/hurio preifat  a  chaniatawyd cais Mr A am drwydded hacni/hurio preifat.