skip to main content

Agenda item

Newid amod rhif 2 (yn unol a'r cynlluniau a ganiatawyd) o caniatad rhif APP/Q6810/A/16/314218 er mwyn diwygio gosodiad mewnol yr ail lawr er mwyn darparu 8 uned 1 llofft a 2 uned 4 lloft yn lle 8 uned 1 lloft. 

 

AELOD LLEOL:        Cynghorydd John Wynn Jones

 

Dolen i'r dogfennau cefndir perthnasol

Cofnod:

Newid amod rhif 2 (yn unol â'r cynlluniau a ganiatawyd) o ganiatâd rhif APP/Q6810/A/16/314218 er mwyn diwygio gosodiad mewnol yr ail lawr er mwyn darparu 8 uned 1 llofft a 2 uned 4 llofft yn lle 8 uned 1 llofft.

 

(a)     Ymhelaethodd y Rheolwr Rheolaeth Datblygu ar gefndir y cais gan nodi mai cais ydoedd i ddiwygio amod rhif 2 o ganiatâd blaenorol er mwyn diwygio gosodiad mewnol yr ail lawr er mwyn darparu 2 uned ychwanegol o fewn y datblygiad (sef cyfanswm o 29 uned yn lle’r 27 uned a ganiatawyd yn flaenorol). Nodwyd nad oedd y cynllun yn golygu unrhyw newid i edrychiad allanol yr adeilad na gosodiad ffenestri o’r hyn oedd eisoes wedi ei ganiatáu ar apêl.

 

         Nodwyd y caniatawyd y cais blaenorol ar apêl ac roedd yr arolygydd cynllunio o’r farn bod y nifer o unedau yn weddol gymedrol ac na fyddai’n or-ddatblygiad o’r safle nac yn debygol o arwain at unrhyw niwed sylweddol i fwynderau preswylwyr presennol o ran sŵn neu aflonyddwch oherwydd gosodiad a dyluniad yr adeilad, rheolaeth y defnydd a phresenoldeb o fusnesau yn yr ardal gyfagos.

        

         Pwysleisiwyd nad oedd newid wedi bod yn y sefyllfa bolisi ers caniatáu’r cynllun blaenorol ac felly bod yr egwyddor yn parhau i fod yn dderbyniol gan fod y defnydd eisoes wedi ei ganiatáu ac mae’r bwriad yma yn ddiwygiad bychan i’r caniatâd hwnnw felly ni ellir cwestiynu’r angen.

 

          Nodwyd y dylid rhoi ystyriaeth a phwysau sylweddol i’r arweiniad clir a roddwyd yn y penderfyniad apêl diweddar. Roedd y datblygiad yn cydymffurfio gyda’r CDUG ynghyd â pholisïau cenedlaethol am y rhesymau a roddwyd yn yr adroddiad.

 

(a)       Yn manteisio ar yr hawl i siarad nododd asiant yr ymgeisydd y prif bwyntiau canlynol:-

·         Mai newid gosodiad mewnol yn unig oedd dan sylw;

·         Fe newidir y gosodiad gan nad oedd galw am y math o unedau a gynlluniwyd;

·         Y byddai’r bwriad yn darparu unedau hunangynhaliol o safon ar gyfer myfyrwyr;

·         Bod yr arolygydd wedi nodi wrth benderfynu’r apêlYn groes i farn y Cyngor, rwy’n ystyried bod nifer yr unedau a gynigir yn weddol gymedrol.”

 

(b)      Gwrthwynebwyd y cais gan yr aelod lleol, (nad oedd yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn), a gwnaed y prif bwyntiau canlynol ganddo:

·         Nad oedd yn ymwybodol o’r apêl tan ar ôl y dyfarniad;

·         Ei siomedigaeth y cysidrir caniatáu’r cais gan nad oes gofyn am y math yma o ddarpariaeth;

·         Y byddai’r fflatiau yn wag gan fod maint yr ystafelloedd yn mynd rhy fach;

·         Ei fod yn flin bod adeilad hanesyddol wedi ei golli.

 

(ch)   Mewn ymateb i sylwadau’r aelod lleol, nododd yr Uwch Reolwr Gwasanaeth Cynllunio:-

·         Ei fod wedi trafod y mater o ran derbyn rhybudd o’r apêl efo’r aelod lleol a’i fod wedi dod i’r amlwg bod problemau technegol efo I-Pad yr aelod wedi golygu nad oedd wedi derbyn rhybudd;

·         Ei fod yn deall y pryderon a’r siom o golli’r adeilad ond yng ngoleuni’r penderfyniad apêl diweddar a gan mai cais am 2 uned ychwanegol yn unig ydyw y byddai’n anodd tystiolaethu gwrthodiad.

 

(d)     Cynigwyd i wrthod y cais oherwydd ei fod yn or-ddatblygiad. Eiliwyd y cynnig.

 

          Nododd yr Uwch Reolwr Gwasanaeth Cynllunio bod y Pwyllgor wedi gwrthod y cais gwreiddiol ar y sail ei fod yn or-ddatblygiad ac os gwrthodir y cais yma ar yr un sail, y byddai risg o gostau yn erbyn y Cyngor mewn apêl yn enwedig o ystyried na fyddai newid ffisegol i’r adeilad. Nodwyd y byddai disgwyliad i’r cynigydd a’r eilydd gynrychioli’r Cyngor mewn apêl.

 

          Mewn ymateb i sylw gan y cynigydd bod 2 uned ychwanegol yn golygu nad oedd y bwriad yr un fath, nododd yr Uwch Gyfreithiwr bod y ffaith nad yw’r bwriad yr un fath ddim yn golygu ei fod yn or-ddatblygiad a bod rhaid tystiolaethu bod yr effaith o’r ddwy uned ychwanegol yn annerbyniol o safbwynt cynllunio.

 

          Tynnodd y cynigydd ei gynnig yn ôl.

 

          Nododd yr eilydd ei ddymuniad i wrthod y cais oherwydd gormodedd o lety myfyrwyr, safle’r cais wedi ei leoli mewn ardal breswyl deuluol a phroblemau parcio ar Ffordd Euston. Mewn ymateb, nododd yr Uwch Reolwr Gwasanaeth Cynllunio os gwrthodir y cais am y rhesymau yma y byddai apêl yn cael ei golli gyda chostau i’r Cyngor felly ni fyddai ganddo unrhyw ddewis ond i gyfeirio’r cais i gyfnod o gnoi cil.

 

(dd)   Cynigwyd ac eiliwyd i ganiatáu’r cais.

 

          Mewn ymateb i sylw gan aelod o ran pendraw i geisiadau llety myfyrwyr, nododd yr Uwch Reolwr Gwasanaeth Cynllunio bod rhaid delio efo’r cais gerbron. Ychwanegodd unwaith y byddai’r Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd wedi ei fabwysiadu y byddai’r polisïau yn rhoi mwy o fanylder ac o gymorth i’r Pwyllgor wrth ddod i benderfyniad ar geisiadau.

 

Yn ystod y drafodaeth ddilynol nodwyd y prif sylwadau canlynol:

 

·         Ei fod yn anodd cael rhesymau i gyfiawnhau gwrthod y cais o ystyried fod y cais gwreiddiol wedi derbyn caniatâd ar apêl;

·         Cydymdeimlo a safbwynt yr aelod lleol a bod patrwm yn ymddangos lle bo datblygwyr yn derbyn caniatâd am lety myfyrwyr ac yn hytrach na datblygu yn gwerthu’r safle am elw;

·         Bod y safle yn bell o’r brifysgol ac mewn ardal deuluol gan osod cynsail;

·         Tristwch o golli adeilad hanesyddol.

 

PENDERFYNWYD caniatáu’r cais.

 

         Amodau:

1.     Amser

2.     Cydymffurfio gyda’r cynlluniau.

3.     Cydymffurfio gyda’r amodau ynghlwm i’r caniatâd a rhoddwyd ar apêl APP/Q6810/A/ 16/314218 (llechi, deunyddiau, Dwr Cymru / materion draenio tir, tirweddu). 

 

Dogfennau ategol: