Adeiladu annedd a creu llefydd parcio.
AELOD LLEOL: Cynghorydd
Sian Wyn Hughes
Cofnod:
Adeiladu annedd a chreu llefydd parcio.
(a) Ymhelaethodd y Rheolwr Rheolaeth Datblygu ar gefndir y cais,
gan nodi y gohiriwyd y cais yng nghyfarfod y Pwyllgor a gynhaliwyd ar 5 Medi 2016 er mwyn asesu’r
manylion diwygiedig a’r ymatebion i’r
ail-ymgynghori. ‘Roedd
aelodau’r Pwyllgor wedi ymweld â’r
safle cyn y cyfarfod.
Adroddwyd
bod y cais yn gais amlinellol ar gyfer codi
tŷ annedd ar lain o dir
sy’n ffurfio rhan o ardd 10 Penrhos, Morfa Nefyn. Nodwyd gan mai cais amlinellol oedd gerbron mai’r
unig faterion yr ystyrir oedd
yr egwyddor o ddatblygu’r safle.
Tynnwyd
sylw nad oedd gan yr
Uned Drafnidiaeth wrthwynebiad i’r bwriad os gosodir amodau priodol i sicrhau
fod y gwrych / wal i ogledd
y fynedfa yn cael ei gostwng
a’i chynnal ar uchder dim uwch
nag 1 medr er mwyn diogelu’r llain gwelededd angenrheidiol o’r fynedfa.
Nodwyd wrth
ymdrin gyda’r cais daeth i’r
amlwg fod yna rai materion yn codi o safbwynt
perchnogaeth y trac preifat sy’n arwain
o’r ffordd sirol i’r safle.
Pwysleisiwyd bod y materion
o ran perchnogaeth tir yn gysylltiedig gyda’r trac yn
faterion sifil i’w datrys rhwng
yr ymgeisydd a pherchennog y tir neillog.
Nodwyd
oherwydd natur preswyl yr ardal,
ni ystyrir
byddai’r datblygiad allan o gymeriad nac yn cael
effaith andwyol ar fwynderau gweledol
na phreswyl yr ardal.
Roedd y datblygiad yn cydymffurfio
gyda’r CDUG am y rhesymau a roddwyd yn yr adroddiad.
(b) Gwrthwynebwyd y cais gan yr aelod
lleol, (oedd yn aelod o’r
Pwyllgor Cynllunio hwn), gwnaed y prif bwyntiau canlynol
ganddi:-
·
Byddai’r bwriad yn golygu
colli gwyrddni yn yr ardal gan effeithio ar fioamrywiaeth a phreifatrwydd tai
gerllaw;
·
Cwestiynu os oes angen am y
tŷ o ystyried bod oddeutu 30 o dai ar werth yn y pentref;
·
Na fyddai’r tŷ yn dŷ
fforddiadwy;
·
Pryder o ran effaith ar y gymuned
a’r Iaith Gymraeg gan fod y stoc tai bresennol ddim yn fforddiadwy;
·
Bod nifer o dai yn y pentref
yn rhai gwyliau ac yn wag ar adegau;
·
Pryder o ran mynediad i’r
safle a diogelwch ffyrdd mewn ardal lle bo damweiniau;
·
Bod yr hyn a fwriedir yn or-ddatblygiad na fyddai’n gweddu ei leoliad.
(c) Mewn ymateb i sylwadau’r
aelod lleol, nododd yr Uwch Reolwr Gwasanaeth Cynllunio mai cais am dŷ tu
fewn i’r ffin datblygu oedd
gerbron y Pwyllgor.
(ch)
Cynigwyd ac eiliwyd i ganiatáu’r cais.
Yn ystod y drafodaeth ddilynol nodwyd y prif sylwadau canlynol:
·
Pryder o ran gwelededd
pan fo’r trac yn dod i’r lôn. A ddylid
gofyn am ymlediad i wella’r sefyllfa?
·
O ystyried maint y tŷ a fyddai’n cyffwrdd â’r ffiniau ar
y ddwy ochr?
·
Pryder y gosodir cynsail yn yr
ardal os caniateir adeiladu tŷ yn yr
ardd;
·
Bod y Cyngor Tref yn gwrthwynebu’r
cais ac nid oedd mannau pasio
ar y trac preifat;
·
Y gwrych ddim ym mherchnogaeth
yr ymgeisydd;
·
Bod tai modern arall gerllaw’r safle;
·
Nid oedd rhesymau cynllunio i wrthod y cais
felly ni ellir
amddiffyn apêl.
(d) Mewn ymateb i’r sylwadau
uchod, nododd y swyddogion:-
·
Bod gwelededd i un cyfeiriad o’r fynedfa yn
is-safonol ond gan fod yr
ymgeisydd wedi cytuno i dynnu’r
gwrych i lawr i uchder
o 1 medr o flaen y safle ei fod
yn dderbyniol;
·
Nid oedd angen ymlediad oherwydd bod lled y lôn yn ddigonol
a bod y fynedfa yn un preifat gydag adwy
digonol;
·
Fe nodir yn y cais beth
fyddai uchafswm ac isafswm uchder y tŷ. Cyfeiriwyd at y ffaith na fyddai
maint dangosol yr eiddo yn
llawer gwahanol i'r hyn a ddisgwylir
maint tŷ fforddiadwy tri llofft deulawr i fod;
·
Bod Rheolaeth Adeiladu fel arfer
yn gofyn am fedr bob ochr i
ffin y safle ac o edrych ar y cynlluniau
bod mwy na medr bob ochr;
·
Bod y tir lle bwriedir adeiladu’r
tŷ yn dir ychwanegol i’r ardd wrth
ymyl y tŷ presennol;
·
Pe caniateir cais cynllunio llawn yn y dyfodol
fe osodir
amod bod rhaid gostwng uchder y gwrych cyn datblygu’r
safle. Roedd y mater sifil o ran perchnogaeth yn fater i’r
ymgeisydd ddatrys.
PENDERFYNWYD caniatáu’r cais.
Amodau:
1. Amser cychwyn y datblygiad a chyflwyno materion a gadwyd yn ôl.
2. Deunyddiau a gorffeniadau.
3. Mynediad a pharcio.
4. Tirweddu.
5. Dŵr Cymru – dŵr arwyneb.
6. Datblygiad yn cydymffurfio gyda chynlluniau a gymeradwywyd.
Dogfennau ategol: